Arweinydd Tîm Cynorthwyol - Arhosiad Byr Breakaway - Mewnol yn Unig
Dyddiad cau 04/03/2026
Cyflogwr
Bridgend County Borough Council / Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Lleoliad
Penybont
Pob ardal
Manylion
Oriau contract
Rhan Amser
Maes gofal
Gofal cymdeithasol
Gweithle
Gofal preswyl i blant
Rôl
Gweithiwr Gofal Preswyl i Blant
Disgrifiad o'r swydd
30 awr yr wythnos
Dros dro am 10 mis - Cyfnod Mamolaeth
Mae'r swydd wag hon yn agored i ymgeiswyr mewnol yn unig.
Rydym yn recriwtio Arweinydd Tîm Cynorthwyol Dros Dro ar gyfer Gwasanaeth Arhosiad Byr Breakaway. Mae hwn yn gyfle i aelod profiadol o staff gamu i rôl arwain tymor byr o fewn gwasanaeth seibiant byr rheoleiddiedig i oedolion ag anableddau dysgu ac anghenion cymhleth.
Ynghylch y gwasanaeth
Mae Breakaway yn darparu arosiadau byr wedi'u cynllunio ac argyfwng i oedolion ag anableddau dysgu ac anghenion cymorth iechyd neu ymddygiad cysylltiedig. Mae'r gwasanaeth yn gweithredu fel lleoliad gofal cofrestredig ac mae'n gweithio'n agos gyda theuluoedd, gweithwyr cymdeithasol, gweithwyr iechyd proffesiynol, a thimau comisiynu. Mae'r ymarfer yn seiliedig ar ofynion y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, RISCA, ac Arolygiaeth Gofal Cymru.
Y rôl
Byddwch yn cefnogi'r Rheolwr Cofrestredig â'r gwaith o redeg y gwasanaeth o ddydd i ddydd. Byddwch yn darparu arweinyddiaeth weladwy ar shifftiau, yn cynorthwyo ymarfer staff, ac yn helpu i gynnal gofal diogel, o ansawdd uchel sy'n cydymffurfio.
Yn y rôl hon, byddwch yn:
- Darparu arweinyddiaeth shifft a chynorthwyo'r staff sydd ar ddyletswydd
- Gweithredu fel model rôl ar gyfer ymarfer sy'n canolbwyntio ar y person a chanlyniadau
- Cydlynu shifftiau, dirprwyo tasgau, a chefnogi datrys problemau
- Sicrhau bod cynlluniau gofal a chymorth ac asesiadau risg yn cael eu dilyn yn ymarferol
- Hyrwyddo urddas, dewis, a chymryd risgiau cadarnhaol
- Cefnogi ymarfer meddyginiaeth diogel yn unol â pholisi CBSP
- Ymateb yn briodol i ddigwyddiadau, pryderon diogelu, a newidiadau mewn angen
- Gweithio'n agos gyda theuluoedd, gofalwyr, a gweithwyr proffesiynol
- Cynorthwyo staff newydd a dysgu ar shifft
- Uwchgyfeirio pryderon i'r Arweinydd Tîm neu'r Rheolwr Cofrestredig yn ôl yr angen
Beth rydym yn chwilio amdano:
- Profiad o gynorthwyo oedolion ag anableddau dysgu ac anghenion cymhleth
- Profiad o weithio mewn lleoliad gofal rheoleiddiedig
- Hyder wrth gefnogi ac arwain staff ar shifftiau
- Cyfathrebu clir yn ysgrifenedig ac ar lafar
- Dealltwriaeth o ddiogelu, MCA, a rheoli risg
- Ymrwymiad i gymorth sy'n canolbwyntio ar y person
- Cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru, neu barodrwydd i gofrestru
Yr hyn rydym yn ei gynnig:
- Cyfle datblygu dros dro yn Breakaway
- Cymorth gan y Rheolwr Cofrestredig a'r tîm rheoli ehangach
- Cyfle i feithrin profiad arweinyddiaeth mewn gwasanaeth a reoleiddir gan AGC
- Mynediad at hyfforddi a datblygu sy'n gysylltiedig âr rôl
- Cymorth llesiant staff ac iechyd galwedigaethol
- Hawl i wyliau blynyddol yn unol âr telerau ac amodau.
Mae'l hon yn addas i staff sydd am ddatblygu sgiliau arwain wrth aros yn agos at ymarfer a gwneud gwahaniaeth uniongyrchol i brofiadau pobl o seibiannau byr
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Oedolion gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae trwydded yrru ddilys yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae dyletswyddau Nos, Cysgu i Mewn, Gweithio ar Benwythnosau yn un o ofynion y swydd hon.
Dyddiad Cau: 11 Mawrth 2026
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 16 Mawrth 2026
Dyddiad y Cyfweliad: 25 Mawrth 2026
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr