Neidio i'r prif gynnwys

Stori Damien – Gweithiwr Cefnogi Rhianta

Cyflwyniad

Daethom yn ymwybodol o ofal cymdeithasol ar ôl derbyn cadwraeth o fy mhlant ifanc. Gadewais swydd â chyflog da yn y diwydiant adeiladu i ofalu amdanynt. Cefais gefnogaeth gany gwasanaethau cymdeithasol fel rhiant ifanc ac roedd y gefnogaeth yn amhrisiadwy.

Cefais fy nghyfeirio at Dechrau’n Deg ac es i ar raglen rianta, gan fy mod eisiau bod yn dad gwell. Mynychais bob cwrs a oedd ar gael i fy helpu i ddatblygu.

Cefais hefyd brofiad uniongyrchol o fudd-daliadau, cefnogaeth gan gyngor ar bopeth a sut i lywio’r system gymorth.

Cefais fy annog yn ddiweddarach i wneud cais am swydd fel Gweithiwr Cymorth Rhianta gyda Dechrau’n Deg. Er ei fod yn wahanol iawn i fy rôl ym maes adeiladu, roedd sgiliau trosglwyddadwy fel cynllunio, gonestrwydd a meithrin perthnasoedd.

Mae’r gwerthoedd y mae angen i chi eu dal i weithio ym maes gofal cymdeithasol yn cynnwys:
  • Empathi
  • Anfeirniadol
  • Bod yn agored
  • Dibynadwyedd

Stori Damien

Yn ddiweddar bûm yn helpu’r ‘teulu Davies’* gyda hysbysiad troi allan, nid wyf yn defnyddio jargon, mae’n ymwneud â’i gadw’n syml. Rwy’n hoffi gweithio gyda’r teulu bob cam o’r ffordd, felly maen nhw’n teimlo eu bod yn cael cefnogaeth.

Mae ymyrraeth gynnar yn bwysig iawn yn enwedig pan fo sefydlogrwydd a diogelwch yn y cwestiwn. Gall fod llawer o straen emosiynol yn gysylltiedig â digwyddiadau bywyd o’r fath; fel symud cartref.

Rwy’n gweithio gyda theuluoedd lle mae problemau dyled, camddefnyddio sylweddau, camdrin domestig a phryderon iechyd meddwl.

Mae’r math hwn o waith yn gwneud i mi deimlo fy mod yn gwneud gwahaniaeth; Rwy’n teimlo’n falch ac yn werth chweil. Mae gweithio ym maes gofal cymdeithasol wedi rhoi i mi; sicrwydd, ymdeimlad o gyflawniad, y gallu i weithio’n hyblyg ac mae’n swydd wych.

Mae gofal cymdeithasol yn golygu i mi, dod â’r gymuned ynghyd a’i gwneud yn gryfach.

Enw teuluol wedi ei newid*

Cyfeirio at CBAC – TGAU Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant

  • Rhan 1.3: Ymyrraeth Gynnar, deall digwyddiadau bywyd
  • Rhan 2.3: Dangosyddion iechyd
  • Rhan 2.3: Risgiau i iechyd a lles

Cymorth athrawon

  1. Rhestrwch bump o wahanol ddigwyddiadau bywyd.
  2. Rhestrwch nifer o ffactorau ffordd o fyw a all achosi effaith negyddol.
  3. Sut gall y digwyddiad bywyd hwn gael effaith negyddol ar y teulu Davies?
  4. Enwch ddau ddewis ffordd o fyw afiach a pham y gallant fod yn niweidiol.

Lawrlwythwch yr astudiaeth achos ysgrifenedig hon fel PDF

PDF
171 KB