Torfaen County Borough Council / Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen
Lleoliad
Torfaen
Pob ardal
Manylion
Oriau contract
Rhan Amser
Math o gontract
Dros dro
Disgrifiad o'r swydd
Lleoliad gwaith: Coed Pella, Bae Colwyn
Mae cyfle cyffrous wedi codi o fewn y Gwasanaeth Galw Gofal ar gyfer Arweinydd Tîm. Byddwch yn arwain tîm o hyd at 12 o Swyddogion Cymorth ac Ateb Galwadau ac yn eu helpu i ddatblygu.
Mae Galw Gofal yn wasanaeth monitro galwadau 24/7 dwyieithog sy'n helpu pobl yn y gymuned i barhau i fyw'n annibynnol, neu'n eu helpu gydag argyfyngau y tu allan i oriau swyddfa, fel atgyweiriadau i'w tŷ.
Rydym yn chwilio am unigolyn llawn hunan-gymhelliant gydag agwedd gadarnhaol i ymuno â'n tîm i gydlynu a chynnig cymorth i'r gwasanaeth rheng flaen hwn.
Bydd angen i ymgeiswyr feddu ar sgiliau cyfathrebu da ac, yn ddelfrydol, profiad o weithio mewn rôl arwain ac mewn swyddfa brysur.
Oherwydd natur y gwaith, bydd angen cael datgeliad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ar gyfer y swydd hon. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus hefyd yn destun gwiriad yn unol â BS7858.
Rydym yn hyrwyddo ac yn deall pwysigrwydd cydbwysedd cadarnhaol ac iach rhwng gwaith a bywyd a gallwn gynnig amryw drefniadau gweithio'n hyblyg. Bydd hyn yn cynnig mwy o hyblygrwydd a rheolaeth i chi dros eich diwrnod gwaith, a gellir trafod hyn yn y cyfweliad.
Byddwch yn elwa ar becyn buddion sylweddol, gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, Tâl Salwch Galwedigaethol a buddion staff sy'n cynnwys cynllun aberthu cyflog i brynu car, Beicio i'r Gwaith, arian yn ôl ar ofal iechyd, gwobrau gwasanaeth hir, gostyngiadau a llawer mwy.
Os oes gennych chi ddiddordeb yn y rôl hon ac eisiau ymuno â Thîm Conwy, fe hoffem ni glywed gennych chi.
Mae'r rôl hon yn cynnig opsiynau gweithio hyblyg ar gyfer cydbwysedd bywyd a gwaith. Gall hyn gynnwys addasu eich diwrnod gwaith a gweithio hybrid, hy cydbwysedd rhwng gweithio yn y swyddfa a gweithio gartref.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Nick Mccavish, Rheolwr Strategol Rhanbarthol, 01492 575240 nick.mccavish@conwy.gov.uk
Gofynion y Gymraeg: Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi ymrwymo i'w Safonau Iaith Gymraeg. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na'r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na'i gilydd.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Mae Conwy wedi ymrwymo i gyfle cyfartal ac rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned. Rydym yn darparu opsiwn i bobl anabl wneud cais mewn gwahanol fformatau. Cysylltwch â'r Tîm AD ar 01492 576129 i gael cyngor pellach.
This form is also available in English.
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr