Neidio i'r prif gynnwys

Stori David

Cyflwyniad

Mae gan David barlys yr ymennydd; mae’n effeithio ar ei symudiad corfforol yn bennaf ar ei ochr dde. Mae’n gallu ffeindio tasgau bob dydd yn anodd fel cerdded, symud o’i gadair neu o’i wely. Mae’n cael trafferth gafael mewn eitemau a chario pethau.

Mae David eisiau bod yn annibynnol a phe na bai’n cael cymorth, ni fyddai’n gallu byw yn ei gartref ei hun. Mae angen cymorth corfforol arno i wneud rhai tasgau. Mae hyn yn caniatáu cydbwysedd emosiynol.

Meddai David “Mae cefnogi fy anghenion yn golygu y gallaf fynd allan i’r gymuned a gwneud y pethau rwy’n eu mwynhau. Mae’n bwysig i mi fynd allan i weld pobl, neu fe allwn i teimlo’n unig”

Beth sy’n bwysig i David?

Mae gweithwyr gofal cartref David bob amser yn gadarnhaol ac yn siriol, mae gan David synnwyr digrifwch, mae’n mwynhau cerddoriaeth a gwylio’r ‘operâu sebon’.

Mae David yn hoffi mynd allan i’r awyr agored; mae’n gwylio ei nai yn chwarae pêl-droed. Mae ganddo gadair olwyn a char wedi’u haddasu’n arbennig, felly gall yrru a bod yn annibynnol yn ymweld â’i deulu.

“Mae fy ngweithwyr gofal cartref yn gwybod beth sydd ei angen arnaf bob dydd. Dwi angen cefnogaeth i wisgo, mae gen i sgidiau wedi’u gwneud yn arbennig a hosanau cynnal y mae angen i mi eu gwisgo. Dwi angen rhywun i baratoi fy mwyd a chario pethau i mi. Mae gen i offer arbenigol yn fy nghartref i ganiatáu i mi fod yn annibynnol.

Eglura David “Heb gefnogaeth ni fyddwn yn gallu byw yn fy nghartref fy hun. Rydw i wedi byw yma ar hyd fy oes a fyddwn i ddim eisiau symud o fan hyn. Bob dydd, rwy’n gwneud fy newisiadau fy hun ac yn cael fy nghefnogi i wneud hynny sy’n fy ngalluogi i fyw bywyd boddhaus”

Cyfeiriadau at TGAU CBAC Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant

  • 1.2 Deall iechyd a lles 
  • 1.3 Cymryd rhan weithredol mewn gofal
  • 2.1 Darpariaeth gofal yng Nghymru 
  • 2.3 Dangosyddion iechyd

Cymorth i athrawon

  1. A yw David yn gyfranogwr gweithredol yn ei ofal? 
  2. Pa fath o ymyrraeth gynnar ac atal sydd wedi helpu David i aros gartref ac mor annibynnol â phosibl?
  3. Pwy arall fyddai’n gweithio gyda David?

Lawrlwythwch yr astudiaeth achos ysgrifenedig hon fel PDF

PDF
488 KB