Cystadleuaeth Ffotograffiaeth Carers Wales
![](/assets/news/_hero/ribbon-carers.png)
Mae Carers Wales yn eich gwahodd i ddatgelu bywydau cudd gofalwyr di-dâl trwy ffotograffau sy’n dangos sut beth yw bywyd mewn gwirionedd i ofalwyr.
Mae 97% o ofal yn cael ei ddarparu gan ofalwyr di-dâl. Bywydau sydd yn aml wedi’u cuddio o gymdeithas neu’n ddi ar wybod. Mae Carers Wales am ddatgelu’r brwydrau a’r buddugoliaethau y mae gofalwyr yn mynd drwyddynt bob dydd.
Mae’r gystadleuaeth yn cau ganol dydd ar 20 Mai, a chyhoeddir enillwyr yn ystod Wythnos y Gofalwyr, rhwng 8-14 Mehefin. Plîs darllenwch dudalen Telerau ac Amodau Carers Wales cyn cystadlu.
Darganfyddwch ragor o wybodaeth am y gystadleuaeth gyda Carers Wales.