Gwasanaethau Gwaith Cymdeithasol / Gwasanaethau Cymdeithasol
Rôl
Gweithiwr cymdeithasol
Disgrifiad o'r swydd
Manylion
Hysbyseb Swydd
*DALIER SYLW* Mae Cyngor Gwynedd wedi ymrwymo i fod yn gyflogwr cynhwysol ac i wella amrywiaeth ein gweithlu. Bydd eich ffurflen gais yn cael ei hasesu yn ddienw. Ni fydd eich teitl, enw na chyfeiriad e-bost yn cael ei rannu â'r panel sy'n penodi at bwrpas llunio rhestr fer. Dylech ystyried hyn yn ofalus wrth ysgrifennu amdanoch eich hun yn y rhan gwybodaeth pellach.
Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu'n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi fel un o'r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Manon Fon Owen ar ManonFonOwen@gwynedd.llyw.cymru neu 03000 840 967
Cynnal cyfweliadau i'w gadarnhau.
Ffurflenni cais a manylion pellach gan , Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy'r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Pecyn Recriwtio Plant a Chefnogaeth Teuluoedd.pdf
Manylion Person
Nodweddion personol Hanfodol Gallu i ddangos empathi a dealltwriaeth o anghenion a profiadau plant ag anabledd a'u teuluoedd.
Gallu i ddelio/rheoli sefyllfaoedd sensitif yn ofalus ac yn ddoeth.
Y gallu i arwain eraill mewn maes proffesiynol.
Ymrwymiad i ymarfer cynhwysol
Ymrwymiad i gyfrinachedd
Ymrwymiad i fodelu egwyddorion gwrth-wahaniaethol a gwrth-ormesol creiddiol i'r gwasanaeth.
Trefnus, gyda sgiliau rheoli amser a blaenoriaethu effeithiol.
Hyblyg ac yn gallu addasu mewn amgylchedd gwaith sy'n newid
Bod yn berson onest, dibynadwy, agored a chyfeillgar.
Agwedd weledigaethol, gyda'r gallu i ysbrydoli ac ennyn brwdfrydedd eraill wrth ddatblygu gwasanaethau i'r dyfodol.
Dymunol -
Cymwysterau a hyfforddiant perthnasol Hanfodol Cymhwyster Lefel 3 neu uwch mewn maes perthnasol.
NVQ Lefel 4/QCF Lefel 5 (neu gyfatebol) mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth mewn Gofal Cymdeithasol - neu ymrwymiad i gwblhau'r cymhwyster mewn 12 mis.
Trwydded yrru ddilys
Dymunol Tystysgrif mewn Cefnogaeth Ymddygiad Cadarnhaol / Cefnogaeth Weithgar
Tystysgrif IOSH ac Iact
Profiad perthnasol Hanfodol Profiad o weithio gyda phlant ag anableddau a'u teuluoedd o fewn gofynion y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014.
Profiad o arwain, ysgogi a chefnogi tîm yn llwyddiannus.
Profiad o ddatblygu a chyflwyno cynlluniau person canolog
Profiad o gydweithio gyda Gwasanaethau amlddisgyblaethol
Profiad o ddatrys problemau cymhleth neu sefyllfaoedd sensitif sy'n cynnwys plant, teuluoedd neu staff.
Dymunol Profiad o reoli newid a gweithredu ffyrdd newydd o weithio
Profiad o reoli cyllideb a sicrhau defnydd effeithiol o adnoddau
Profiad o asesu risg
Sgiliau a gwybodaeth arbenigol Hanfodol Sgiliau cyfathrebu rhyngbersonol cryf- llafar, ysgrifenedig a gwrando'n weithredol
Dealltwriaeth o ddeddfwriaeth, polisïau a modelau o weithio perthnasol i'r gwasanaeth.
Sgiliau technoleg gwybodaeth da
Dymunol Sgiliau mentora er mwyn datblygu sgiliau'r tîm
Anghenion ieithyddol Gwrando a Siarad - Uwch Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn.Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.
Darllen a Deall - Uwch Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol.Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.
Ysgrifennu - Uwch Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y swydd • Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
• Gweithredu ar wireddu canlyniadau personol a hwyrwyddo llesiant plant a phobl ifanc yn unol ag egwyddorion y Ddeddf Gwasanaethau Cymeithasol a Llesiant 2014.
• Arwain, cydlynu a darparu gwasanaethau cefnogol i blant a phobol ifanc sy'n agored i Tim Integredig Derwen.
• Cydweithio gyda plant a phobol ifanc, teulu/gofalwyr a gweithwyr allweddol eraill i adnabod 'beth sy'n bwysig iddynt' a dod o hyd i ffyrdd creadigol o gwrdd a'u deillianau personol.
• Sicrhau bod y gwasanaeth yn gynhwysol ac yn gallu ymateb i amrediad o anhengion gwahanol.
• Darparu cefnogaeth o fewn ethos person ganolog, gyda ffocws ar hyrwyddo llesiant a chyfleoedd i ddefnyddio chyfleusterau o fewn y gymuned leol.
• Arwain ar wasanaeth sy'n hyrwyddo datblygu sgiliau ac annibynniaeth o fewn hyn a adnabyddir fel cyrhaeddiad y plentyn/person ifanc.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer • Cyfrifoldeb am reoli staff.
• Cyfrifoldeb am fonitor a rheoli cyllideb Adnoddau a strwythurau staffio'r Gwasanaeth.
• Cyfrifoldeb am offer a cherbydau ddefnyddir gan y Gwasanaeth a sicrhau fod rhain mewn cyflwr da ac addas i bwrpas.
• Sicrhau bod yr adeiladau a'u defnyddir ar gyfer cynnal grwpiau a gweithgareddau yn ddiogel, addas ac yn cwrdd a gofynion iechyd a diogelwch y gwasanaeth.
Prif ddyletswyddau • Arwain a gweithredu ar ddarparu gwasanaethau person canolog.
• Asesu a chynllunio pecynnau uniogol gan ddilyn ethos cefnogaeth weithgar.
• Llunio ac adolygu asesiadau risg cyffredinol, penodol ac arbenigol drwy gydweithio gyda aelodau o'r tim aml ddisgyblaethol.
• Llunio rhaglenni pwrpasol a phenodol sy'n cwrdd ag anghenion y plentyn/person ifanc a'u hadolygu yn gyson.
• Arwain ar becynnau Gofal Cartref sy'n wasanaeth cofrestredig. Sicrhau eu bod y gwasnaeth yn cyrraedd gofynion a nodi'r yn Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (RISCA 2016).
• Cyd weithio i sicrhau bod ansawdd y gwasanaeth yn cwrdd a'r safonnau a osodir
• Cyfrifoldeb am gasglu data ar gyfer adrodd ar ansawdd gwasaneth.
• Datblygu, monitro ac ymateb yn greadigol ac arloesol i ofynion y gwasanaeth.
• Bod yn gyfrifol ac yn atebol am reolaeth dydd i ddydd y gwsanaeth gan sicrhau bod yr holl weithgaredd yn cyfarfod y ddeddfwriaeth perthnasol, polisïau a chanllawiau Cyngor Gwynedd.
• Cyd weithio ar ddatblygu polisiau a gweithdrefnau ac adolygu polisiau perthnasol i'r gwasanaeth.
• Arwain drwy esiampl. Cyfathrebu'n glir, effeithiol a pharchus ar bob lefel gyda unigolion, teuleuoedd/gofalwyr, staff a chyd weithwyr.
• Ymchwilio a sicrhau dealltwriaeth o adnoddau cymunedol sydd yn bodoli o fewn yr ardal. Cyfrifoldeb i rannu'r wybodaeth yma fel bod Gweithwyr Cefnogol yn defnyddio adnoddau lleol pan yn cefnogi plant a phobol ifanc.
• Recriwtio, penodi, anwytho, mentora a goruchwylio staff cefnogol yn unol a pholisïau a systemau Cyngor Gwynedd.
• Cyfrifoldeb i sicrhau dadleniad DBS priodol ar pob aelod staff cefnogol
• Delio a materion disgyblu, salwch a pherfformiad staff mewn ymgynghoriad a swyddog Adnoddau Dynol.
• Sicrhau presenoldeb allan yn y maes gan gefnogi staff i ddatblygu sgiliau ac hyder o fewn eu rôl a hefyd i hyrwyddo ac annog llesiant staff
• Adnabod anghenion hyfforddi y tim a chydweithio i drefnu hyfforddiant addas gan wneud hyn yn amserol.
• Sicrhau bod staff yn gymwys ac yn deall eu cyfrifoldebau i gofrestru yn eu rolau proffesiynol gyda Gofal Cymdeithasol Cymru yn unol a gofynion RISCA 2016.
• Creu a meithrin diwylliant agored sy'n galluogi staff uchafu unrhyw bryderon mewn ffordd addas ac amserol, a hynny drwy sicrhau cydymffurfiaeth a'r Cod Ymarfer ar gyfer Gweithwyr Gofal Cymdeithasol.
• Cyfrifoldeb am weinyddu cerdyn credyd y gwasanaeth, cofnodi, awdurdodi a chyfiawnhau pob gwariant.
• Gweithio ar y cyd gyda arweinyddion eraill er mwyn sicrhau cysondeb trefniadau ar draws y sir.
• I ymgyryd a bod yn 'champion' mewn maes arbenigol.
• Dilyn polisïau a gweithdrefnau lleol a chenedlaethol i adnabod, cofnodi, adrodd a gweithredu ar unrhyw bryderon Diogelu.
• Cyfrifoldeb am reoli ac asesu risg amrywiaeth o safleoedd cymunedol sy'n cael ei defnyddio gan y gwsanaeth. Bod yn ymwybodol sut i adrodd ar urhyw bryderon neu addasiadau sydd ei angen.
Dyletswyddau eraill;
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â'r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu o fewn polisïau'r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â'r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy'n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
• Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig • Gall y swydd olygu gweithio oriau anghymdeithasol tu allan i oriau swyddfa arferol ar adegau.
• Bod yn barod i symud i weithio mewn Gwasanaeth arall mewn argyfwng
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr