Conwy County Borough Council / Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Lleoliad
Conwy
Pob ardal
Manylion
Math o gontract
Parhaol
Disgrifiad o'r swydd
Lleoliad gwaith: Coed Pella / Gweithio o'r gartref
Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno ag awdurdod blaenllaw yng Nghymru sy'n cael ei gydnabod am arfer da a gwasanaethau arloesol.
Rydym yn chwilio am unigolyn sydd â'r gallu i arwain yr agenda Diogelu Oedolion o fewn Conwy, a rheoli ystod o weithgareddau eang gan gynnwys cyfrifoldebau cadeirio a hyfforddi, gan ddarparu craffu annibynnol o oedolion sydd mewn perygl ac sydd â chynllun amddiffyn gofal a chymorth.
Mae'r swydd o fewn yr Uned Ddiogelu; sy'n cefnogi, datblygu a sicrhau ansawdd ym mhob arferion diogelu plant ac oedolion.
Bydd y deiliad swydd yn darparu ymgynghoriaeth ar ystod o rhanddeiliaid, hyrwyddo a chynyddu safonau arferion sy'n berthnasol i Ddiogelu Oedolion, a bydd yn gyfrifol am gadeirio Cynadleddau Achosion Diogelu Oedolion, cynnal goruchwyliaeth ar y weithdrefn Uwchgyfeirio Pryderon a chynrychioli'r Awdurdod Lleol mewn fforymau Rhanbarthol a Chenedlaethol.
Mae'n hanfodol eich bod yn meddu ar wybodaeth a dealltwriaeth gynhwysfawr o'r fframwaith deddfwriaethol a'r polisïau mewn perthynas â diogelu oedolion. Yn ogystal, rhaid i chi allu darparu tystiolaeth o'ch sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar ardderchog, y gallu i effeithio ar fywydau unigolion i hyrwyddo canlyniadau cadarnhaol a dylanwadu ar y rhwydweithiau proffesiynol rydych chi'n gweithio ynddynt.
Mae dealltwriaeth dda o reoli perfformiad a dangosyddion allweddol ar gyfer atebolrwydd a phrosesau statudol yn hanfodol er mwyn dangos arfer da.
Rydym yn chwilio am unigolyn gyda sgiliau amlwg i arwain, ysgogi a chyflawni canlyniadau cadarnhaol ar gyfer plant yng Nghonwy.
Oherwydd natur y gwaith, bydd angen datgeliad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd
Mae'r rôl hon yn cynnig opsiynau gweithio hyblyg ar gyfer cydbwysedd bywyd a gwaith. Gall hyn gynnwys addasu eich diwrnod gwaith a gweithio hybrid, hy cydbwysedd rhwng gweithio yn y swyddfa a gweithio gartref.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol:
Rhiannon Lloyd, Rheolwr Gwasanaeth
( Rhiannon.Lloyd@conwy.gov.uk / 01492575154 )
Gofynion y Gymraeg: Mae'r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o'n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na'r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na'i gilydd.
Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a'ch annog i ddefnyddio'ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i'ch cefnogi chi ymhellach.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu gweithlu amrywiol a thimoedd cynhwysol sy'n croesawu ystod eang o leisiau, profiadau, safbwyntiau a chefndiroedd. Mae creu gweithle sy'n groesawgar a lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn yn sicrhau y gallwn ddarparu gwasanaethau rhagorol.
Croesawn ac anogwn ymgeiswyr o bob cefndir a phrofiadau.
Rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Os oes gennych anabledd wedi'i ddatgan yn eich cais, gallwn sicrhau cyfweliad os ydych yn profi eich bod yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd yn eich cais (gofynion a nodir gyda 'H' ar y Manylion am yr Unigolyn).
Rydym yn fodlon darparu addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio (ac mewn cyflogaeth) lle bynnag bosibl. Anogwn i chi wneud cais am addasiadau. Er mwyn gwneud hyn, cysylltwch â'r rheolwr a enwir uchod er mwyn trafod eich anghenion a chymorth posibl. Mae dewisiadau i wneud cais trwy ffurfiau gwahanol, cysylltwch â'r Tîm AD ar 01492 576129 er mwyn trafod sut y gallwn eich cefnogi chi. Ni fydd y ceisiadau hyn yn eich rhoi dan unrhyw anfantais.
This form is also available in English.
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr