1
00:00:00,013 --> 00:00:01,233
Linda Roberts ydw i
2
00:00:01,340 --> 00:00:04,433
a dwi'n Weithiwr Cefnogol hefo tîm plant
3
00:00:04,447 --> 00:00:05,927
gwasanaethau cymdeithasol.
4
00:00:06,047 --> 00:00:08,640
Pwrpas fy swydd yw cefnogi teuluoedd,
5
00:00:08,660 --> 00:00:11,615
byddaf yn hebrwng plant sy'n byw hefo teuluoedd maeth
6
00:00:11,888 --> 00:00:13,088
i weld eu rhieni.
7
00:00:13,495 --> 00:00:17,621
Yn aml mae'r teuluoedd wedi profi anawsterau
8
00:00:18,008 --> 00:00:20,488
a dydi'r plant ddim yn cael byw hefo nhw.
9
00:00:20,635 --> 00:00:23,306
Nes i gychwyn y swydd yn achlysurol i ddechrau
10
00:00:23,339 --> 00:00:28,319
ond ges i flas ar y swydd a bellach dwi'n llawn amser.
11
00:00:28,546 --> 00:00:31,546
Ma' bob dydd yn fy swydd yn wobrwyol,
12
00:00:31,619 --> 00:00:34,084
dwi yn mwynhau fy swydd.
13
00:00:34,577 --> 00:00:38,904
Fyswn i'n meddwl am rywbeth sydd yn wobrwyol yn benodol
14
00:00:39,017 --> 00:00:42,110
er enghraifft pan mae'r llys efallai
15
00:00:42,124 --> 00:00:46,928
yn caniatáu plentyn i fynd i fyw yn nôl efo'i rhieni
16
00:00:46,988 --> 00:00:53,655
ar ôl cyfnod hefo ni a Tîm Trothwy, ma' hyna yn wobrwyol iawn.
17
00:00:53,695 --> 00:00:56,055
Ma' pobl dwi'n meddwl yn tueddu i feddwl mai
18
00:00:56,102 --> 00:00:59,862
dim ond hebrwng plant i gysylltiadau da ni'n neud
19
00:00:59,902 --> 00:01:02,855
ond ma'n golygu cymaint mwy na hynna.
20
00:01:03,082 --> 00:01:09,201
Da ni'n cefnogi'r teulu yn ei gyfanrwydd
21
00:01:09,581 --> 00:01:14,207
ac yn ysgrifennu adroddiadau manwl ac yn adrodd yn ôl.
22
00:01:14,281 --> 00:01:17,672
Dan ni'n gweithio'n agos iawn efo'r Gweithwyr Cymdeithasol.
23
00:01:17,825 --> 00:01:20,185
Ma' pob un teulu yn wahanol,
24
00:01:20,225 --> 00:01:25,218
felly da ni, cyn i ni fynd i weithio efo'r teulu yn
25
00:01:25,265 --> 00:01:29,985
gorfod meddwl o flaen llaw a bod yn broffesiynol bob amser
26
00:01:30,098 --> 00:01:33,167
er mwyn sicrhau tegwch iddyn nhw.
27
00:01:33,507 --> 00:01:39,087
Fyswn i'n awgrymu i unrhyw un
sydd â diddordeb i ddod i weithio mewn gofal.
28
00:01:39,114 --> 00:01:44,800
Mae o'n wobrwyol, a does yna yr un dau ddiwrnod yr un peth.
29
00:01:45,280 --> 00:01:48,100
Dysgwch fwy ar Gofalwn.cymru