Neidio i'r prif gynnwys

Tracey Jones

Rheolwr Meithrin

Ar ôl gadael y brifysgol, gwnaeth Tracey gais am swydd fel Cynorthwyydd Meithrin ym Meithrinfa Gofal Dydd Hollies. Yn ystod yr amser hwnnw, llwyddodd i gwblhau ei chymwysterau a symud ymlaen ddod yn Rheolwr Meithrin.

Holi ac Ateb gyda Tracey

Pa rinweddau sydd eu hangen arnoch i weithio ym maes gofal plant?

Mae angen i chi fod yn gynnes, yn angerddol, ac yn ofalgar. Ac mae angen i chi fod â llawer o amynedd a bod yn addasadwy gan nad oes unrhyw ddau ddiwrnod byth yr un peth!

Pa gymwysterau oedd angen i chi eu cwblhau?

Wrth weithio yn Hollies, cefais gyfle i wneud fy CACHE Lefel 3 yn y blynyddoedd cynnar a gofal plant. Pan gefais fy nyrchafu'n Rheolwr Meithrin, cwblheais fy CACHE Lefel 5 hefyd.

Beth yw'r peth gorau am weithio gyda phlant?

Mae eu gwylio nhw'n datblygu ac yn tyfu i ddod yn fwy hyderus ac annibynnol yn rhoi cymaint o foddhad.

Mwy o straeon gofal plant

Newydd i ofal? Darganfyddwch sut i ddechrau