Mae'n dda gan Gyngor Rhondda Cynon Taf gynnig swydd Blaen Weithiwr Cymdeithasol yn rhan o'i Wasanaethau Gofal Cymdeithasol. Mae cyfle wedi codi i Flaen Weithiwr Cymdeithasol ymuno â'n Carfan Gofal a Chymorth Tymor Byr yn Nhŷ Elái. Mae'r garfan yn gweithio ledled ardal gyfan RhCT ac mae'n manteisio ar ddulliau gweithio hyblyg. Mae'n garfan brysur sy'n cynnal asesiadau gydag oedolion o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (2014). Mae hyn er mwyn gwirio'u cymhwysedd ar gyfer Gofal a Chymorth, a Chymorth i Gynhalwyr, a hynny mewn achosion lle mae'n ymddangos bod angen cwblhau'r gwaith i fynd i'r afael âr sefyllfa a'i sefydlogi mewn 12 wythnos neu lai.
A hwythau'n rhan o'r Gwasanaethau Tymor Byr ehangach, gan gynnwys y gwasanaethau ail-alluogi a Chymorth Gartref, mae staff yn y Garfan Gofal a Chymorth Tymor Byr yn gweithio'n agos gyda'u cydweithwyr ar draws y Gwasanaethau Tymor Byr i wireddu deilliannau er gwell i ddefnyddwyr ein gwasanaethau a'u teuluoedd/cynhalwyr, yn ogystal â chydbwyso risg ag annibyniaeth unigol a dewis yr unigolion.
Dyma gyfle cyffrous i unigolyn sydd â brwdfrydedd dros weithio gydag oedolion dros 18 oed. Bydd angen i chi feddu ar sgiliau cyfathrebu da ar lafar ac yn ysgrifenedig, bod yn drefnus ac yn gryf eich cymhelliad. Byddwch chi'n gallu blaenoriaethu llwyth gwaith yn ogystal â bod yn greadigol, a byddwch chi'n credu o ddifrif mewn rhoi annibyniaeth i oedolion ac yn gallu cydbwyso risg yn erbyn hawl yr unigolion i hunanbenderfyniad.
A chithau'n Flaen Weithiwr Cymdeithasol, bydd disgwyl i chi reoli llwyth gwaith sy'n cynnwys achosion mwy cymhleth, ynghyd â dyletswyddau eraill y swydd yma. Byddwch chi'n allweddol wrth ddatblygu arfer gorau, felly bydd angen i chi hybu a darparu arfer proffesiynol o safon uchel yn gyson, bod yn fentor sy'n annog eraill i wneud yr un peth, a darparu sesiynau i’ch cydweithwyr.
Byddwch chi'n derbyn goruchwyliaeth reolaidd a broffesiynol bob chwech i wyth wythnos, a byddwch chi hefyd yn goruchwylio aelodau'r garfan. Byddwch chi'n chwarae rhan allweddol yn y garfan rheoli ac yn cefnogi rheolwr y garfan i reoli atgyfeiriadau, dyraniadau a rhestrau aros. Bydd disgwyl i chi hefyd ddirprwyo yn ôl yr angen ar ran rheolwr y garfan.
Byddwch chi'n gweithio mewn amgylchedd heriol ond cefnogol. Rydyn ni'n dilyn model ataliol sy'n seiliedig ar gryfderau, o dan egwyddorion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014. Bydd raid gweithio gydag unigolion a theuluoedd yn ystod cyfnod o newid. O ran y gwaith, mae pwyslais ar weithio gydag asiantaethau, a byddwch chi'n gweithio'n agos gyda chydweithwyr o feysydd proffesiynol eraill, megis iechyd, yr heddlu a thai.
Bydd disgwyl i chi ddeall polisïau diogelu a Deddf Galluedd Meddyliol 2005, a glynu atyn nhw. Byddai dealltwriaeth o ofynion Gofal Iechyd Parhaus yn fuddiol.
Caiff datblygiad proffesiynol ei annog a'i ddisgwyl. Mae gan y Cyngor adran hyfforddiant ragorol sy'n cynnig cyfleoedd amrywiol i gymryd rhan mewn hyfforddiant achrededig sy'n berthnasol i'r swydd. Mae ein hamgylchedd gwaith yn gefnogol iawn. Mae Rhondda Cynon Taf hefyd yn cynnig cyfle i gynnal cydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith drwy ei gynllun buddion staff.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus â chymhwyster Gwaith Cymdeithasol proffesiynol perthnasol, h.y. gradd mewn Gwaith Cymdeithasol neu'i rhagflaenydd cydnabyddedig cyfwerth. Rhaid i'r ymgeisydd hefyd fod ar gofrestr Gofal Cymdeithasol Cymru yn Weithiwr Cymdeithasol gyda phrofiad ôl-gymhwyso helaeth, gan gynnwys gweithio ar lefel gweithiwr cymdeithasol profiadol.
Mae gyda phob un o'n hymarferwyr gyfle i ddylanwadu ar ddatblygiad ein gwaith. Maen nhw'n cael cymorth gan garfan reoli gadarn a phrofiadol ar lefelau strategol a gweithredol.
Rydyn ni'n cydnabod bod y maes gwaith cymdeithasol yn un heriol, yn broffesiynol ac yn bersonol, a'i fod yn gofyn am sgiliau, ymrwymiad a brwdfrydedd sylweddol. Mae gyda ni ganolfan Addysg a Datblygu fewnol, bwrpasol sy'n rhoi cymorth ymarferol ar bob lefel i ymarferwyr gynnal eu sgiliau a'u Datblygiad Proffesiynol Parhaus.
O'ch penodi, byddwch chi'n elwa ar lwybr gyrfa gwell ar gyfer gweithwyr proffesiynol yn y maes Gwaith Cymdeithasol, a phecyn buddion sy'n cynnwys gweithio hyblyg, pris gostyngol ar gyfer aelodaeth Hamdden am Oes a chyfle i fanteisio ar y cynlluniau prynu sef 'Beicio i'r Gwaith' a 'Let's Connect'.
Buddion gweithio i Gyngor Rhondda Cynon Taf: - Trefniadau Gweithio Hyblyg (gan ddibynnu ar y swydd)
- Cyfleoedd datblygu gyrfa ardderchog
- Cynllun pensiwn arbennig gyda chyfraniadau gan y cyflogwr
- Cymorth a chyngor iechyd galwedigaethol
- Cynllun buddion ar gyfer staff
- Gostyngiadau siopa gyda cherdyn Vivup
Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.
Yn ogystal âr cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio’n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus. Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaethau anneuaidd, crefydd neu gred, neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg. Yn rhan o'i amcanion hirdymor mewn perthynas âr Gymraeg a Strategaeth Cynllunio'r Gweithlu, mae'r Cyngor wedi ymrwymo i gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer siaradwyr Cymraeg Lefel 3 ac uwch. Os ydych chi'n bodloni'r meini prawf hanfodol sydd wedi'u nodi yn y fanyleb person ar gyfer y swydd ac yn siaradwr Cymraeg Lefel 3 ac uwch, fe’ch gwahoddir i gyfweliad os byddwch chi'n dewis cymryd rhan yn y cynllun. Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os dydych chi ddim wedi clywed wrthon ni cyn pen pedair wythnos o'r dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.
Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi'r Lluoedd Arfog, rhaid i’r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr neu filwyr wrth gefn ac sy’n cwrdd âr meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.