00:00:02,100 --> 00:00:06,633 
Mae gofal cymdeithasol yn darparu 
cymorth i bobl o bob oed,  
00:00:06,633 --> 00:00:11,433 
sy’n byw mewn cymunedau ledled Cymru, 
ddydd a nos, bob diwrnod o’r flwyddyn. 
00:00:11,800 --> 00:00:15,666 
Mae pobl yn defnyddio gwasanaethau 
gofal a chymorth am wahanol resymau.  
00:00:15,666 --> 00:00:19,900 
Gallai fod i gael cymorth 
i sefydlu amgylcheddau diogel a sefydlog, 
00:00:19,900 --> 00:00:24,066 
i reoli eu hiechyd corfforol 
a meddyliol, neu i fyw'n annibynnol. 
00:00:24,066 --> 00:00:29,200 
Gall gofalwyr di-dâl, sy'n darparu gofal 
a chymorth i aelodau'r teulu neu ffrindiau,  
00:00:29,200 --> 00:00:31,933 
hefyd gael mynediad 
at ofal cymdeithasol. 
00:00:31,933 --> 00:00:36,300 
Mae’r term ‘gofal cymdeithasol’ 
yn cwmpasu amrywiaeth o weithgareddau,  
00:00:36,300 --> 00:00:38,366 
fel cymorth ymarferol ac emosiynol, 
00:00:38,366 --> 00:00:43,433 
darparu gwybodaeth, cyngor ac offer, 
diogelu, a gofal personol.  
00:00:43,933 --> 00:00:46,866 
Gall gofal cymdeithasol ddigwydd mewn amrywiaeth o leoliadau,  
00:00:46,866 --> 00:00:54,400 
gan gynnwys cartrefi pobl, cartrefi gofal,  
canolfannau dydd, ysbytai neu leoliadau cymunedol eraill. 
00:00:54,733 --> 00:00:58,300 
Mae’n cael ei ddarparu gan sefydliadau 
gan gynnwys awdurdodau lleol,  
00:00:58,300 --> 00:01:02,766 
cwmnïau preifat, elusennau,  
a sefydliadau nid er elw. 
00:01:02,766 --> 00:01:06,766 
Caiff cryn dipyn o ofal ei ddarparu 
gan ofalwyr di-dâl hefyd. 
00:01:06,766 --> 00:01:09,733 
Mae degau o filoedd 
o weithwyr proffesiynol medrus 
00:01:09,733 --> 00:01:13,366 
a chymwys iawn yn gweithio 
ym maes gofal cymdeithasol,  
00:01:13,366 --> 00:01:15,900 
mewn mwy na 75  
o wahanol swyddi. 
00:01:15,900 --> 00:01:19,700 
Rhaid i’r rhan fwyaf o weithwyr  
gofal cymdeithasol yng Nghymru gofrestru  
00:01:19,700 --> 00:01:24,200 
gyda Gofal Cymdeithasol Cymru 
a dilyn codau ymarfer proffesiynol.  
00:01:24,200 --> 00:01:29,666 
Mae’r Codau’n pennu safonau ymddygiad 
i gefnogi llesiant a diogelwch pobl. 
00:01:29,666 --> 00:01:34,666 
Mae gweithwyr gofal cymdeithasol  
yn cefnogi pobl i fynegi’r hyn sy’n bwysig iddyn nhw 
00:01:34,666 --> 00:01:42,333 
ac yn gosod amcanion drwy feithrin perthynas ystyrlon 
 sy’n rhoi gwerth ar brofiadau, iaith a diwylliant pobl.  
00:01:42,333 --> 00:01:46,833 
Maen nhw’n cefnogi pobl i nodi  
a gwneud y gorau o'u cryfderau personol,  
00:01:46,833 --> 00:01:50,100 
eu sgiliau a’u rhwydweithiau 
cymorth gan gynnwys teulu,  
00:01:50,100 --> 00:01:53,333 
ffrindiau ac adnoddau 
yn eu cymuned leol. 
00:01:53,333 --> 00:01:58,166 
Maen nhw’n gweithio gyda phobl mewn 
sefyllfaoedd o argyfwng ac yn y tymor hir.  
00:01:58,166 --> 00:02:03,300 
Mae sefydliadau gofal cymdeithasol 
yn gweithio gyda meysydd proffesiynol eraill, 
00:02:03,300 --> 00:02:10,033 
fel iechyd, addysg a'r heddlu, i ddarparu gwasanaethau  
gydag uniondeb, empathi ac arbenigedd. 
00:02:11,333 --> 00:02:14,166 
Byddai gweithiwr gofal  
cymdeithasol i mi yn 
00:02:14,166 --> 00:02:17,766 
anhygoel, yn ffantastig, 
ac yn ofalgar,  
00:02:18,366 --> 00:02:21,366 
ac yn fy helpu i fyw bywyd normal. 
00:02:22,900 --> 00:02:25,333 
I gael rhagor o wybodaeth am ofal cymdeithasol, 
00:02:25,333 --> 00:02:28,700 
ewch i gofalcymdeithasol.cymru 
00:02:28,700 --> 00:02:31,133 
Hoffech chi ddilyn gyrfa ym maes gofal? 
00:02:31,133 --> 00:02:34,900 
Ewch i gofalwn.cymru