Wythnos Gofalwn Cymru 2020
![](/assets/news/_hero/ToolkitImage_Cym-e1605112643168.jpg)
Bydd Wythnos Gofalwn Cymru yn taflu goleuni ar sut beth yw gweithio ym maes gofal cymdeithasol, blynyddoedd cynnar a gofal plant.
O heddiw, 16 Tachwedd, byddwn yn tynnu sylw at yr amrywiaeth o swyddi sydd ar gael yng Nghymru.
Bydd gweithwyr gofal yn rhannu eu profiadau o sut y dechreuon nhw eu gyrfa mewn gofal, sut brofiad yw gweithio mewn gwahanol rolau a’r hyn maen nhw’n ei fwynhau fwyaf am weithio mewn gofal. Darganfyddwch am ddigwyddiadau gyrfa a llawer mwy.
Dilynwch y gweithgareddau trwy ein sianeli cyfryngau cymdeithasol i gael y wybodaeth ddiweddaraf am bopeth sy’n digwydd yn ystod yr wythnos a dysgu mwy am y cyfleoedd sydd ar gael ar stepen eich drws – #WythnosGofalwn
Gallwch ein dilyn ar Instagram, Facebook a Trydar.
Ymunwch â ni ddydd Gwener 20 Tachwedd, rhwng 10 am-12pm, ar gyfer ein ffair yrfaoedd rithwir yng ngogledd Cymru.
Bydd cyflogwyr sy’n recriwtio ledled gogledd Cymru yn postio eu swyddi gwag byw ac yn rhannu manylion ar sut i wneud cais.
Byddwn yn rhannu adnoddau defnyddiol i’ch ysbrydoli i ddechrau neu newid eich taith yrfa yn llwyr.
Yma, rydyn ni’n dysgu am sut mae Cyngor Sir Ddinbych yn mabwysiadu dull mwy rhyngweithiol o recriwtio pobl sydd â’r gwerthoedd cywir…
![Welsh word cloud about values. Casgliad o eiriau am werthoedd.](/assets/news/Word-cloud-Cymraeg.jpg)
Ydych chi’n chwilio am swyddi gwag mewn gofal?
Chwiliwch ein porthol swyddi a gwnewch gais am rolau yn eich ardal chi nawr.