Arweinydd Tîm - Gwasanaeth Byw â Chymorth (Mewnol yn Unig)
Dyddiad cau 09/03/2025
Cyflogwr
Wrexham County Borough Council / Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Lleoliad
Wrecsam
Pob ardal
Manylion
Math o gontract
Parhaol
Maes gofal
Gofal cymdeithasol
Gweithle
Gofal preswyl i blant
Rôl
Gweithiwr Gofal Preswyl i Blant
Disgrifiad o'r swydd
Disgrifiad
Arweinydd Tîm - Gwasanaeth Byw â Chymorth G09: £37,035 - £39,513 y flwyddyn
Mae cyfle cyffrous wedi codi i recriwtio 1 x Arweinydd Tîm 37 awr parhaol o fewn y Gwasanaeth Byw â Chymorth. Rydym yn croesawu ymgeiswyr gan gydweithwyr o fewn Gwasanaethau Darparwyr Gofal Cymdeithasol sydd â'r cymwysterau perthnasol i wneud cais am swydd Arweinydd Tîm.
Eich prif weithle fydd yn Adeiladau'r Goron ac ar y safle yn un o'r tai byw â chymorth a byddwch yn gymwys i NVQ lefel 2 o leiaf, gyda'r gallu a'r ymrwymiad i ennill cymhwyster uwch.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn: • Meddu ar frwdfrydedd a'r ymrwymiad i weithio mewn partneriaeth ag arweinwyr tîm eraill i sicrhau bod y gwasanaeth yn cael ei redeg yn effeithlon a sicrhau bod canllawiau statudol yn cael eu bodloni. • Sicrhau bod y gwasanaeth yn canolbwyntio ar y person, yn ddibynadwy ac yn urddasol. Cynnal llwyth achosion o bobl sy'n derbyn y gwasanaeth • Trefnu a hwyluso asesiadau ac adolygiadau cynllun sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn • Rheoli tîm bach o staff i gynnwys trefnu a gweithredu rotas a rheoli rotas gan sicrhau bod digon o staff yn eich gwasanaeth • Asesu cymhwysedd staff ym mhob agwedd ar eu rôl yn ystod eu patrymau sifftiau (bydd hyn yn gofyn am gwblhau'r cymhwyster hyfforddwr allweddol yn llwyddiannus) • Cymryd rhan mewn trefniadau a dyletswydd ar-alwad y tu allan i oriau. • Cefnogi'r Rheolwr Cofrestredig wrth reoli perfformiad, ymddygiad, absenoldeb, recriwtio a chyfnod prawf staff • Bodloni gofynion llawn y rôl fel y nodwyd yn y Disgrifiad Swydd (ar gael ar gais)
Byddwch yn cyflawni cwrs sefydlu a hyfforddiant cynhwysfawr i'ch cefnogi yn eich rôl.
Byddwch yn cyflawni cwrssefydlu a hyfforddiant cynhwysfawr i'ch cefnogi yn eich rôl.
I gael trafodaeth anffurfiol am y rôl, cysylltwch â Julie Harrison 07800 688732 neu Charlotte Tiley 07899 836472 cyn cyflwyno eich cais.
Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestriad Gofal Cymdeithasol Cymru ar gyfer y swydd hon
Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.
Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg.