Rachel Williams, Uwch Weithiwr Teulu
Uwch Weithiwr Teulu
Ymunodd Rachel â’r sector fel Cynorthwyydd Dosbarth a sylweddolodd yn gyflym gymaint yr oedd hi’n mwynhau gwneud gwahaniaeth i fywydau plant a’u gweld yn datblygu. Mae hi bellach yn cefnogi teuluoedd trwy Dechrau’n Deg yn Ynys Môn ac yn rhannu ei hangerdd dros weithio yn y blynyddoedd cynnar a gofal plant fel Llysgennad Gofalwn Cymru.
Holi ac Ateb gyda Rachel
Beth yw'r her fwyaf rydych chi wedi'i hwynebu dros y flwyddyn ddiwethaf?
Nid oeddem yn gallu gweld teuluoedd wyneb yn wyneb felly roedd yn rhaid i ni addasu’n eithaf cyflym i sicrhau eu bod yn dal i gael y gefnogaeth yr oedd ei hangen arnynt.
Sut ydych chi'n gwneud gwahaniaeth trwy eich rôl fel Llysgennad Gofalwn Cymru?
Rwy’n cael rhannu fy angerdd i hyrwyddo’r sector a hefyd helpu pobl nad ydyn nhw efallai’n gwybod pa rolau sydd yna a beth hoffen nhw eu gwneud.
Pa rinweddau sydd eu hangen arnoch chi i fod yn Llysgennad Gofalwn Cymru?
Gall unrhyw un sydd ag angerdd am weithio ym maes gofal ac sydd eisiau helpu eraill i fynd i mewn i’r sector fod yn Llysgennad Gofalwn Cymru.