Neidio i'r prif gynnwys
Cyffredinol

21 Ebrill 2021

Lansio cerdyn cydnabod newydd

Mae Gofal Cymdeithasol Cymru wedi lansio Y Cerdyn Gweithiwr Gofal

Mae pob gweithiwr gofal yng Nghymru yn cael cynnig cerdyn cydnabod newydd sy’n eu hadnabod fel gweithwyr allweddol ac yn rhoi mynediad iddyn nhw i gynigion arbed arian. Fersiwn nesaf o gerdyn tebyg a lansiwyd y llynedd i helpu i gefnogi gweithwyr gofal wrth iddyn nhw wynebu heriau personol a phroffesiynol enfawr yn sgil y pandemig.

Bydd deiliaid cardiau yn elwa o gerdyn arian-yn-ôl, yn ogystal ag ystod eang o gynigion manwerthu, trwy ddarparwr gostyngiadau pwrpasol, sef Discounts for Carers. Bydd gan ddeiliaid cardiau hefyd fynediad at drefniadau siopa ffafriol mewn rhai archfarchnadoedd lle mae’r rheini’n dal i fodoli. Byddant hefyd yn cael eu diweddaru ar adnoddau, fel apiau symudol, y gellir eu defnyddio i’w helpu i gynnal eu lles corfforol a meddyliol.

Bydd y cerdyn newydd yn cynnig y buddion i weithwyr gofal cymdeithasol a gofal plant, chwarae a blynyddoedd cynnar yng Nghymru.

Bydd y cerdyn newydd yn caniatáu gweithwyr gofal cymdeithasol a gweithwyr gofal plant, chwarae a blynyddoedd cynnar yng Nghymru i gael mynediad at fuddion na fyddent fel arall yn eu cael o bosib, oherwydd mae’r cerdyn yn brawf eu bod yn cael eu cyflogi mewn rolau gofal.

Bydd y cerdyn newydd yn ddigidol, fel bod gweithwyr gofal yn gallu ei gadw yn waled eu ffonau clyfar. Bydd y rhai sydd heb ffonau clyfar yn gallu derbyn yr un buddion os oes ganddynt cyfeiriad e-bost a mynediad i’r rhyngrwyd.

Dywedodd Sue Evans, Prif Weithredwr Gofal Cymdeithasol Cymru: “Cafodd y cerdyn cydnabod a lansiwyd fis Ebrill diwethaf ei groesawu’n frwd gan bobl sy’n gweithio mewn gofal yng Nghymru. Roedd yn gydnabyddiaeth o’r ffaith eu bod yn weithwyr allweddol yn y frwydr yn erbyn y pandemig, a rhoddodd rai buddion gwerthfawr fel blaenoriaeth siopa mewn archfarchnadoedd mawr.

“Fe wnaeth dros 30,000 o weithwyr gofal lawrlwytho fersiwn ddigidol o’r cerdyn, a derbyniodd llawer mwy y cardiau go iawn. Roedd y cardiau gwreiddiol hyn yn ddilys tan 30 Ebrill 2021. Ond doedden ni ddim eisiau i’r cerdyn fod yn gysylltiedig â’r pandemig yn unig. Mae gweithwyr gofal yng Nghymru yn rhoi cefnogaeth hollbwysig i unigolion a chymunedau 24/7, ac nid yn ystod cyfnod o argyfwng fel COVID yn unig. Rydyn ni’n eisiau i’n gweithwyr gofal barhau i gael eu cydnabod a’u gwerthfawrogi am y gwaith gwych maen nhw’n ei wneud ddydd ar ôl dydd i ni i gyd a’n teuluoedd a’n ffrindiau.

“Mae rhywbeth fel hyn yn arbennig o bwysig i sector sy’n cynnwys miloedd o ddarparwyr gwahanol. Mae’n rhoi ymdeimlad o hunaniaeth iddyn nhw a rhai buddion diriaethol na fydden nhw efallai wedi gallu eu cael fel arall. Bydd e-byst yn mynd allan i’r sector gofal dros yr wythnos nesaf a bydd y cerdyn cydnabod newydd yn ddilys o 1 Mai. Er mai’n ddigidol yn unig fydd y cerdyn newydd, byddwn yn gwneud yn siŵr bod y gweithwyr hynny sydd heb ffonau clyfar dal yn gallu mwynhau’r buddion sydd ar gael”, ychwanegodd Sue.

Tanysgrifiwch am Cerdyn Gweithiwr Gofal Gofal Cymdeithasol Cymru

Mwy o erthyglau newyddion

Dewch o hyd i swydd mewn gofal plant

Os ydych chi'n ystyried gyrfa mewn gofal, edrychwch ar ein bwrdd swyddi i gael syniad o'r math o rolau sy'n fanteisiol.