Neidio i'r prif gynnwys

Taith prentisiaeth Paige

Enw: Paige Cousins

Swydd: Cynorthwy-ydd meithrin

Cymhwyster prentisiaeth: Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer (GChDDP)

Rwyf wedi astudio gyda ACT, sydd wedi fy helpu i gyflawni fy mhrentisiaeth Lefel 2 a Lefel 3 GChDDP. Rwyf hefyd wedi cwblhau fy nghwrs Gweithiwr Chwarae gyda ACT. Rwyf wedi gweithio mewn meithrinfa breifat o'r enw Cylch Meithrin Trelai ers mis Ionawr 2021, ac rwy'n dal i weithio yma ar hyn o bryd.

Mae gweithio gyda phlant wastad wedi bod yn llwybr gyrfa roeddwn i eisiau ei ddilyn yn ystod fy arddegau. Roeddwn bob amser yn gwarchod plant bach y tu allan i'r ysgol i fagu rhywfaint o brofiad, neu byddwn i'n helpu gartref trwy ofalu am fy mrodyr a chwiorydd gyda fy mam. Byddwn hefyd yn gwirfoddoli mewn clybiau ysgol i gael mwy o brofiad. Mae gweithio gyda phlant wastad wedi dod â llawenydd i mi, yn enwedig eu gwylio nhw'n datblygu a chreu perthnasau positif gyda nhw. Dyna pam y dewisais wneud prentisiaeth gydag ACT i weithio gyda phlant. Dewisais brentisiaeth oherwydd roeddwn i'n gwneud y swydd roeddwn i eisiau ei gwneud tra hefyd yn dysgu yn y swydd.

Roedd wneud fy Lefel 2 a Lefel 3 gydag ACT, yn brofiad anhygoel, a byddwn yn argymell i unrhyw un arall wneud prentisiaeth gydag ACT. Esboniwyd fy holl dasgau yn dda iawn, ac os oeddwn i'n cael trafferth, darparwyd help bob amser gan fy asesydd a oedd yn hynod ddefnyddiol. Gwnaed y broses o newid o orffen fy Lefel 2 i ddechrau fy Lefel 3 yn dda iawn ac roedd yn broses gyflym. Daeth fy holl gymwysterau ar gyfer cwblhau Lefel 2 GChDDP yn gyflym hefyd. Pan ddechreuais fy Lefel 3, roeddwn mewn sioc gan fod y rhan fwyaf ohono eisoes wedi'i wneud oherwydd fy mod wedi cwblhau Lefel 2 yn barod. Mae cwblhau fy mhrentisiaeth gydag ACT wedi fy helpu i gael gwybodaeth fanwl am blant, sydd wedi datblygu fy rôl fel cynorthwyydd meithrin. Pan ddechreuais fy swydd gyntaf yng Nghylch Meithrin Trelai, roeddwn yn meddwl mai dim ond amddiffyn y plant rhag niwed a chwarae gyda nhw oedd fy rol. Ond, erbyn hyn rwy'n gwybod fod lot fawr i’r swydd nag hyn. Mae'n rhaid i mi wybod yr holl bolisïau a gweithdrefnau, yn enwedig diogelu, gan mai dyna'r un pwysicaf. Rwy'n helpu'r plant i ddysgu wrth chwarae ac yn cadw golwg ar ddatblygiad pob plentyn allweddol i weld a oes angen unrhyw gymorth ychwanegol arnynt.

Er bod y brentisiaeth hon wedi fy helpu i ddeall sut i weithio gyda phlant, mae hefyd wedi fy helpu i fagu llawer mwy o hyder yn fy rôl. Pan ddechreuais i, roeddwn i'n dawel ac yn swil, ond dwi bellach yn llawer mwy hyderus yn fy rôl, diolch i ACT a fy nghydweithwyr gwaith. Byddwn yn argymell i unrhyw un wneud prentisiaeth gydag ACT gan fod fy mhrofiad wedi bod yn un llyfn, a dwi erioed wedi cael unrhyw drafferth gyda nhw. Roedd cymorth ar gael bob amser, ac rwyf mor hapus fy mod wedi gallu cyflawni fy nghymwysterau gydag ACT.