Neidio i'r prif gynnwys
Cyffredinol

02 Mehefin 2025

Wythnos Gwirfoddoli

Ray ceredigion volunteer

Cenfdir wythnos y gwirfoddolwyr

Mae Wythnos y Gwirfoddolwyr yn ddathliad ledled y DU sy’n cael ei gynnal yn flynyddol o’r dydd Llun cyntaf ym mis Mehefin, gan gydnabod cyfraniadau anhygoel gwirfoddolwyr ledled y wlad. Eleni, mae’n rhedeg o ddydd Llun 2 i ddydd Sul 8 Mehefin.

Lansiwyd y fenter hon yn 1984 ac mae wedi bod yn rhedeg ers dros 40 mlynedd, gan roi llwyfan i sefydliadau a chymunedau ddiolch i wirfoddolwyr presennol a blaenorol am eu hymdrechion gwerthfawr.

Mae’r ymgyrch hon yn taflu goleuni ar y bobl sy’n rhoi eu hamser, eu hegni a’u cydymdeimlad i gefnogi eraill, gan amlygu amrywiaeth ac undod gwaith gwirfoddol ledled Cymru a gweddill y DU.

Gwerth gwirfoddoli mewn gofal


I nodi’r wythnos arbennig hon, rydym wedi bod yn ymweld â sefydliadau gofal ledled Cymru i ddysgu mwy am sut maent yn cefnogi rôl hanfodol gwirfoddolwyr yn eu lleoliadau gofal, gan ddangos eu heffaith ar y sefydliad a’r gymuned ehangach.


Drwy gyfres o fideos astudiaeth achos pwerus, mae gwirfoddolwyr yn rhannu sut mae eu rolau wedi eu helpu i feithrin hyder, adeiladu cyfeillgarwch parhaol, a theimlo’n rhan o gymuned gefnogol ac amrywiol.


Mae eu straeon yn tynnu sylw at ba mor hanfodol yw gwirfoddoli—nid yn unig i’r unigolion a’r teuluoedd y maent yn eu cefnogi, ond hefyd i gryfder y sector gofal yn ei gyfanrwydd.

Fel y dywedodd un gwirfoddolwr:

Hebddom ni, ni fyddai gofal plant fforddiadwy ar gael i lawer o rieni.”

Ystyried gwirfoddoli?

Os ydych chi’n ystyried gwirfoddoli, nawr yw’r amser perffaith i gymryd rhan. P’un a ydych am roi rhywbeth yn ôl, ennill profiad, neu fod yn rhan o rywbeth ystyrlon, mae sefydliadau ledled Cymru yn barod i’ch cefnogi.


Dyma rai partneriaid cenedlaethol a all eich helpu i ddechrau:

Gwirfoddoli Cymru
Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC)
Cefnogaeth y Trydydd Sector Cymru

Mwy o erthyglau newyddion

Dewch o hyd i swydd mewn gofal plant

Os ydych chi'n ystyried gyrfa mewn gofal, edrychwch ar ein bwrdd swyddi i gael syniad o'r math o rolau sy'n fanteisiol.