Darren Mutter
Pennaeth Gwasanaethau Plant
Ar ôl hyfforddi fel gweithiwr cymdeithasol bron i 20 mlynedd yn ôl, mae Darren bellach yn gweithio fel uwch reolwr gwasanaethau plant i Gyngor Sir Penfro. Gall ei gyfrifoldebau o ddydd i ddydd fod yn heriol ond mae’n gwybod ei fod yn gwneud gwahaniaeth drwy wasanaethu pobl yn ei gymuned.
Holi ac Ateb gyda Darren
Pam wnest ti ddewis gweithio gyda phlant?
Ro’n i bob amser yn bwriadu gweithio mewn gwasanaethau oedolion, ond fe wnes i leoliad gyda’r gwasanaethau plant a gweld ‘mod i wrth fy modd yn gweithio gyda phlant a’u teuluoedd, felly fe arhoses i.
Beth yw’r agwedd fwyaf heriol ar dy swydd?
Mae gwneud penderfyniadau ar fy lefel i yn anodd oherwydd maent yn newid cyfeiriad bywyd person ifanc. Ond mae’n werth chweil pan welwch y teuluoedd yn llwyddo a’r plant yn datblygu mewn cartrefi diogel sydd â threfniadau gofal diogel.
Pa gyngor fyddet ti’n ei roi i unrhyw un sy’n ystyried gofal cymdeithasol?
Rhowch gynnig arni. Os ydych chi am weld pobl yn cael eu trin yn gyfartal, yn cael eu cefnogi a’u grymuso i gyflawni pethau gwell, i wella eu bywydau, gallai gofal cymdeithasol fod yn berffaith i chi.