Neidio i'r prif gynnwys
Newyddion Cyflogwyr

20 Gorffennaf 2021

Sut mae'r pandemig wedi newid gofal plant?

Yn ddiweddar, rhannodd Alwena, dirprwy arweinydd Cylch Meithrin Rhostryfan, rai o’r heriau y maent wedi’u goresgyn yn ystod y pandemig.

Cyflwynwch eich hun a’ch rôl yng Nghylch Meithrin Rhostryfan…

Alwena ydw i, ond mae pobl yn fy adnabod fel Anti Wena hefyd, a dwi’n gweithio yng Nghylch Meithrin Rhostryfan yng Ngwynedd. Dwi’n gofalu am blant rhwng dwy a phedair oed. Dwi wrth fy modd yn gweithio gyda thîm mor agos o ferched ac mae yna bedair ohonom ni i gyd, ac ambell bâr o ddwylo ychwanegol i roi help llaw pan fo angen hefyd.

Dwi wedi bod yn gweithio yn y Cylch ers bron i 20 mlynedd. Cyn hyn, dwi wedi gweithio fel gofalwr gyda’r henoed ar ôl cwblhau cwrs Cynllun Hyfforddi Ieuenctid dwy flynedd o hyd. Dwi wedi bod yn gofalu am bobl erioed.

Pam wnaethoch chi benderfynu gweithio gyda phlant?

Roedd fy rôl yn gweithio gydag oedolion yn cynnwys llawer o waith shifft a gwaith nos. Doedd hynny ddim yn addas ar ôl cael dau o blant, a dyna’r rheswm am y newid i ofal plant. Roedd yr oriau ym maes gofal plant yn llawer mwy hyblyg.

 

Beth ydych chi’n ei hoffi am weithio gyda phlant?

Mi alla i ddweud â’m llaw ar fy nghalon mai dyma’r swydd orau y gallai unrhyw un ei chael. Rydych chi’n dysgu cymaint gan blant ac mae bod yn rhan o’u datblygiad yn gymaint o fendith.

Mae’r feithrinfa’n rhan o’r ysgol gynradd leol. Mae hyn yn golygu fy mod i’n medru cadw mewn cysylltiad â’r plant a’u gweld nhw bob cam o’r ffordd nes iddyn nhw adael i fynd i’r ysgol uwchradd. Dwi’n dal i gael plant yn dod ata i heddiw yn diolch i mi ac yn dweud na fyddant byth yn fy anghofio i. Mae hyn yn golygu llawer ac yn dod â chymaint o gysur a balchder yn y gwaith dwi’n ei wneud.

 

Pa heriau ydych chi wedi’u hwynebu yn ystod y pandemig?

Mae gorfod gwisgo masgiau wyneb gyda phlant ifanc wedi bod yn arbennig o anodd. Mae’r staff wedi arfer gwisgo elfennau o gyfarpar diogelu personol, fel menig a ffedogau, ond achosodd y masgiau dipyn o bryder i mi.

Roeddwn i’n poeni y gallai’r masgiau wyneb ddychryn rhai o’r plant iau a gwneud cyfathrebu’n anoddach i unrhyw un a allai fod yn drwm ei glyw. Mi wnes i awgrymu’r syniad o fasgiau wyneb clir i’r tîm ac roedden nhw’n meddwl ei fod o’n syniad penigamp. Cyn pen dim, roedd fy rheolwr wedi prynu’r masgiau.

 

Pa newidiadau ydych chi wedi’u gwneud i drefn bob dydd y plant?

Cyn i’r plant ddod i mewn i’r feithrinfa a’i gadael, mae’n rhaid iddyn nhw olchi eu dwylo a chael gwirio eu tymheredd. Rydyn ni wedi gorfod gwahanu’r plant hŷn ac iau, a oedd yn golygu creu dwy nyth, ac mi wnaethon ni roi’r enwau Loti a Doti iddyn nhw.

O ran eu gweithgareddau nhw o ddydd i ddydd, dydw i ddim yn teimlo bod y plant wedi colli allan ar ddim byd.  Os rhywbeth, rydyn ni wedi gorfod meddwl yn fwy creadigol ac wedi cyflwyno gweithgareddau awyr agored newydd. Dwi wedi plannu mwy o blanhigion nag erioed o’r blaen!

 

Sut ydych chi wedi ymdopi fel tîm?

Ers y pandemig, rydyn ni wedi gorfod cymryd llawer mwy o ragofalon. Rydyn ni wedi meddwl am yr hyn sydd orau i’r plant bob tro a sut allwn ni wneud iddyn nhw deimlo’n ddiogel ac yn gartrefol.

Rydyn ni fel teulu. Mae gweithio gyda thîm mor glos wedi helpu gyda rhai elfennau o’r pwysau, gan ein bod ni i gyd yn deall ein gilydd ac yn barod i fod yn gefn i’n gilydd bob amser.

 

 

Mwy o erthyglau newyddion

Dewch o hyd i swydd mewn gofal plant

Os ydych chi'n ystyried gyrfa mewn gofal, edrychwch ar ein bwrdd swyddi i gael syniad o'r math o rolau sy'n fanteisiol.