1
00:00:05,000 --> 00:00:08,239
Roeddwn i eisiau gwirfoddoli
oherwydd pan oeddwn i'n ymweld â fy nhad
2
00:00:08,400 --> 00:00:11,879
Gwelais y nifer o dasgau
oedd yn rhaid i Paul, y gofalwr wneud.
3
00:00:12,039 --> 00:00:15,079
Felly siaradais â Claire a Paul
i weld a fyddent yn hapus
4
00:00:15,239 --> 00:00:17,680
petawn i’n dod â thîm o staff o EE
5
00:00:17,839 --> 00:00:20,519
i wneud peth o'r gwaith oedd angen eu gwneud.
6
00:00:20,680 --> 00:00:22,839
Mae’r tîm wedi bod yma bedair neu bum gwaith
7
00:00:23,000 --> 00:00:27,479
i wneud gwaith gwirfoddol
a rhoi rhywbeth yn ôl i'r gymuned.
8
00:00:27,519 --> 00:00:31,400
Pan gysylltodd Mark â mi gyda'r syniad
eu bod yn dod i wirfoddoli yn y cartref,
9
00:00:31,560 --> 00:00:33,200
roeddwn i'n meddwl “hollol anhygoel
10
00:00:33,360 --> 00:00:37,959
a pha mor wych” aces i ati
yn syth i wneud iddo ddigwydd.
11
00:00:38,119 --> 00:00:42,039
Mae’r gwirfoddolwyr wedi trawsnewid ein hardal patio.
12
00:00:42,200 --> 00:00:43,600
Mae'n edrych yn rhagorol
13
00:00:43,759 --> 00:00:48,000
ac mae'r trigolion yn aml yn gwneud sylwadau
ar ba mor brydferth yw'r blodau allan yna nawr.
14
00:00:48,159 --> 00:00:50,879
Hefyd, mae’n le llawer mwy croesawgar i’n hymwelwyr
15
00:00:51,039 --> 00:00:55,479
wrth i berthnasau a theuluoedd
ddod i eistedd gyda'r trigolion.
16
00:00:55,920 --> 00:00:57,720
Felly rydym yn gwneud llawer o dasgau yma,
17
00:00:57,879 --> 00:01:02,119
paentio, garddio, ysgubo, glanhau teils,
18
00:01:02,280 --> 00:01:05,920
symud sbwriel, codi dail, torri’r llwyni.
19
00:01:06,159 --> 00:01:07,839
Rydym yn hapus i wneud unrhyw beth.
20
00:01:08,159 --> 00:01:10,439
Mae'n wych i'n hiechyd meddwl a'n llesiant
21
00:01:10,600 --> 00:01:14,239
ac mae'n braf treulio amser gyda'n gilydd
y tu allan i’r swyddfa.
22
00:01:14,400 --> 00:01:18,439
Cyfle i ddod i nabod ein gilydd,
sy’n bositif i ni fel tîm
23
00:01:18,600 --> 00:01:20,439
a ni fel sefydliad;
24
00:01:20,600 --> 00:01:22,280
sydd yna’n beth da yn y pen draw
i'n cwsmeriaid hefyd.
25
00:01:22,439 --> 00:01:23,920
Mae'n wych bod yma,
26
00:01:24,079 --> 00:01:27,360
gan wybod fy mod wedi cyfrannu
at wneud y cartref i edrych ychydig yn well,
27
00:01:27,519 --> 00:01:29,959
gall y preswylwyr ei werthfawrogi, a’r staff hefyd.
28
00:01:30,280 --> 00:01:33,479
Mae’n golygu’r byd i mi weld
fy nhad yn eistedd allan yn yr ardd,
29
00:01:33,639 --> 00:01:35,280
rhywbeth na fyddai'n gwneud fel arfer.
30
00:01:35,439 --> 00:01:38,439
Yn mwynhau'r blodau,
y golygfeydd a'r gwaith paentio,
31
00:01:38,600 --> 00:01:42,680
yn ymlacio ac yn mwynhau yn yr awyr iach.
32
00:01:42,839 --> 00:01:47,439
Felly, rwyf wedi dysgu
nad yw'n cymryd llawer i roi rhywbeth yn ôl
33
00:01:48,079 --> 00:01:50,680
a does dim ots beth yw eich galluoedd corfforol,
34
00:01:50,839 --> 00:01:53,879
codi rhai dail
neu baentio un panel o ffens,
35
00:01:54,200 --> 00:01:56,119
hyd yn oed gwneud te yn unig,
36
00:01:56,280 --> 00:01:58,079
mae’n gwneud i chi deimlo’n dda
37
00:01:58,239 --> 00:02:00,039
mae’n gwneud gymaint o wahaniaeth ar y trigolion
38
00:02:00,200 --> 00:02:01,560
a gallai newid eich bywyd.
39
00:02:02,280 --> 00:02:06,920
Os ydych chi'n rheolwr,
anogaf i chi edrych am wirfoddolwyr
40
00:02:07,079 --> 00:02:08,839
oherwydd mae’n bosib na fydd
mor anodd ag yr ydych yn meddwl.
41
00:02:09,000 --> 00:02:12,079
Mae hyn wedi cymryd ychydig o ymdrech
42
00:02:12,239 --> 00:02:14,360
gyda llawer i'w elwa ohono.
43
00:02:14,519 --> 00:02:17,479
Gallwch gysylltu â'ch cymuned leol,
44
00:02:17,639 --> 00:02:21,200
edrychwch i weld pa grwpiau gwirfoddol
sydd ar gael yn eich ardal,
45
00:02:21,360 --> 00:02:23,560
cysylltwch â nhw er mwyn gwneud iddo ddigwydd.
ON SCREEN TEXT
00:00:00 - 00:00:04
Penarth
Cymru
00:00:12 - 00:00:16
Mark
Gwirfoddolwr
00:00:31 - 00:00:36
Claire
Rheolwr Cartref Tŷ Dewi Sant
00:02:24 - 00:02:25
Pobl arferol
Effaith anhygoel
00:02:27 - 00:02:28
Ymwelwch â wefan Gofalwn.cymru