1
00:00:01,693 --> 00:00:05,207
Roeddwn i wastad wedi bod mo'yn gweithio gyda phobl ifanc
achos
2
00:00:05,407 --> 00:00:12,683
yma i'n teimlo falle fi'n gryfach ynddo a fi'n licio adeiladu'r
perthynas positif yna gyda phobl ifanc.
3
00:00:12,970 --> 00:00:17,690
Gwnes i fynd amdano brentisiaeth oherwydd
gwnes i adael coleg
4
00:00:17,750 --> 00:00:20,877
ac mi oeddwn i'n edrych am swydd
a daeth y brentisiaeth yma lan
5
00:00:20,937 --> 00:00:25,783
yn y sir ac oeddwn i'n meddwl
bydd e'n swydd dda i fi i ddatblygu.
6
00:00:26,010 --> 00:00:29,800
Ar ôl gwneud y brentisiaeth
roedd e'n agoriad llygaid mawr
7
00:00:29,843 --> 00:00:34,960
faint o effaith oedd gweithio efo ieuenctid
yn cael ar bobl ifanc
8
00:00:35,023 --> 00:00:38,857
achos o'n i ddim yn gweithio
gyda gweithwyr ieuenctid pan oeddwn i'n ifancach
9
00:00:38,903 --> 00:00:43,583
felly doeddwn i ddim yn rili deall faint o effaith bositif
oedd y gweithwyr yma'n cael
10
00:00:43,617 --> 00:00:47,577
ar bobl ifanc yn yr ysgol
a thu allan ysgol hefyd.
11
00:00:47,663 --> 00:00:50,517
Mae yna lawer o gymorth
ar gael i ni trwy'r gwasanaeth,
12
00:00:50,543 --> 00:00:55,270
ni'n mynd ar lot o gyrsiau ar sut i ddelio
gyda datganiadau mae pobl ifanc yn dweud
13
00:00:55,297 --> 00:01:01,623
neu os mae rhywbeth yn galed i glywed
a hefyd mae wastad y bobl rwyt ti'n gweithio gyda, a hefyd ein rheolwr ni.
14
00:01:01,957 --> 00:01:07,710
Na, mae yna lawer o fodlonrwydd yn y swydd yma
pan wyt ti'n gweld person ifanc rwyt ti'n gweithio
15
00:01:07,750 --> 00:01:15,263
gyda yn datblygu mewn i berson lot fwy hyderus,
yn enwedig os maen nhw'n dod o gefndir sydd yn lot fwy bregus
16
00:01:15,297 --> 00:01:18,897
na beth wyt ti wedi cael ei dwyn lan gyda dy hunan.
17
00:01:19,003 --> 00:01:27,403
Oedd y brentisiaeth yn bwysig iawn i'r swydd yma achos fel...
yn rhan fi, mi wnes i ddod yn syth o goleg yn
18
00:01:27,430 --> 00:01:31,810
gwneud chwaraeon ac nac oeddwn yn rili deall
beth oedd y gwaith gweithiwr ieuenctid yn gwneud
19
00:01:31,850 --> 00:01:33,617
nes fy mod i wedi gwneud prentisiaeth.
20
00:01:33,663 --> 00:01:38,843
Mae angen sawl peth i ti fod yn
i weithio mewn swydd yng ngofal cymdeithasol.
21
00:01:38,890 --> 00:01:43,757
Mae rhaid ti fod yn gyfeillgar,
gorfod cael pobl i dy drystio (ymddiried) ti ac sydd mo'yn gweithio gyda thi.
22
00:01:43,797 --> 00:01:51,323
Mae hefyd rhaid i ti rili licio gwneud y swydd
achos mae'r pethau rwyt ti'n mynd i wneud yn gallu bod yn galed ambell waith.
23
00:01:51,417 --> 00:01:54,520
Ond fi'n credu bod chi'n gwneud e
oherwydd chi'n hoffi helpu pobl.
24
00:01:54,590 --> 00:02:00,563
Dylai pobl ddewis swydd yng ngofal cymdeithasol
os ydyn nhw mo'yn helpu pobl arall mas
25
00:02:01,097 --> 00:02:06,480
achos mae'n foddhaol gweld pobl yn symud ymlaen
gyda'u bywydau nhw mewn man positif.
26
00:02:09,137 --> 00:02:13,680
Dechreuwch yrfa mewn gofal gyda phrentisiaeth.