Neidio i'r prif gynnwys

Catrin Jones Williams

Camau Bach Mudiad Meithrin

Darparu gofal tosturiol a meddylgar i blant meithrin yw angerdd a phwrpas Catrin.

Gan ddisgrifio ei rôl fel braint, mae rheolwr Camau Bach yn esbonio sut y cyflymodd ei phrentisiaeth ei gyrfa a’i galluogi i drosglwyddo i rôl gofal uwch.

Wedi’i gyrru gan ymroddiad gwirioneddol i ofalu am blant a’u teuluoedd, gwnaeth Catrin gydnabod bod angen iddi adnewyddu ei set sgiliau presennol i weddu i leoliad meithrinfa ac ymgymerodd â Phrentisiaeth Lefel 3.

Darparodd yr hyfforddiant gefndir mewn addysg feithrin iddi a rhoddodd y sgiliau angenrheidiol iddi gefnogi ei thîm.

Mae ei hysfa i wneud gwahaniaeth a’i hagwedd ymroddedig yn gwneud Catrin yn ased i’r sector gofal.

Mwy o straeon cyffredinol

Newydd i ofal? Darganfyddwch sut i ddechrau