Rydyn ni wedi bod yn brysur
Dyma grynodeb o waith Gofalwn Cymru dros y tri mis diwethaf.
Yn ein cylchlythyr ym mis Mehefin, fe lansion ni ein arolwg Beth yw Gofalwn Cymru. Bydd ymatebion i'r arolwg yn helpu i lywio ein cynllunio ar gyfer y dyfodol. Darllenwch fwy am yr arolwg fan hyn. Bydd yr arolwg ar agor tan ddiwedd mis Awst.
Cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr er mwyn derbyn yr holl wybodaeth diweddaraf.
Ym mis Mai, roedd presenoldeb gyda ni yn Eisteddfod yr Urdd yn Ynys Môn trwy’r wythnos. Mewn partneriaeth gydag un o’n cysylltwyr rhanbarthol, fe wnaethom ymgysylltu â rhanddeiliaid a phartneriaid mewn gweithgareddau ar ein stondin.
Ers mis Ebrill, rydyn ni wedi lansio pedwar fideo astudiaeth achos sy’n ffocysu ar rolau gwahanol ym maes gofal plant, chwarae a’r blynyddoedd cynnar. Gwyliwch nhw fan hyn:
Rydym hefyd wedi cyhoeddi newyddion am chwarae rhyng-genedlaethol, gan dynnu sylw at brosiect ym Mhenarth sy'n cael ei rannu'n fyd-eang ar hyn o bryd drwy Sefydliad Iechyd y Byd.