Neidio i'r prif gynnwys
Newyddion

Rhwng 18 Tachwedd a 8 Rhagfyr, mae Gofalwn Cymru yn taflu goleuni ar waith gofal cartref a ailalluogi

Mwy yma

Rhian Owen – Cynorthwyydd Gofal

Mae Rhian yn byw’n lleol ar Ynys Môn ac yn siaradwr Cymraeg iaith gyntaf. Wedi dilyn olion traed ei mam ar ôl gadael yr ysgol, mae Rhian wedi bod yn weithiwr gofal ers 18 mlynedd, ac yn teimlo bod ei swydd yn wirioneddol gwerth chweil. Yn ystod y cyfnod hynny, mae hi wedi gweld yn uniongyrchol y gwahaniaeth y gall defnyddio’r Gymraeg ei wneud i’r bobl dan ei gofal.

Mae lot fawr o’r bobl ‘dan ni’n gofalu amdanyn nhw yn ei chael hi’n haws mynegi eu hunain yn Gymraeg, felly mae gallu cyfathrebu efo nhw yn eu hiaith ddewisol yn ei gwneud hi’n haws asesu’r anghenion.

“Mae rhai o’r preswylwyr yn nerfus wrth gyrraedd y cartref; mae’n newid mawr iddyn nhw felly mae’n bwysig bod rhai aelodau staff yn y cartref yn siarad Cymraeg. Mae’n eu gwneud nhw’n gyfforddus, ac yn helpu chi i greu perthynas yn syth.

“Mae ‘na gymysgedd o allu yma, dydi pawb ddim yn siarad Cymraeg ac mae rhai aelodau staff wedi dysgu wrth weithio – mae’n hawdd dysgu ychydig wrth wrando ar gydweithwyr a phreswylwyr yn siarad."