Wrexham County Borough Council / Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Lleoliad
Wrecsam
Pob ardal
Manylion
Math o gontract
Parhaol
Maes gofal
Gofal cymdeithasol
Gweithle
Cynllunio a chomisiynu gofal cymdeithasol
Rôl
Swyddog cymorth ar gyfer cynllunio a chomisiynu gofal cymdeithasol
Disgrifiad o'r swydd
Disgrifiad
G07 - £30,559 - £32,115 y flwyddyn 37 awr yr wythnos
Parhaol
Mae Tîm Anabledd Wrecsam yn dymuno penodi Asesydd Gofal Cymdeithasol llawn cymhelliant. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymroddedig i gyfrannu at ddull aml-asiantaeth y tîm, gan ddarparu gwasanaeth iechyd, gofal cymdeithasol a lles di-dor ar gyfer pobl anabl o bob oed a'u teuluoedd a'u gofalwyr.
Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) (2014), Deddf Plant 1989 a Deddf Galluedd Meddyliol 2005 yn darparu fframweithiau deddfwriaethol i sicrhau bod y tîm yn cydymffurfio â dyletswyddau statudol a bod unigolion yn cael eu cefnogi i gyflawni canlyniadau cadarnhaol ar bob cam o'u bywydau.
Byddwch yn gweithio gydag unigolion er mwyn eu galluogi i ganfod eu canlyniadau personol eu hunain. Bydd eich gwaith yn canolbwyntio ar yr unigolyn a'i rwydweithiau cefnogi, gan gynnwys teuluoedd, i hyrwyddo annibyniaeth, sicrhau bod gan yr unigolyn lais cryfach wrth wneud penderfyniadau a mwy o reolaeth yn eu bywydau.
Darperir cyfleoedd hyfforddi a datblygu i gefnogi'r ymgeisydd llwyddiannus yn y swydd gyffrous hon. Cefnogir ymgeiswyr llwyddiannus gan dîm profiadol o ymarferwyr a rheolwyr, a byddant yn cael goruchwyliaeth ac arweiniad. Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus Lefel 3 neu gyfwerth mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac ymrwymiad i weithio tuag at gymhwyster lefel 4 neu gyfwerth o fewn yr amseroedd a gytunwyd. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio yn Adeiladau'r Goron yng Nghanol Dinas Wrecsam. Mae'r swydd yn cynnig y cyfle ar gyfer gweithio hybrid.
Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestriad Gofal Cymdeithasol Cymru ar gyfer y swydd hon.
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â: Carys West - Carys.West@wrexham.gov.uk
Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.
Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.