Asesydd Budd Gorau x2
Dyddiad cau 01/07/2025
Cyflogwr
Cyngor Gwynedd/Gwynedd Council
Lleoliad
-
Gwynedd
- Pob ardal
Manylion
- Math o gontract
- Parhaol
- Maes gofal
- Gofal cymdeithasol
- Gweithle
- Gwasanaethau Gwaith Cymdeithasol / Gwasanaethau Cymdeithasol
- Rôl
- Gweithiwr cymdeithasol
Disgrifiad o'r swydd
ManylionHysbyseb Swydd
Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu'n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi fel un o'r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Sally Jones ar 01286 679 721 neu drwy e-bost: SallyJones@gwynedd.llyw.cymru
Ffurflenni cais a manylion pellach gan , Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076 eBost: Swyddi@gwynedd.llyw.cymru
DYDDIAD C AU: 10 : 00 O'R GLOCH, 01/07/2025
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy'r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Manylion Person
NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL
DYMUNOL
-
CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL
DYMUNOL
PROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL
DYMUNOL
SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOL
DYMUNOL
-
ANGHENION IEITHYDDOL
HANFODOL
Gwrando a Siarad - Lefel Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn. Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.
Darllen a Deall - Lefel Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol. Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.
Ysgrifennu - Lefel Uwch
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.
Swydd Ddisgrifiad
PWRPAS Y SWYDD
CYFRIFIOLDEB AM ADNODDAU
PRIF DDYLETSWYDDAU
AMGYLCHIADAU ARBENNIG
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu'n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi fel un o'r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Sally Jones ar 01286 679 721 neu drwy e-bost: SallyJones@gwynedd.llyw.cymru
Ffurflenni cais a manylion pellach gan , Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076 eBost: Swyddi@gwynedd.llyw.cymru
DYDDIAD C AU: 10 : 00 O'R GLOCH, 01/07/2025
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy'r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Manylion Person
NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL
- Gallu i weithio'n effeithiol fel aelod o dîm.
- Yn berson dibynadwy a hyblyg sy'n awyddus i weithio mewn dulliau newydd a creadigol.
- Brwdfrydig, hunan dibynnol a phendant.
- Cefnogi arferion gwrth-wahaniaethol
- Cyfathrebu'n effeithiol gyda defnyddwyr gwasanaeth, asiantaethau eraill a darparwyr
- Ymrwymedig i werthoedd, egwyddorion, nodau ac amcanion y gwasanaeth.
- Person sy'n awyddus i ddysgu a datblygu
- Gallu cyfathrebu yn effeithiol a chreu perthynas efo unigolion sy'n defnyddio gwasanaethau , plant a theuluoedd .
- Gallu i herio â delio â gwrthdaro.
- Gallu i gymryd cyfarwyddiadau a derbyn atborth adeiladol.
DYMUNOL
-
CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL
- Gradd neu ddiploma mewn Gwaith Cymdeithasol, Nyrsio neu Therapi Galwedigaethol neu Seicolegydd Siartredig neu gymhwyster cyfatebol cydnabyddedig rhagflaenol.
- Cofrestriad cyfredol gyda chorff proffesiynol perthnasol.
- Cymhwyster Asesydd Budd Gorau dan Achrediad Proffesiynol DoLS (yn barod i ymarfer)
- Trwydded yrru cyfredol a'r defnydd o gar
DYMUNOL
- Cymhwyster Addysgwr Ymarfer
PROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL
- Profiad o weithio mewn tîm
- Profiad o weithio yn uniongyrchol efo oedolion/plant /pobl ifanc a theuluoedd
- Profiad o asesu anghenion a llunio cynllun gofal
- Profiad o weithio efo asiantaethau eraill
- Profiad o ddelio efo achosion diogelu
- Profiad o waith gofal cymunedol gyda oedolion a'u gofalwyr.
- Profiad o ddelio efo achosion cymhleth
- Profiad o weithio i ddeddfwriaethau gwahanol
DYMUNOL
- Profiad o fentora o fewn yn y maes gofal cymdeithasol
SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOL
- Gwybodaeth sylweddol yn sgil profiad ymarferol o'r prif faterion wrth weithio gydag oedolion ag anghenion cymhleth, pobl ag anableddau (gan gynnwys Anableddau Dysgu), pobl â salwch Iechyd Meddwl, Anafiadau i'r Ymennydd a salwch cronig ac unrhyw bobl eraill sy'n dod o dan DoLS.
- Gwybodaeth gadarn yn sgil profiad ymarferol o'r ddeddfwriaeth a'r gweithdrefnau perthnasol, gan gynnwys Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014, y Ddeddf Iechyd Meddwl, y Ddeddf Galluedd Meddyliol a'r Trefniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid (DoLS) a deddfwriaeth sy'n ymwneud â gofalwyr.
- Dealltwriaeth a phrofiad o weithio'n amlddisgyblaeth.
- Sgiliau cyfathrebu a'r gallu i adeiladu perthnasau gweithio effeithiol gyda swyddogion proffesiynol eraill o fewn y timau integredig ac asiantaethau partner.
- Y gallu i reoli llwythi gwaith / allbynnau, gosod blaenoriaethau a chyflawni amcanion trwy osod targedau gydag amserlenni.
- Y gallu I ddyrannu achosion yn addas.
- Gallu i ddefnyddio system wybodaeth gyfrifiadurol mewn perthynas ag anghenion Gwasanaeth
- Y gallu i gadeirio cyfarfodydd amlbroffesiwn effeithiol a sicrhau bod yr holl gynlluniau'n glir ac yn canolbwyntio ar y cleient.
- Sgiliau cadarn ar gyfer cynnal asesiadau cymhleth, sgiliau cyfweld a sgiliau adolygu. Gallu dadansoddol cadarn a dystiolaethir mewn asesiadau ac adroddiadau a luniwyd yn dda ac a ddarperir o fewn amserlenni.
- Gallu derbyn goruchwyliaeth ac arweiniad yn effeithiol er budd y Gwasanaeth a datblygiad personol
- Sylfaen sgiliau amrywiol yn seiliedig ar brofiad o weithio efo unigolion sy'n defnyddio Gwasanaethau.
DYMUNOL
-
ANGHENION IEITHYDDOL
HANFODOL
Gwrando a Siarad - Lefel Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn. Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.
Darllen a Deall - Lefel Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol. Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.
Ysgrifennu - Lefel Uwch
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.
Swydd Ddisgrifiad
PWRPAS Y SWYDD
- Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
- Aseswr Budd Gorau llawn amser i weithio fel rhan o dîm Diogelu Rhag Colli Rhyddid Gwynedd (DoLS). Mae gan y tîm DoLS rôl bwysig i ddiogelu hawliau dynol trigolion mewn cartrefi gofal cofrestredig ledled yr ardal.
- Bod yn aseswr budd gorau yn ymateb i ofynion Diogelu rhag Colli Rhyddid (DoLs) a phenderfyniad Cheshire West. Cwblhau asesiadau parhaus o achosion i adlewyrchu amgylchiadau'r unigol gan gynnwys asesiad o risg, hyrwyddo annibyniaeth a'r angen i sicrhau bod defnyddwyr gwasanaeth wedi eu hamddiffyn rhag niwed sylweddol.
- Ni fydd y BIA yn cymryd rhan yn gwneud penderfyniadau am ofal unigolion, fodd bynnag, bydd angen iddynt ddarparu arbenigedd proffesiynol a chyngor i weithwyr proffesiynol, Aseswyr Budd Gorau, Awdurdodau Rheoli DOLS a phartneriaid aml-asiantaeth, i gynorthwyo yn natblygiad parhaus gwasanaeth effeithiol a o safon uchel sy'n cwrdd â gofynion polisïau a gweithdrefnau perthnasol, yn unol â Deddf Gallu Meddyliol 2005, Diogelu Rhyddid 2007, yn gydnaws â chyfraith achos sy'n dod i'r amlwg, ac unrhyw derfniadau Diogelwch Rhyddid Newydd.
- Cynorthwyo'r Cyfarwyddwr wrth gydlynu'r broses asesu ac awdurdodi ar ran y Corff Goruchwylio; Cyngor Gwynedd
CYFRIFIOLDEB AM ADNODDAU
- Dim penodol ond disgwylir i'r deilydd fod yn ymwybodol o oblygiadau/cyd-destun ariannol unryw becyn y maent yn ei drefnu ee lleoliad preswyl.
PRIF DDYLETSWYDDAU
- Ymarfer o fewn y fframweithiau deddfwriaethol a'r canllawiau perthnasol sy'n sail i ddarpariaeth gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru
- Gweithredu'r cod ymarfer proffesiynol fel gweithiwr proffesiynol cofrestredig
- Meddu ar y wybodaeth ddiweddaraf a chynnal eich datblygiad proffesiynol eich hun.
- Hybu ymarfer gofal cymdeithasol da, sy'n hanfodol i anghenion penodol y defnyddwyr gwasanaeth, gan gydnabod eu hoedran, rhyw, tarddiad ethnig, anabledd a gweithio mewn ffordd na fydd yn gwrthdaro ag unrhyw un.
- Rheoli eich gwaith eich hun a bod yn atebol amdano.
- I gynnal Asesiadau Budd Gorau ar gyfer y broses Diogelu Rhyddid o dan derfynau cyfreithiol.
- Fel Asesiwr Budd Gorau (BIA) bydd angen gwybodaeth fanwl am y Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 a'r Gweithdrefnau Diogelu rhag colli Rhyddid 2009, eu codau ymarfer ac ymarfer mewn drwy ystyried y ddau. Dylai fod gan y BIA ddealltwriaeth weithredol o Gynhadledd Ewropeaidd ar Hawliau Dynol, yn enwedig Erthygl 5 ac 8.
- Asesu sefyllfaoedd pobl mewn ffordd sy'n macsimeiddio eu cyfranogiad a chymryd i ystyriaeth barn aelodau'r teulu a gweithwyr proffesiynol perthnasol.
- Ymgysylltu â phobl a all fod yn gwrthwynebu'r gwasanaeth a ddarparwyd iddynt a allai fod yn risg i'w hunain neu i eraill.
- Cwblhau unrhyw hyfforddiant all ddod ohrwydd newid I Drefniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid (DoLS).
- Cyfrifoldeb am lwyth achos o asesiadau DoLS arbenigol (3 yr wythnos yn gymharol â llawn amser), derbyn ac ymateb i geisiadau am gyngor gan wahanol ffynonellau.
- I weithredu fel adnodd ar gyfer cartrefi gofal yn Gwynedd. Darparu cyngor a chyfarwyddyd am y Ddeddf Galluedd Meddyliol a Diogelwch rhag colli Rhyddid.
- Sicrhau bod adroddiadau manwl yn cael eu darparu i gartrefi gofal gyda amodau clir i'r cartref gofal eu dilyn yngyhyd a'r argymhellion i'r corff goruchwylio, os yw'n briodol/a bod angen.
- Darparu adroddiadau achos a gohebiaeth ar gyfer amrywiaeth o gynulleidfaoedd, gan gynnwys, lle bo'n briodol, cyfarfodydd, cynadleddau, llys, paneli a chyrff eraill.
- Defnyddio templedi asesu a gytunwyd arnynt ar gyfer gwneud cyflwyniadau i'r Corff Goruchwylio am awdurdodiad o golli rhyddid.
- Cadw cofnodion proffesiynol priodol a darparu adroddiadau clir a phriodol yn unol ag anghenion cyfreithiol ac ymarfer da.
- Sefydlu perthynas proffesiynol briodol wrth weithio gyda defnyddwyr gwasanaeth a'u teuluoedd a gofalwyr.
- Ymgynghori, cysylltu a thrafod gyda'r rhai sy'n ymwneud â Asesiad Budd Gorau, gan gynnwys yr holl bartïon pwysig: y person perthnasol, teulu, ffrindiau, meddyg a'r rhai sy'n gysylltiedig â gofal y person, adfocatiaeth, Cynrychiolydd, y Cyfreithiwr neu'r Dirprwy, Awdurdod Rheoli. Sicrhau pwrpas cychwynnol ac ymgysylltiad annibynnol a phenderfyniadau gwybodus.
- Gwneud argymhellion addas ynglyn a penodi Cynrychiolydd Personau Perthnasol, (gan gynnwys y rhai a gedwir) yn unol â rheoliadau, yn ogystal a chyfeirio unrhyw achosion sy'n gwrthwynebiad i'r llys gwarchod yn unol â'r gyfraith achos.
- Defnyddiwch wybodaeth am asesu galluedd meddyliol yn unol â'r fframweithiau cyfreithiol gan ystyried amrywiaeth eang o ffactorau, gan gynnwys cyfraith achosion bresennol a newydd. Mae angen deall oblygiadau analluedd meddyliol ar fobl sy'n comisiynu ac yn defnyddio gwasanaethau, eu teuluoedd a gofalwyr, a darparwyr gwasanaethau.
- Sicrhau bod Awdurdodau Rheoli yn ymwybodol o'u cyfrifoldebau o sicrhau nad yw unrhyw un yn colli eu Rhyddid heb awdurdod cyfreithiol a darparu cyngor a chymorth i'r holl asiantaethau partner.
- Gweithio fel model rôl ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus a thechnegol a chynnal gwybodaeth eang am ofal cymdeithasol, yn ogystal â phrofiad ar draws gwasanaethau yn y maes gwybodaeth arbenigol penodol. Gall hyn gynnwys gweithredu fel goruchwylydd a mentoriaid i'r rheini sy'n mynd drwy hyfforddiant Asesydd Budd Gorau.
- Cynnal cysylltiad effeithlon a dibynadwy gyda sefydliadau statudol a gwirfoddol eraill yn ogystal ac adrannau eraill o fewn y Cyngor, gyda phwyslais benodol ar gysylltiadau gwaith effeithiol gyda darparwyr gwasanaethau preswyl, nyrsio a chymunedol yn y sector statudol ac annibynnol.
- Mynychu cynadleddau BIA yn Gwynedd a bod yn rhan o rwydwaith BIA ledled Gogledd Cymru.
- Cynorthwyo i fonitro gwaith y Gwasanaeth Eirioli Annibynnol o ran Galluedd Meddyliol a gwneud argymhellion ar ddatblygiadau gwasanaeth i'r dyfodol lle bo'n briodol.
- Hyrwyddo cyfle cyfartal ac amrywiaeth ar gyfer yr holl weithwyr a defnyddwyr gwasanaeth yn unol â pholisïau ac arferion y Cyngor.
- Cymryd rhan yn rhaglen datblygu staff y Cyngor a mynychu cyrsiau hyfforddi perthnasol a bod yn ymwybodol o syniadau newydd, deddfwriaeth newyddyn y maes diogelu.
- Cymryd rhan mewn goruchwyliaeth gyda'r rheolwr tim.
- Cydymffurfio a'r holl bolisiau a threfn y Cyngor a'r
- Cydymffurfio a'r holl bolisiau a threfn y Tim.
- Gall y swydd ddisgrifiad yma gael ei adolygu o dro i dro ac nid ddylid ei hystyried fel rhestr gyflawn o 'r cyfrifoldebau sydd ynghlwm a'r swydd ond yn unig fel mynegiant o'r prif ddyletswyddau.
- Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
- Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â'r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
- Gweithredu o fewn polisïau'r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
- Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
- Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â'r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
- Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy'n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
- Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
AMGYLCHIADAU ARBENNIG
- Gweithio oriau anghymdeithasol yn achlysurol yn ôl yr angen.
- Bydd disgwyliad i ddeilydd y swydd fod yn rhan o unrhyw drefniadau gaiff eu sefydlu ar sail rota.
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr
Gwneud cais ar-leinDewch o hyd i swydd mewn gofal plant
Os ydych chi'n ystyried gyrfa mewn gofal, edrychwch ar ein bwrdd swyddi i gael syniad o'r math o rolau sy'n fanteisiol.