Ynglŷn â'r rôl: Byddwch yn cynnal asesiadau Asesydd er Lles Pennaf ar ran Ceredigion mewn cartrefi gofal o fewn y sir a'r siroedd cyfagos ac yn cwblhau asesiadau manwl sy'n cydymffurfio'n llawn â'r gyfraith ac o safon uchel iawn. Byddwch yn asesu oedolion agored i niwed ac mae hyn yn galw am sgiliau cyfathrebu, asesu a dadansoddi rhagorol, ynghyd ag ymrwymiad i ddull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ac sy'n seiliedig ar hawliau.
Cyfrifoldebau allweddol: - asesydd er Lles Pennaf ar gyfer y Trefniadau Diogelu rhag Amddifadu o Ryddid
Amdanoch chi: - cymhwyster proffesiynol mewn gwaith cymdeithasol, therapi galwedigaethol, nyrsio neu seicoleg, a bod wedi cofrestru gyda'r corff proffesiynol perthnasol
- o leiaf ddwy flynedd o brofiad ar ôl cymhwyso.
- wedi hyfforddi fel Asesydd er Lles Pennaf neu'n meddu ar gymhwyster Asesydd er Lles Pennaf gyda phrofiad o gynnal asesiadau'r Asesydd er Lles Pennaf ar gyfer y Trefniadau Diogelu rhag Amddifadu o Ryddid
- dealltwriaeth ardderchog o'r Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 a'r Atodlen A1 gysylltiedig, ynghyd â chodau ymarfer a threfniadau ar gyfer Diogelu rhag Amddifadu o Ryddid yng Nghymru
Pam ymuno â ni? - gweithio fel rhan o dîm clos a chefnogol mewn cymuned wledig hardd
- trefniadau gweithio hyblyg i gefnogi cydbwysedd rhwng gwaith a bywyd
- datblygiad proffesiynol a hyfforddiant parhaus
- cynllun pensiwn a buddion y llywodraeth leol
Rydym yn credu bod cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith yn hynod bwysig. I'ch cefnogi i gyflawni hyn, cewch fynediad at y buddion dewisol canlynol:
- Gweithio Hybrid:Yn amodol ar fodloni rhai amodau, cewch ddewis gweithio gartref neu mewn lleoliad swyddfa
- Amser hyblyg (Fflecsi):gellir gweithio oriau o fewn ystod ddiffiniedig, o ddydd Llun i ddydd Gwener, yn amodol ar anghenion y gwasanaeth
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Emma Clarke -
Emma.clarke@ceredigion.gov.uk Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau. Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o'r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau'r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a'ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
Yr hyn a gynigwn Cydbwysedd bywyd a gwaith
Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael
Cynllun beicio i'r gwaith
Dysgu a datblygu
Lle byddwch yn gweithio Porth Cynnal - Gwasanaethau Arbenigol
Rydym yn darparu ystod o wasanaethau cymorth arbenigol gydol oes i bobl Ceredigion. Ein nod yw sicrhau bod pob unigolyn yn derbyn y gefnogaeth arbenigol sydd ei hangen arnynt er mwyn iddynt allu byw bywydau diogel, iach a gwydn. Ein prif swyddogaethau yw:
Penmorfa Penmorfa yw ein swyddfa fwyaf canolog, dyma lle mae ein Prif Weithredwr a'n Cynghorwyr wedi'i leoli.
Darllen mwy Aberaeron Mae Aberaeron yn dref harbwr brydferth ac mae'n un o gyrchfannau gwyliau mwyaf poblogaidd Ceredigion gyda llefydd poblogaidd i aros a bwyta.
Darllen mwy