1
00:00:00,047 --> 00:00:04,300
Sarah dwi a dwi yn gweithio i'r tîm Cefnogaeth Cyflogaeth
yn HFT Sir Y Fflint
2
00:00:04,660 --> 00:00:05,507
a dwi yn Hyfforddwr Swyddi.
3
00:00:05,520 --> 00:00:09,413
Dwi yn gweithio efo oedolion efo anableddau dysgu,
rwy'n dod o hyd i waith iddynt
4
00:00:09,500 --> 00:00:11,915
o fewn ein hardal leol.
5
00:00:11,995 --> 00:00:14,748
Gall y rolau fod yn rhai gwirfoddol
6
00:00:14,761 --> 00:00:20,448
ond yn ddelfrydol rydym am i unigolion ddal swydd â thal,
7
00:00:20,495 --> 00:00:23,126
felly yn dilyn cyflogaeth ystyrlon.
8
00:00:23,139 --> 00:00:26,286
Felly byddaf yn cysylltu gyda cwmni,
darganfod beth mae nhw eisiau
9
00:00:26,314 --> 00:00:29,201
edrych ar sgiliau yr unigolyn, dod a nhw at ei gilydd
10
00:00:29,226 --> 00:00:33,830
ac yna hyfforddi yr unigolyn i safon y cwmni.
11
00:00:33,884 --> 00:00:36,524
Dwi yn meddwl y darn heriol o'n rôl yw
12
00:00:36,544 --> 00:00:40,044
ymgysylltu â chwmnïau a busnesau,
13
00:00:40,090 --> 00:00:44,337
gwneud yn siŵr bod nhw'n ymddiried ynom fel gwasanaeth
14
00:00:44,397 --> 00:00:48,877
a neud yn siŵr bo' nhw'n gweld a sylweddoli potensial y criw.
15
00:00:48,890 --> 00:00:50,780
A sut all yr unigolion gyfrannu i'w busnes.
16
00:00:50,820 --> 00:00:54,084
Rwyf wastad wedi bod gyda diddordeb yn y swydd yma,
17
00:00:54,094 --> 00:00:56,020
Ac o ni wastad eisiau bod yn rhan o'r tîm.
18
00:00:56,107 --> 00:00:58,954
Mae gan fy chwaer, Judith, Down's Syndrome
19
00:00:59,000 --> 00:01:02,765
a gafodd hi ei chefnogi gan y tîm
dwi'n gweithio iddo ar hyn o bryd
20
00:01:02,891 --> 00:01:06,705
am flynyddoedd lawer,
felly ges i gyfle i weld rôl Hyfforddwr Swyddi
21
00:01:06,811 --> 00:01:08,551
ac o ni eisiau bod yn rhan o hynny.
22
00:01:08,778 --> 00:01:10,171
Felly... Dyma fi!
23
00:01:10,218 --> 00:01:12,885
Pan nes i adael ysgol, darfod fy Lefel A
24
00:01:12,916 --> 00:01:15,876
es yn syth i swydd fel Asiant Teithio.
25
00:01:15,916 --> 00:01:19,716
Ar ôl gweithio yn yr Asiantaeth Teithio
es i ymlaen i weithio i Marks and Spencer
26
00:01:19,736 --> 00:01:21,843
I'r tîm cymorth i gwsmeriaid.
27
00:01:21,863 --> 00:01:24,054
Sydd yn hollol wahanol i fy swydd rŵan
28
00:01:24,094 --> 00:01:26,214
ond oedd y gwaith yn cynnwys dipyn o siarad efo pobl
29
00:01:26,274 --> 00:01:28,121
a rhyngweithio efo pobl ac yn amlwg
30
00:01:28,141 --> 00:01:30,761
mae hwn yn sgil trosglwyddadwy.
31
00:01:30,801 --> 00:01:32,487
Dwi yn rili mwynhau fy swydd.
32
00:01:32,541 --> 00:01:36,598
Mae bob dydd yn wahanol efo sialensau gwahanol
33
00:01:36,645 --> 00:01:40,365
a dwi wrth fy modd yn gweld datblygiad unigolion,
rheiny sydd yn meddwl na allant gael swyddi
34
00:01:40,378 --> 00:01:41,832
a bod dim modd iddynt ddal ar swydd,
35
00:01:41,885 --> 00:01:44,038
i weithio, mwy neu lai
36
00:01:44,085 --> 00:01:49,043
llawn amser, yn annibynnol efo cymorth gwych o'u cwmpas.
37
00:01:49,085 --> 00:01:51,865
Cael eu gwahodd i bartïon Nadolig,
38
00:01:51,898 --> 00:01:56,218
a bob dim arall sydd yn dod o gael swydd,
39
00:01:56,272 --> 00:01:58,085
o gael eich integreiddio'n llawn i'r tîm
40
00:01:58,125 --> 00:02:00,313
mae o yn ffantastig a dwi wrth fy modd yn gweld hynny!
41
00:02:00,393 --> 00:02:01,920
Does na ddim diwrnod yn mynd heibio
42
00:02:01,940 --> 00:02:05,300
lle dwi ddim yn gwenu neu chwerthin ryw ben!
43
00:02:05,520 --> 00:02:08,867
Dysgwch fwy ar Gofalwn.cymru