Neidio i'r prif gynnwys
Cyffredinol

10 Mehefin 2021

Gwobrau Nyrs y Flwyddyn

Coleg Nyrsio Brenhinol yng Nghymru: Gwobrau Nyrs y Flwyddyn 2021

Mae Gwobrau Nyrs y Flwyddyn yn cydnabod arloesedd a rhagoriaeth yn ymarferol, gan gydnabod yr ymdrechion, yr ymrwymiad a’r cyflawniadau rhagorol a wnaed gan y gymuned nyrsio gyfan ledled Cymru.

Mae enwebiadau bellach ar agor ar gyfer nyrsys, bydwragedd, myfyrwyr nyrsio, a gweithwyr cymorth gofal iechyd ledled Cymru. Rhaid i enwebeion ddangos angerdd am eu proffesiwn a dangos gwahaniaeth mewn gofal, arweinyddiaeth, gwasanaeth ac arloesedd. Gall unigolion gael eu henwebu am wobr gan gyfoedion, timau, rheolwyr, cleifion a’r cyhoedd.

Dyma’r 17 categori gwobr:

Gwobr Uwch Nyrs a Nyrs Arbenigol
Gwobr Gofalu am Berson Hŷn
Gwobr Prif Swyddog Nyrsio Cymru
Gwobr Plant a Bydwreigiaeth
Gwobr Nyrsio Cymunedol
Gwobr Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd
Gwobr Gwella Iechyd Unigolion ac Iechyd y Boblogaeth
Gwobr Arloesi a Digideiddio mewn Nyrsio
Gwobr Anableddau Dysgu ac Iechyd Meddwl
Gwobr Cyflawniad Oes
Gwobr Addysg Nyrs
Gwobr Myfyriwr Nyrsio
Gwobr Nyrsio Gofal Sylfaenol
Gwobr Nyrs Gofrestredig (Oedolyn)
Cefnogi Addysg a Dysgu mewn Ymarfer
Gwobr Cefnogi Gwelliant Drwy Ymchwil
Gwobr Nyrsio Pediatrig Suzanne Goodall

Enwebwch eich arwr nyrsio nawr: www.rcn.org.uk/wales/get-involved/awards

Mwy o erthyglau newyddion

Dewch o hyd i swydd mewn gofal plant

Os ydych chi'n ystyried gyrfa mewn gofal, edrychwch ar ein bwrdd swyddi i gael syniad o'r math o rolau sy'n fanteisiol.