Neidio i'r prif gynnwys
Newyddion Cyflogwyr

07 Rhagfyr 2021

Cyflogi pobl ifanc 16 ac 17 oed yn y sector gofal cymdeithasol yng Nghymru

Mae Gofal Cymdeithasol Cymru wedi rhyddhau canllawiau ar gyflogi pobl ifanc yng Nghymru. Mae angen i chi ystyried rhai materion, ond ni ddylid ystyried y rhain yn rhwystrau i gyflogaeth.

Mae pobl ifanc yn gallu gwneud cyfraniad gwerthfawr. Bydd gan rai brofiad o ofalu am aelodau’r teulu neu sgiliau bywyd perthnasol eraill.

Gallwch gyflogi pobl ifanc 16 ac 17 oed yn y sector gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae angen ichi sicrhau na wahaniaethir yn erbyn pobl ifanc
oherwydd eu hoedran.

Dylech chi wneud y canlynol:

  • Cydymffurfio â’r ‘rheoliadau gwasanaeth’. Yn benodol, dylech sicrhau:
  • Bod gan staff y gwybodaeth, sgiliau a’r cymhwysedd i sicrhau bod anghenion lles yr unigolyn wedi’w diwallu
  • Bod gan staff y sgiliau iaith a sgiliau cyfathrebu addas

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth ynglyn a’r rheoliadau yma.

  • Ymgymryd â phrosesau recriwtio diogel, gan gynnwys tystlythyrau a gwiriadau DBS.
  • Cael gafael ar adnoddau dysgu a datblygu priodol, gan gynnwys prentisiaeth. I gael rhagor o wybodaeth am brentisiaethau, edrychwch ar Gofal Cymdeithasol Cymru a Gyrfa Cymru.
  • Cefnogi’r person ifanc yn ei raglen ddysgu.
  • Rhoi pobl iau mewn tîm sefydledig i’w helpu i ddysgu gan staff profiadol.
  • Sicrhau na ofynnir i bobl ifanc wneud gwaith nad ydynt wedi’u hyfforddi ar ei gyfer, neu sydd ddim yn gorfforol neu’n feddyliol addas iddynt ei wneud.
  • Ystyried diffyg profiad ac anaeddfedrwydd y person ifanc wrth gwblhau asesiadau risg.
  • Sicrhau eich bod yn cynnig cefnogaeth briodol a pharhaus iddynt; rhaglenni dysgu a datblygu, hyfforddiant, cefnogaeth gan gymheiriaid, cysgodi neu fentora.
  • Trefnu amser rheolaidd gyda’r bobl ifanc ar gyfer myfyrio personol, gan roi cyfleoedd i drafod a gofyn cwestiynau ac i roi adborth ar eu datblygiad personol a’u gwaith.
  • Sicrhau bod y rheolwr cofrestredig (neu berson dirprwyedig) yn ymgymryd â gwaith goruchwylio ac arfarnu priodol yng nghyswllt y person ifanc.
  • Sicrhau bod y person ifanc yn gyfarwydd â’r codau ymarfer proffesiynol.
  • Sicrhewch nad yw person ifanc dibrofiad byth yn cael ei adael i roli lleoliad gofal, nac yn cael ei adael i weithio ar ei ben ei hun
  • Diogelu’r amser a neilltuwyd i’r person ifanc ar gyfer gweithgareddau dysgu .

I gael rhagor o wybodaeth ac arweiniad am gyflogi pobl ifanc 16 ac 17 oed, ewch i:

Mwy o erthyglau newyddion

Dewch o hyd i swydd mewn gofal plant

Os ydych chi'n ystyried gyrfa mewn gofal, edrychwch ar ein bwrdd swyddi i gael syniad o'r math o rolau sy'n fanteisiol.