Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn falch i wahodd ceisiadau ar gyfer swydd Blaen Weithiwr Cymdeithasol yn rhan o Garfan Iechyd Meddwl yn y Gymuned - Cwm Rhondda. Mae'r garfan yn cynnwys Rheolwr Carfan, Blaen Weithiwr Cymdeithasol, Gweithwyr Cymdeithasol (gan gynnwys gweithwyr proffesiynol iechyd meddwl cymeradwy - AMHP), Nyrsys Seiciatrig Cymunedol, Seiciatryddion a Therapydd Galwedigaethol.
A chithau'n Flaen Weithiwr Cymdeithasol bydd disgwyl i chi gynorthwyo'r Rheolwr Carfan - Arfer a Chyflawniad o ran rhoi cymorth i'r garfan, dirprwyo ar ei ran yn ôl y gofyn a rheoli hyn a hyn o achosion dyrys. Bydd disgwyl i chi fentora ymarferwyr sydd newydd gymhwyso yn ôl y galw, cefnogi eich carfan trwy eu goruchwylio ac ymrwymo i gyflawni datblygiad personol. Byddwch chi'n derbyn goruchwyliaeth ffurfiol ac anffurfiol gyson. Bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus weithio'n agos â chydweithwyr yng ngwasanaethau y maes iechyd a'r trydydd sector, gan weithio tuag at sicrhau datrysiadau gyda defnyddwyr y gwasanaeth ac ar eu cyfer nhw. Mae'r swydd yn heriol a bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus ddangos dealltwriaeth ac ymroddiad i ddull ar sail gwella wrth ddarparu gwasanaethau gofal cymdeithasol.
Bydd y Blaen Weithiwr Cymdeithasol yn gallu datblygu a gwella sgiliau arweinyddiaeth yn y swydd ac yn cael cyfle i ddylanwadu ar ddatblygiad ein maes gwasanaeth. Bydd yn cael cymorth carfan reoli gadarn a phrofiadol ar lefelau strategol a gweithredol.
Rydyn ni’n cydnabod bod maes gwaith cymdeithasol yn un heriol yn broffesiynol ac yn bersonol a'i fod yn gofyn am sgiliau, ymrwymiad a brwdfrydedd sylweddol. Mae gyda ni ganolfan Addysg a Datblygu fewnol, bwrpasol sy'n rhoi cymorth ymarferol ar bob lefel i ymarferwyr gynnal eu sgiliau a'u Datblygiad Proffesiynol Parhaus.
O'ch penodi i'r swydd, bydd angen ichi weithio'n unol â gofynion deddfwriaethol allweddol, fel Mesurau Iechyd Meddwl Cymru (2010), Deddf Iechyd Meddwl (1983) a'r Ddeddf Galluedd Meddyliol (2005). Bydd angen dealltwriaeth o egwyddorion y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn ogystal.
Bydd raid meddu ar gymhwyster perthnasol ym maes Gwaith Cymdeithasol ac mae disgwyl eich bod chi wedi'ch cofrestru'n Weithiwr Cymdeithasol gyda Gofal Cymdeithasol Cymru adeg eich penodi. Caiff cyflog ehangach ei gynnig i ymgeiswyr sydd â'r cymhwyster Gweithwyr Iechyd Meddwl Proffesiynol Cymeradwy ac sy'n cyflawni'r rôl honno yn rhan o'r swydd.
I gael ragor o wybodaeth am y swydd yma neu i drefnu sgwrs anffurfiol ffoniwch y Rheolwr Carfan - Arfer a Chyflawniad: Helen Parker - (01443) 424350 - Carfan Iechyd Meddwl Cymuned Cwm Rhondda Prif Swyddfa Pentre, Stryd Llewelyn, Pentre, CF41 7BT Helen.L.Parker@rctcbc.gov.uk Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.
Yn ogystal âr cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus. Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn y gweithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg. Yn rhan o'i amcanion hirdymor mewn perthynas âr Gymraeg a Strategaeth Cynllunio'r Gweithlu, mae'r Cyngor wedi ymrwymo i gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer siaradwyr Cymraeg Lefel 3 ac uwch. Os ydych chi'n bodloni'r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person ar gyfer y swydd, ac yn siaradwr Cymraeg Lefel 3 neu'n uwch, bydd gwahoddiad i chi gael cyfweliad os ydych chi'n dewis cymryd rhan yn y cynllun. Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os dydych chi ddim wedi clywed wrthon ni cyn pen pedair wythnos o'r dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.
Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi’r Lluoedd Arfog, rhaid i’r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr neu filwyr wrth gefn, sy’n cwrdd â’r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.