Bridgend County Borough Council / Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Lleoliad
Penybont
Pob ardal
Manylion
Oriau contract
Llawn Amser
Maes gofal
Gofal cymdeithasol
Gweithle
Gofal preswyl i blant
Rôl
Gweithiwr Gofal Preswyl i Blant
Disgrifiad o'r swydd
37 awr yr wythnos
Rydym yn ceisio recriwtio unigolyn llawn cymhelliant a phrofiadol a fydd yn rhan o dîm rheoli sy'n gyfrifol am reolaeth weithredol gwasanaethau Preswyl a Gofal Ychwanegol Tŷ Llwynderw.
Mae Tŷ Llwynderw yn darparu: -
Gwasanaeth Cartref Gofal Ychwanegol a reoleiddir sy'n cynorthwyo pobl ag anghenion gofal a chymorth asesedig i fyw mor annibynnol â phosibl yn eu fflatiau eu hunain. Gwasanaeth gofal preswyl sy'n darparu gofal preswyl 24 awr i bobl sy'n byw gyda dementia.
Bydd ffocws ar wasanaethau sy'n canolbwyntio ar y person ac yn cael eu harwain gan y person; bydd disgwyl i chi ddatblygu cyfleoedd i bobl, eu teuluoedd / gofalwyr i gymryd rhan weithredol mewn prosesau ymgynghori a datblygu gwasanaethau
Fel rhan o'r rôl byddwch yn cefnogi'r Rheolwr Preswyl / Cofrestredig i :-
Ddatblygu, darparu, monitro a gwerthuso gwasanaethau preswyl a gofal ychwanegol Hyrwyddo gwasanaeth personol, sy'n canolbwyntio ar y person sy'n ymateb i anghenion a dewisiadau unigolyn Datblygu, monitro ac adolygu Cynlluniau Personol, canllawiau arbenigol ac asesiadau risg i sicrhau bod y gwasanaeth yn diwallu anghenion unigolion Arwain, goruchwylio ac ysgogi tîm mawr o staff a bod yn rhan o sefydlu ac adolygiadau prawf gweithwyr newydd. Dyrannu, cydlynu a monitro gwaith y tîm gan ddatrys materion arferol a sicrhau bod cymorth sy'n canolbwyntio ar y person yn cael ei ddarparu i unigolion. Bod yn fodel rôl arfer gorau i staff a darparu cymorth rheoli llinell. Monitro cyllid yn unol â pholisïau a gweithdrefnau CBSP, h.y. monitro gwariant arian parod a sicrhau bod cofnodion ariannol cywir yn cael eu cadw. Monitro'r modd y gweinyddir meddyginiaeth a sicrhau bod gweithdrefnau a chofnodion yn cael eu cadw yn unol âau a gweithdrefnau CBSP. Cynorthwyo â'r gwaith o reoli rotâu, e.e. sicrhau lefelau diogel o gymorth, oriau staffio, cyflenwi ar gyfer absenoldeb.
Bydd disgwyl i chi gymryd rhan mewn sesiynau goruchwylio, cyfleoedd datblygu gyrfa a chymryd rhan weithredol mewn hyfforddiant er mwyn cynnal eich datblygiad proffesiynol eich hun a chofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.
Bydd y rôl yn cynnwys gweithio gyda gweithwyr proffesiynol eraill i sicrhau bod gofynion statudol a chyfeiriad strategol yn cael eu bodloni ac yn cyflawni canlyniadau sy'n cael eu llywio gan safonau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
Mae gwybodaeth a dealltwriaeth o ddeddfwriaeth a chanllawiau rheoleiddio a chodau ymarfer gan gynnwys Diogelu Oedolion mewn Perygl, Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC), Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, y Ddeddf Galluedd Meddyliol, Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid yn un o elfennau hanfodol y rôl
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn ofyniad ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion sydd mewn perygl yn gyfrifoldeb craidd i holl weithwyr y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda rhestr Oedolion Gwaharddedig gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn ofyniad ar gyfer y swydd hon.
Mae trwydded yrru ddilys yn ofynnol ar gyfer y swydd hon.
Mae Dyletswyddau Nos a Gweithio ar Benwythnosau yn ofyniad ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 01 Ebrill 2026
Dyddiad Llunio Rhestr Fer: 14 Ebrill 2026
Dyddiad Cyfweliad: 21 Ebrill 2026
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr