Ydych chi'n angerddol dros helpu pobl i gael y gwasanaeth cywir sy'n addas ar gyfer eu hanghenion? Ydych chi'n gallu ysgogi a dod â phobl ynghyd fel tîm. A oes gennych chi wytnwch personol a fydd yn eich galluogi i aros yn bwyllog o dan bwysau wrth gefnogi eich tîm a darparu safon uchel o wasanaeth i'r cyhoedd? Ydych chi'n angerddol dros fod yn rhan o dîm, yn ogystal ag arwain y tîm hwnnw at lwyddiant?
Byddwch yn:
- Aelod 'ymarferol' o'r tîm, yn gallu rhoi cefnogaeth uniongyrchol i'r bobl sy'n gweithio gyda chi a datrys materion sy'n codi;
- Arwain eich tîm trwy esiampl trwy sylw i fanylder a pharodrwydd i fod yn hyblyg;
- Sicrhau bod anghenion hyfforddiant yn cael eu hadnabod a'u bodloni;
- Monitro perfformiad y tîm yn rheolaidd i sicrhau bod amcanion gwasanaeth yn cael eu bodloni;
- Sicrhau bod bob agwedd ar y gwasanaethau Un Pwynt Mynediad yn cael eu darparu'n effeithiol;
- Rhan o'r broses o welliant parhaus o ran y gwasanaeth i ddinasyddion Conwy, gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda ni ac aelodau o'm eu hunain;
- Gallu cyflawni cymhwyster i gefnogi eich dysgu, ble'n briodol;
- Bydd gennych gefnogaeth y Rheolwr Tîm a thîm rheoli ehangach Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth;
- Gallu cyrraedd eich potensial llawn o fewn swydd sy'n symud yn gyflym, gan gynyddu eich gwybodaeth am Ofal Cymdeithasol a'r prosesau cysylltiedig.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Ruth Barr, Rheolwr Tim ( Ruth.barr1@conwy.gov.uk / 01492 574668)
Gofynion y Gymraeg: Mae'r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o'n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na'r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na'i gilydd. Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a'ch annog i ddefnyddio'ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i'ch cefnogi chi ymhellach.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Cliciwch yma i ddysgu am y manteision o ymuno â Thîm Conwy.
Dysgwch fwy am ein proses recriwtio drwy fynd i'n Tudalen Proses Recriwtio.
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu gweithlu amrywiol a thimoedd cynhwysol sy'n croesawu ystod eang o leisiau, profiadau, safbwyntiau a chefndiroedd. Mae creu gweithle sy'n groesawgar a lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn yn sicrhau y gallwn ddarparu gwasanaethau rhagorol.
Croesawn ac anogwn ymgeiswyr o bob cefndir a phrofiadau.
Rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Os oes gennych anabledd wedi'i ddatgan yn eich cais, gallwn sicrhau cyfweliad os ydych yn profi eich bod yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd yn eich cais (gofynion a nodir gyda 'H' ar y Manylion am yr Unigolyn). Angen rhywfaint o gymorth gyda'ch cais? Mae gennym awgrymiadau, canllawiau a gwasanaethau cymorth i'ch helpu chi drwyddo .
Rydym yn fodlon darparu addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio (ac mewn cyflogaeth) lle bynnag bosibl. Anogwn i chi wneud cais am addasiadau. Er mwyn gwneud hyn, cysylltwch â'r rheolwr a enwir uchod er mwyn trafod eich anghenion a chymorth posibl. Mae dewisiadau i wneud cais trwy ffurfiau gwahanol, cysylltwch âr Tîm AD ar 01492 576129 er mwyn trafod sut y gallwn eich cefnogi chi. Ni fydd y ceisiadau hyn yn eich rhoi dan unrhyw anfantais.
This form is also available in English.