Neidio i'r prif gynnwys
Newyddion

Mae Gofalwn Cymru yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac yn noddi'r diwrnod ar 6 Awst gyda'n Diwrnod Gofal.

Mwy yma

Cyffredinol

13 Ionawr 2021

Cyrsiau rhagarweiniol mewn gofal cymdeithasol a gofal plant

Woman sat in front of laptop

Ydych chi’n ystyried gweithio ym maes gofal cymdeithasol neu gofal plant?

Ydych chi’n teimlo bod angen i chi ennill sgiliau a dealltwriaeth o’r rolau sydd ar gael?

Mwy o wybodaeth am hyfforddiant Gofalwn Cymru sydd ar gael i chi.

Y rhaglen

Rydym yn cynnal cwrs hyfforddi am ddim, wedi’i ariannu’n llawn, i bobl sydd â diddordeb mewn gweithio ym maes gofal cymdeithasol o’r new Cyflwyniad i Ofal Cymdeithasol.

Mae’r rhaglen tri diwrnod ar gael i unrhyw un sy’n byw yng Nghymru a bydd yn cael ei chynnal ar-lein gyda llyfr gwaith i’w gwblhau.

Mae’r amseroedd rhwng 10am-2:30pm.

Bydd yr hyfforddiant yn cwmpasu’r hanfodion sydd eu hangen arnoch i ddechrau gweithio ym maes gofal cymdeithasol fel cyfathrebu, diogelu ac arferion gwaith. Pan fyddwch yn dechrau gweithio yn y sector, byddwch hefyd yn derbyn cymorth a hyfforddiant ychwanegol gan eich cyflogwr.

Os na allwch gael mynediad i’r hyfforddiant ar-lein neu os oes angen cymorth arnoch, cysylltwch â ni ar cyswllt@gofalwn.cymru.

Os ydych yn ansicr am yrfa mewn gofal cymdeithasol, mae ein hadnodd dysgu rhyngweithiol i ddarganfod mwy www.Gofalwn.cymru/dechrau-gofal-yn-galw/.

I weithio o fewn y sector gofal cymdeithasol – Bydd angen i chi gael rhai gwiriadau i sicrhau eich bod yn addas i weithio yn y sector gofal, byddwn yn eich helpu gyda’r rhain. Bydd hyn yn cynnwys rhywbeth o’r enw gwiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i sicrhau y gallwch weithio ym maes Gofal Cymdeithasol. Mae rhai rolau hefyd yn gofyn am gofrestriad Gofal Cymdeithasol Cymru.

Nid yw’r rhaglen hon yn gymhwyster achrededig ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Am fwy o wybodaeth am nawddau a hawliau gwaith ewch i www.gov.uk

Swyddi

Ar ddiwedd y rhaglen bydd ein hyfforddwr gwaith yn eich cynorthwyo, i chwilio am swyddi gwag sydd ar gael. Ni allwn sicrhau y byddwch yn llwyddiannus mewn cael swydd y sector gofal cymdeithasol, ond byddwch mewn lle gwell i ddod o hyd i gyflogaeth.

Mae’r prosiect yn rhad ac am ddim ac wedi’i hariannu’n llawn, ond ni fyddwch yn derbyn tâl am fynychu. Byddwch yn derbyn sgiliau a gwybodaeth hanfodol wrth i chi ddechrau ar eich taith.

Cynllun cyfweliad gwarantedig

Mae mwy na 50 o gyflogwyr wedi ymuno â chynllun newydd i helpu mwy o bobl gael swydd mewn gofal cymdeithasol.

Bydd y cynllun, a reolwyd gan Gofalwn Cymru, yn helpu unrhyw un sydd wedi cwblhau’r rhaglen Cyflwyniad i Ofal Cymdeithasol gael cyfweliad, a gwneud hi’n haws iddyn nhw gael swydd mewn gofal cymdeithasol.

Mae’r cynllun yn bartneriaeth gyda chyflogwyr gofal cymdeithasol ar draws Cymru ac yn helpu pobl sy’n chwilio am swyddi a chyflogwyr.

Mae’n cyflymu’r broses recriwtio, fel bod pobl yn gallu cychwyn mewn swyddi’n gynt ac yn rhoi mantais iddyn nhw dros bobl eraill sy’n ceisio am yr un swyddi.

Mae hefyd yn helpu cyflogwyr ddod o hyd i’r bobl iawn i’r swyddi iawn, ac yn eu galluogi nhw i ddewis pobl sydd â gwir ddiddordeb mewn gofal cymdeithasol.

Sut mae’n gweithio

Ar ôl cwblhau’r rhaglen Cyflwyniad i Ofal Cymdeithasol, bydd Gofalwn Cymru yn rhoi rhestr o gyflogwyr iddyn nhw sydd wedi ymuno â’r cynllun cyfweliad gwarantedig.

Gall unrhyw un sydd wedi cwblhau’r rhaglen gysylltu â’r cyflogwyr yma i drefnu cyfweliad ffurfiol ar gyfer rôl gydag un o’r cwmnïau yma.

Bydd Gofalwn Cymru yn eu cyfeirio at borthol swyddi Gofalwn Cymru sy’n hysbysebu swyddi gyda chyflogwyr gofal cymdeithasol, gan gynnwys rhai sy’n rhan o’r cynllun cyfweliad gwarantedig.

Mae hyfforddwr gwaith Gofalwn Cymru hefyd ar gael i ddarparu hyfforddiant iddyn nhw i wella’u sgiliau cyfweliad, er mwyn eu paratoi ar gyfer cymryd eu camau cyntaf mewn gyrfa gofal cymdeithasol.

“Cynllun arbennig”

Lansiwyd y cynllun ym mis Gorffennaf ar ôl peilot llwyddiannus gyda Grŵp Pobl, darparwr tai, cymorth a gofal yng Nghasnewydd. Mae Pobl eisoes wedi cyflogi tri pherson ar ôl defnyddio’r cynllun cyfweliad gwarantedig.

Dywedodd Richard Barnes, Pennaeth Denu Talent ym Mhobl:

“Mae’n gynllun arbennig sy’n rhoi cyflwyniad cryf i’r sector. Mae gan y bobl rydyn ni eisoes wedi’u cyflogi agweddau gwych, dealltwriaeth dda o’u rolau newydd a dyfodol disglair o’u blaenau.”

Cofrestrwch ar gyfer ein gweminar cynllun cyfweliad gwarantedig nesaf ar Dydd Gwener 10 Chwefror.

Am ragor o wybodaeth e-bostiwch: cyswllt@gofalwn.cymru

Rhaglen cyflwyniad i ofal cymdeithasol i bobl ifanc

Os oes gennych ddiddordeb mewn dysgu mwy am ofal cymdeithasol
neu os ydych yn ystyried gyrfa ym maes gofal cymdeithasol neu
waith cymdeithasol yn y dyfodol, ymunwch â’n rhaglen a
dechreuwch eich taith gofal cymdeithasol heddiw. Mae ein rhaglen Cyflwyniad i Ofal Cymdeithasol i Bobl Ifanc yn addas ar gyfer pobl ifanc rhwng 14 a 17 oed a bydd yn rhedeg ddwywaith yn ystod y Pasg a ddwywaith yn yr hâf.

Bydd yr hyfforddiant yn cynnwys:

• Beth yw gofal cymdeithasol?
• Rolau o fewn gofal cymdeithasol
• Rhinweddau a disgwyliadau gweithiwr
gofal cymdeithasol
• Ffeindio swydd ym maes gofal
cymdeithasol
• Dyletswydd gofal, risg a diogelu
• Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a
Llesiant (Cymru) 2014
• Gweithio amlasiantaethol
• Cyfathrebu a rhwystrau
• Cyfrinachedd a chydsyniad
• Hyrwyddo annibyniaeth
• Gwydnwch a lles personol

I archebu eich lle ar un o’r rhaglenni neu os oes gennych gwestiynau am y rhaglen, cysylltwch ag Anna Sullivan ar 02920 780596 neu cyswllt@gofalwn.cymru

Rhestr cyflogwyr

Môn

Blaenau Gwent

Pen-y-bont

Caerffili

Caerdydd

Sir gaerfyrddin

Ceredigion

Conwy

Sir ddinbych

Sir Fflint

  • Haulfryn Care Limited, Cartref gofal dementia yn Sir y Fflint Rhif ffôn: 01978 762203 | E-bost:info@haulfryn-care.co.uk

Gwent

Gwynedd

Merthyr Tydfil

Sir fynwy

Castell-nedd Port Talbort

Casnewydd

Sir benfro

Powys

  • Mirus, gwaith gofal cymdeithasol, gofal preswyl a chefnogaeth seibiant yn Aberhonddu E-bost:recruitment@mirus-wales.org.uk | Rhif Ffôn: 02920 236216
  • Specturm Healthcare, gofal cartref a 1&1 yn Aberhonddu E-bost: spectrumhealthcare@rocketmail.com | Rhif Ffôn: 07483300730
  • Swanton care and community, E-bost: Lauren.batty@swantoncare.com | Rhif Ffôn: 07767162770
  • C&C healthcare, gofal cartref, anaf i’r ymennydd sy’n gysylltiedig â alochol yn Ystradgynlais E-bost:Emma.snell@candchealthcare.co.uk | Rhif Ffôn: 07568132047

Rhondda Cynon Taf

Abertawe

Torfaen

Bro Morgannwg

Cymru Gyfan

Wrecsam

Gweithdai

Oes gennych ddiddordeb mewn gweithio ym maes gofal cymdeithasol?  

Oes angen i chi ysgrifennu neu ddiweddaru eich CV, cyngor i lenwi ffurflenni cais neu eisiau magu eich hyder gyda chyfweliadau?  

Mae Gofalwn Cymru yn cynnig gweithdai ar-lein ac am ddim i’ch cefnogi yn y broses recriwtio ym maes gofal cymdeithasol.  

Gallwch edrych ar ddyddiadau sy’n addas i chi ac archebu eich lle yma: 

Gweithdy CV – Ionawr 23, Chwefror 13 a Mawrth 20

Gweithdy ffurflen gais– Ionawr 16, Chwefror 6 a Mawrth 13

Gweithdy cyfweld sgiliau – Ionawr 30, Chwefror 27 a Mawrth 27

Y rhaglen

Rydym yn cynnig rhaglen am ddim ‘Cyflwyniad i ofal plant’ ar gyfer pobl sy’n byw yng Nghymru i alluogi nhw i ennill gwybodaeth a sgiliau yn y sector gofal plant. Mae hwn yn gwrs deuddydd (dyddiadau wedi’u nodi isod). Drwy ddewis y cwrs hwn rydych yn cytuno i fynychu’r ddau sesiwn.

Ynglŷn â’r hyfforddiant

Bydd y rhaglen hyfforddi deuddydd yn cael ei chynnal ar-lein a bydd llyfr gwaith hefyd yn cael ei gwblhau.

Bydd yr hyfforddiant yn cwmpasu’r hanfodion sydd eu hangen i ddechrau gweithio ym maes gofal plant, gan gynnwys:

• Diogelu Grŵp A

• rolau a chyfrifoldebau gweithwyr gofal plant

• cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiad

• cyfathrebu gan gynnwys yr iaith Gymraeg

• Iechyd a diogelwch gan gynnwys rheoli heintiau

• dull sy’n canolbwyntio ar  y plentyn.

Os oes gennych ddiddordeb mewn dysgu mwy neu os ydych yn ystyried gyrfa mewn gofal plant, ymunwch â’n rhaglen a dechreuwch eich taith gofal plant heddiw!

Dyddiadau nesaf ar gael

Y dyddiadau ar gyfer yr hyfforddiant yw:

Ionawr 2023

10am-2.30pm ar Dydd Mawrth 10 a Dydd Mercher 11 o Ionawr (trwy gyfrwng y Gymraeg)

10am-2.30pm ar Dydd Mawrth 17 a Dydd Mawrth 24 o Ionawr

Chwefror 2023

10am-2.30pm ar Dydd Mawrth 14 a Dydd Mercher 15 o Chwefror

Swyddi sydd ar gael

Rydyn ni wedi gofyn i gyflogwyr i gofrestru unrhyw swyddi gwag sydd ganddynt ar www.Gofalwn.cymru/swyddi. Gallwch wneud cais am un o’r swyddi hyn cyn, yn ystod neu ar ôl i chi fynychu’r cwrs hyfforddi, ond bydd cwblhau’r cwrs yn sicrhau eich bod yn barod i weithio.

Dilynol

Os ydych yn rhan o raglen gyflogadwyedd (er enghraifft, gyda Workways neu Job Centre Plus), efallai gallwch gael cymorth gyda chostau teithio ar gyfer mynychu cyfweliadau.

Rydyn ni eisiau gwybod pa mor dda mae’r hyfforddiant yn gweithio. Byddwn yn cysylltu â chi mis ar ôl i chi cwblhau’r cwrs i gael adborth ac i weld os ydych wedi bod yn llwyddiannus mewn cael swydd ym maes gofal cymdeithasol.

Mwy o erthyglau newyddion

Dewch o hyd i swydd mewn gofal plant

Os ydych chi'n ystyried gyrfa mewn gofal, edrychwch ar ein bwrdd swyddi i gael syniad o'r math o rolau sy'n fanteisiol.