1
00:00:00,113 --> 00:00:01,793
Enw fi ydi Hannah Pearson
2
00:00:02,260 --> 00:00:06,700
a dwi yn gweithio fel Cydlynydd Gweithgareddau
yma yn Cartref Gofal Llys Elian.
3
00:00:07,120 --> 00:00:10,507
Felly, o'r bora tan y prynhawn
4
00:00:10,920 --> 00:00:13,187
yn ddibynnol ar amser cinio ac ati
5
00:00:13,288 --> 00:00:16,321
'da ni yn gwneud gweithgareddau all amrywio o
6
00:00:16,401 --> 00:00:20,348
celf a chrefft, i therapïau hel atgofion,
7
00:00:20,368 --> 00:00:22,919
i gemau geiriau, cwisiau
8
00:00:23,232 --> 00:00:25,892
ymarferion cadair a dawnsio.
9
00:00:25,932 --> 00:00:29,666
Ac hefyd yn amlwg
mae gan bobl ddiddordebau gwahanol,
10
00:00:29,679 --> 00:00:34,870
felly mae diddordebau personol
yn cael eu cymryd i ystyriaeth hefyd.
11
00:00:34,890 --> 00:00:37,504
Fel arfer byddem
yn cael diwrnodau allan a fuasai ni yn
12
00:00:37,677 --> 00:00:43,629
ymweld â'r theatrau a chael dangosiadau sinema
a byddai pobl yn dod i mewn i berfformio i ni.
13
00:00:43,924 --> 00:00:45,642
Oherwydd y pandemig,
14
00:00:45,688 --> 00:00:48,348
cefais fy niswyddo o fy rôl flaenorol.
15
00:00:48,362 --> 00:00:51,015
Fy rôl flaenorol oedd fel Rheolwr gwesty.
16
00:00:51,095 --> 00:00:55,022
Felly roedd rhaid i mi feddwl
am rywbeth hollol wahanol
17
00:00:55,228 --> 00:01:00,086
a dwi yn meddwl oedd gweithio yn y sector yn teimlo fel
18
00:01:00,106 --> 00:01:03,093
rywbeth cweit bwysig
a bod yn rhan o ddarlun ehangach.
19
00:01:03,213 --> 00:01:08,564
Nes i'n ngradd celf,
chydig flynyddoedd nôl rŵan, mewn celf gain
20
00:01:08,744 --> 00:01:11,237
ac ers gorffan y radd
21
00:01:11,511 --> 00:01:14,967
dwi erioed di cael rôl lle bu raid i mi ddefnyddio hi.
22
00:01:15,051 --> 00:01:20,382
Dwi yn defnyddio fy sgiliau celf
er budd yr unigolion yma
23
00:01:21,522 --> 00:01:23,855
felly eu lles
24
00:01:24,002 --> 00:01:28,055
a chael y cefndir celf yna a'i ddefnyddio
25
00:01:28,302 --> 00:01:30,060
i wella eu bywydau.
26
00:01:30,146 --> 00:01:34,120
Dwi ddim yn meddwl bod pobl
wastad yn deall pa mor bwysig yw'r rôl.
27
00:01:34,140 --> 00:01:37,360
Fydd rei pobl yn dweud
'mae gen ti swydd neis a hawdd'
28
00:01:37,573 --> 00:01:40,633
A yndi mae o yn swydd neis,
ond dydi y swydd ddim yn hawdd
29
00:01:40,686 --> 00:01:42,698
a mae o yn reit bwysig.
30
00:01:42,844 --> 00:01:45,371
Pan 'da chi yn meddwl am lesiant unigolyn
31
00:01:45,378 --> 00:01:48,138
'da chi fel arfer yn meddwl am eu llesiant corfforol
32
00:01:48,358 --> 00:01:50,478
a yndi, mae hynny yn bwysig ofnadwy
33
00:01:50,498 --> 00:01:54,749
ond mae eu llesiant creadigol,
cymdeithasol a emosiynol
34
00:01:54,762 --> 00:01:56,682
yn bwysig iawn hefyd.
35
00:01:57,029 --> 00:01:59,789
A dyna ydi pwrpas fy rôl.
36
00:01:59,902 --> 00:02:02,189
Fyswn i yn awgrymu gweithio
yn y maes Gofal Cymdeithasol,
37
00:02:02,395 --> 00:02:08,127
oherwydd ti yn cael cwrdd
a gweithio hefo dipyn o bobl gwahanol.
38
00:02:08,540 --> 00:02:12,067
Felly mae o yn gyfle i fod yn rhan o rywbeth mwy.
39
00:02:12,140 --> 00:02:15,498
Yn fy swydd flaenorol,
doeddwn i ddim wir yn teimlo felly
40
00:02:15,511 --> 00:02:18,404
ond yn y rôl yma ti yn rhan o rywbeth mwy
41
00:02:18,418 --> 00:02:21,811
a ti yn gwneud gwahaniaeth i fywydau unigolion.
42
00:02:22,298 --> 00:02:25,224
Dysgwch fwy ar Gofalwn.cymru