1
00:00:00,047 --> 00:00:06,140
Sharon dwi, dwi'n Weithiwr Cymdeithasol
yn Tîm Iechyd Meddwl yma yng Ngwynedd.
2
00:00:06,180 --> 00:00:09,613
Mae'n rôl i o ddydd i ddydd reit amrywiol dweud y gwir.
3
00:00:09,620 --> 00:00:18,521
Dwi yn gweithio hefo pobl sydd hefo
salwch meddwl o 18 oed i fyny i unrhyw oed,
4
00:00:18,541 --> 00:00:22,155
gweithio hefo pobl hefo salwch meddwl reit ddwys ar y cyfan
5
00:00:22,161 --> 00:00:25,621
lle mae o bosib risgiau yn gallu bod ychydig bach yn uwch.
6
00:00:25,635 --> 00:00:29,692
Mae o'n golygu ymweld â phobl, rhan fwyaf yn eu cartrefi,
7
00:00:29,712 --> 00:00:32,579
neu os mae nhw wedi cael mynediad i ysbytai
8
00:00:32,652 --> 00:00:36,499
jyst cadw llygaid ar bobl,
ei cefnogi nhw os mae nhw wedi cael pwl anodd.
9
00:00:36,585 --> 00:00:42,310
Gwneud yn saff bod pawb yn parhau
i fod yn olew ac yn ymateb i unrhyw arwydd o ddirywiad.
10
00:00:42,417 --> 00:00:47,310
Dwi'n meddwl bod o'n gallu bod
ychydig bach weithiau bod pobl efo ryw
11
00:00:47,323 --> 00:00:49,917
efallai rhagdybiaeth ar ran Gweithwyr Cymdeithasol
12
00:00:49,943 --> 00:00:52,548
er mod i'n weithiwr yn y Tîm Iechyd meddwl,
13
00:00:52,603 --> 00:00:55,350
weithiau mae pobl yn gallu mynd
ychydig bach yn ryw nerfus neu bryderus
14
00:00:55,370 --> 00:00:57,357
yn meddwl pam bod nhw wedi cael gweithiwr Cymdeithasol.
15
00:00:57,470 --> 00:00:59,057
Ac mae'r ddelwedd weithiau dydi
16
00:00:59,250 --> 00:01:03,783
ar ran y wasg a ballu,
pobl yn gallu meddwl bod y rôl yn un negyddol felly.
17
00:01:03,843 --> 00:01:07,029
Ond ar y cyfan, dwi'n teimlo bod pobl yn eithaf positif
18
00:01:07,096 --> 00:01:09,069
munud mae rhywun yn deall beth 'da ni'n wneud
19
00:01:09,376 --> 00:01:12,842
ac yn cael cyfle i adeiladu perthynas hefo ni felly.
20
00:01:12,922 --> 00:01:16,336
Mae hi'n swydd ofnadwy o ddifyr ar ran
21
00:01:16,356 --> 00:01:19,982
mae hi'n amrywiol ofnadwy,
does yna ddim un diwrnod yr un fath,
22
00:01:20,002 --> 00:01:25,153
mae rhywun yn cael cyfarfod pobl
o wahanol gefndiroedd, gwahanol oed.
23
00:01:25,366 --> 00:01:32,093
Jyst pobl sydd weithiau wedi profi sefyllfaoedd anodd ofnadwy
24
00:01:32,200 --> 00:01:34,464
a does yna ddim un diwrnod yr un fath.
25
00:01:34,671 --> 00:01:38,924
Wedyn yn aml iawn mae o jyst yn fraint i gael cefnogi pobl
26
00:01:39,078 --> 00:01:42,571
ac i gael cyd weithio hefo pobl a jyst i ddod i adnabod pobl yn well.
27
00:01:42,684 --> 00:01:48,469
Mae gweithio mewn maes Iechyd a Gofal Meddwl
yn gallu bod yn ddifyr iawn ar ran
28
00:01:48,622 --> 00:01:50,635
dod ar draws bob math o sefyllfaoedd.
29
00:01:51,029 --> 00:01:54,569
Ond mae o'n waith sydd yn medru bod yn heriol ar adegau
30
00:01:54,735 --> 00:01:59,420
o ran bod rhywun yn dod i gysylltiad hefo pobl sydd yn mynd drwy
31
00:01:59,800 --> 00:02:04,587
ddigwyddiadau anodd iawn yn eu bywydau neu mae nhw yn cael pwl o
32
00:02:04,700 --> 00:02:06,827
salwch reit ddifrifol felly.
33
00:02:06,840 --> 00:02:09,158
A mae hynny yn medru bod yn anodd, mae o yn
34
00:02:09,191 --> 00:02:12,858
dwi'n meddwl yn profi rywun ar ran eu gwytnwch.
35
00:02:12,878 --> 00:02:16,371
Ond hefyd mae o'n rhywbeth
sydd yn gallu bod yn wobrwyol iawn,
36
00:02:16,725 --> 00:02:18,805
pan mae rhywun yn dod allan yr ochr arall iddi.
37
00:02:18,918 --> 00:02:21,920
Dysgwch fwy ar Gofalwn.cymru