fbpx
Skip to main content

Polisi Preifatrwydd

Rydym yn cymryd preifatrwydd ein defnyddwyr o ddifrif. Isod, gallwch ddarllen y polisi preifatrwydd ar gyfer y wefan hon a’i chwaer-safleoedd; www.wecare.wales.

Mae’r polisi hwn yn nodi’r gwahanol feysydd lle mae preifatrwydd defnyddwyr yn y cwestiwn ac yn amlinellu gorfodaeth a gofynion y defnyddiwr. Caiff y modd y mae’r wefan hon yn prosesu, storio a diogelu data a gwybodaeth defnyddwyr ei nodi o fewn y polisi hwn. Rydym yn cydymffurfio â holl ddeddfau a gofynion cenedlaethol y DU ar gyfer preifatrwydd defnyddwyr.

 

Y defnydd o cwcis

Ffeiliau bach sy’n cael eu cadw ar yriant caled cyfrifiadur y defnyddiwr yw cwcis. Maent yn olrhain, cadw a storio gwybodaeth am ryngweithiadau a defnydd y defnyddiwr o’r wefan. Mae hyn yn caniatáu i’r wefan, trwy ei weinyddwr, i ddarparu profiad wedi’i deilwra ar gyfer defnyddwyr o fewn y wefan hon. Os yw defnyddwyr yn dymuno gwrthod y defnydd o, ac arbed cwcis o’r wefan hon i’w cyfrifiaduron, dylent gymryd camau o fewn gosodiadau diogelwch eu porwyr i atal pob cwci o’r wefan hon a’i darparwyr allanol.

Mae’r wefan hon yn defnyddio meddalwedd olrhain trydydd parti, Google Analytics, i fonitro defnydd ymwelwyr. Mae hyn yn ein galluogi i ddeall sut ydych yn ei defnyddio a gwella ein gwefan a’ch profiad yn barhaus. Bydd y feddalwedd yn arbed cwci i yriant caled eich cyfrifiadur i olrhain a monitro eich ymgysylltiad a’ch defnydd o’r wefan, ond ni fydd yn storio, arbed nac yn casglu unrhyw wybodaeth bersonol. Gallwch ddarllen polisi preifatrwydd Google yma am fwy o wybodaeth; www.google.com/privacy.html.

Gall darparwyr allanol storio cwcis eraill i’ch gyriant caled pan fo’r wefan hon yn defnyddio rhaglenni atgyfeirio, dolenni noddedig neu hysbysebion. Defnyddir cwcis o’r fath ar gyfer trawsnewid ac olrhain cyfeirio ac maent fel arfer yn dod i ben ar ôl 30 diwrnod, er y gall rhai gymryd mwy o amser. Ni chaiff unrhyw wybodaeth bersonol ei storio, ei arbed nac ei gasglu.

 

Cyswllt a chyfathrebu

Mae defnyddiwyr sy’n cysylltu â’r wefan a/ neu ei berchennog, yn gwneud hynny yn ôl eu disgresiwn eu hunain ac yn darparu unrhyw fanylion personol y gofynnir amdanynt ar eu cyfrifoldeb eu hunain. Cedwir eich gwybodaeth bersonol yn breifat a’i storio’n ddiogel hyd nad oes ei angen mwyach neu nid oes iddo unrhyw ddefnydd, fel yn Neddf Diogelu Data 2018. Gwnaed pob ymdrech i sicrhau bod ffurflen ddiogel yn cael ei hanfon i gyflwyno prosesau e-bost ond cynghorir defnyddwyr eu bod yn gwneud hynny ar eu cyfrifoldeb eu hunain.

Defnyddiwn unrhyw wybodaeth a gyflwynir i ddarparu rhagor o wybodaeth i chi ynghylch y gwasanaethau a gynigiwn neu i’ch cynorthwyo i ateb unrhyw gwestiynau neu ymholiadau a gyflwynwyd gennych. Nid yw hon yn rhestr gyflawn o’ch hawliau defnyddiwr yng nghyswllt derbyn deunydd marchnata ar e-bost. Ni chaiff eich manylion eu pasio at unrhyw drydydd parti – BYTH.

 

Dolenni allanol

Er mai dim ond cysylltiadau allanol diogel a pherthnasol y byddwn yn ceisio cynnwys, cynghorir defnyddwyr i fabwysiadu polisi o fod yn ofalus cyn clicio ar unrhyw gysylltiadau gwe allanol a gynhwysir ar y wefan hon. (Mae dolenni allanol yn cynnwys testun y gallwch glicio / baner / dolenni delweddau i wefannau eraill).

Ni allwn warantu neu wirio cynnwys unrhyw wefan sydd wedi’i chysylltu’n allanol er gwaethaf ein hymdrechion. Felly, dylai defnyddwyr nodi eu bod yn clicio ar gysylltiadau allanol ar eu cyfrifoldeb eu hunain ac ni all y wefan hon na’i pherchnogion fod yn atebol am unrhyw ddifrod neu oblygiadau a achosir trwy ymweld â chysylltiadau allanol.

 

Cyfryngau cymdeithasol

Mae cyfathrebu, ymgysylltu a chamau gweithredu trwy’r cyfryngau cymdeithasol allanol yr ydym yn ymwneud â hwy yn gysylltiedig â’r telerau a’r amodau yn ogystal â’r polisïau preifatrwydd a gynhelir gan bob cyfrwng cymdeithasol yn y drefn honno.

Cynghorir defnyddwyr i ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol yn ddoeth a chyfathrebu / ymgysylltu â hwy yn ofalus, yng nghyswllt eu preifatrwydd a’u manylion personol eu hunain. Ni fyddwn byth yn gofyn am wybodaeth bersonol na sensitif drwy’r cyfryngau cymdeithasol ac rydym yn annog defnyddwyr sy’n dymuno trafod manylion sensitif i gysylltu â ni trwy gyfrwng sianeli cyfathrebu sylfaenol megis dros y ffôn neu ar e-bost.

 

Adnoddau a gwybodaeth bellach

Os oes gennych unrhyw ymholiadau pellach, mae croeso i chi gysylltu â ni drwy cyswllt@gofalwn.cymru