Ein taith brentisiaeth ym meithrinfa Chuckles
Enw: Kayleigh, Ellie and Hannah
Swydd: Prentisiaid ym Meithrinfa Chuckles
Cymhwyster prentisiaeth: Lefel 2 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer (GChDDP )

Ar hyn o bryd rydym i gyd yn brentisiaid yn Meithrinfa Chuckles, meithrinfa gofal dydd preifat sydd wedi'i lleoli yng Nghasnewydd, De Cymru. Mae gofal plant yn rhywbeth y mae gan bob un ohonom ddiddordeb ynddo ers yr ysgol, ac roeddem yn teimlo mai'r llwybr prentisiaethau, lle roedd gweithio mewn meithrinfa breifat wrth wneud ein cymhwyster, oedd y ffordd orau o ddechrau ein gyrfa ym maes gofal plant. Mynychodd dau ohonom ddiwrnod agored yn y feithrinfa, lle buom yn sgwrsio â staff a oedd wedi cwblhau eu cymwysterau wrth weithio. Roedd yn dda clywed o lygad y ffynnon sut beth oedd y brentisiaeth, ac fe wnaeth i ni deimlo'n hyderus yn ein penderfyniad i wneud cais.
Rydym wedi bod yn hyfforddi am rhwng dau a 18 mis, ac mae tri ohonom wedi cwblhau ein cymhwyster Lefel 2 mewn GChDDP cyn symud ymlaen i Lefel 3. Mae'r gefnogaeth a gawsom gan Hyfforddwyr ACT a'n haseswr wedi bod yn anhygoel. Maent wedi sicrhau ein bod wedi cael y gefnogaeth gywir i gwblhau tasgau ac ennill gwybodaeth. Maent wedi helpu i fagu hyder, ac roedd y newid o Lefel 2 i Lefel 3 yn llyfn oherwydd bod y gwaith a wnaethom yn Lefel 2 yn ein paratoi'n dda ar gyfer yr hyn a ddaeth nesaf.
Rydym i gyd wrth ein bodd yn gweithio yma, wrth i ni gwrdd â llawer o wahanol blant a gweithio gyda theuluoedd. Mae gallu gweithio mewn lleoliad gofal plant wrth gwblhau ein cymhwyster wedi helpu ni ddatblygu, gan ein bod wedi gallu manteisio o brofiadau aelodau eraill o'r tîm, gofyn cwestiynau, a dysgu amrywiaeth o sgiliau gwahanol.
Rydym i gyd yn bwriadu aros mewn gofal plant unwaith y byddwn wedi cymhwyso'n llawn ac rydym wedi bod yn archwilio gwahanol lwybrau, fel gweithio dramor neu mewn gwahanol fathau o leoliadau. Yr hyn yr ydym yn ei hoffi orau am y cymhwyster ydi’r opsiynau gyrfa gofal plant sydd ar gael ac nad yw'n ein cyfyngu i un llwybr yn unig. Byddem yn argymell prentisiaeth i unrhyw un sydd am fynd i ofal plant fel gyrfa, gan eich bod yn cael profiad gwerthfawr ac mae'r cymorth a gewch yn helpu i ddatblygu nid yn unig eich sgiliau fel ymarferydd gofal plant ond hefyd fel person.