Tŷ Catrin, Pontypridd, CF37 1NYYmunwch â'n Carfan Lleoli fywiog fel Blaen Weithiwr Cymdeithasol!Ydych chi'n barod i wneud gwahaniaeth mawr i fywydau plant a phobl ifainc? Mae ein Carfan Lleoli yn dymuno penodi Blaen Weithiwr Cymdeithasol angerddol a medrus i arwain ein carfan fach ond deinamig.
Amdanom Ni: Rydyn ni'n garfan brysur ac egnïol sy'n ymroi i gyflawni'r deilliannau gorau i blant a phobl ifainc. Rydyn ni'n ymfalchïo yn ein sgiliau cyfathrebu rhagorol a'n gallu i weithio'n dda gydag eraill. Os oes gyda chi wybodaeth am wasanaethau maethu a phreswyl, yn y sectorau preifat a lleol, chi yw'r ymgeisydd delfrydol!
Beth Fyddwch Chi'n Ei Wneud: - Arwain gyda Rhagoriaeth: Dangos eich cymhwysedd proffesiynol a chyflawni deilliannau o ansawdd uchel yn gyson.
- Arloesi ac Ysbrydoli: Bod â meddylfryd cadarnhaol a chreadigol i wneud y gorau o'n hadnoddau a'n cyllidebau presennol.
- Cydweithio'n Effeithiol: Gweithio'n agos gyda phartneriaid i sicrhau'r ddarpariaeth gwasanaeth orau bosibl.
- Hyrwyddo Arferion Gorau: Defnyddio'ch arbenigedd i hyrwyddo'r safonau uchaf mewn gwasanaethau maethu a phreswyl.
- Cyflwyno Ymyriadau Effeithiol: Defnyddio'ch sgiliau asesu, datrys problemau a gwneud penderfyniadau.
- Arddangos Sgiliau Arwain: Dangos eich galluoedd arwain a rheoli gwaith achos amrywiol a chymhleth gydag ymroddiad ac arbenigedd.
- Hyrwyddo Sicrwydd Ansawdd: Cynnal archwiliadau unigol a thematig i sicrhau bod ein gwasanaethau’n bodloni’r safonau uchaf.
- Hyrwyddo Cynhwysiant a Chydraddoldeb: Sicrhau bod ein darpariaeth gwasanaeth yn parchu ac yn gwerthfawrogi amrywiaeth o ran hil, rhyw, oedran, statws priodasol, rhywioldeb, anabledd, crefydd neu genedligrwydd.
Amcanion y swydd: - Cydweithio i Gyflawni Gwelliannau Cynaliadwy: Gwella cyflawniad, ansawdd a chysondeb ymarfer ar draws y garfan, gan gyflawni'r deilliannau gorau i blant, pobl ifainc ac oedolion.
- Datblygu ffyrdd arloesol o weithio: Sicrhau deilliannau cadarnhaol i oedolion a phlant.
- Cynrychioli a hyrwyddo'r gwasanaeth: Cymryd rhan mewn cyfarfodydd amlasiantaeth perthnasol.
- Sicrhau trosglwyddo gwybodaeth: Rhannu arfer gorau ar draws y garfan a'r gwasanaethau.
- Gweithio mewn partneriaeth yn effeithiol: Cyflawni a gweithredu'r amcanion yma.
- Creu, cynllunio a darparu ymyrraeth arbenigol wedi'i seilio ar dystiolaeth.
- Cymryd rhan mewn datblygiad strategol: Cyfrannu at dwf a datblygiad y garfan a'r gwasanaeth.
- Bod yn arweinydd a mentor proffesiynol i'r Garfan: Cefnogi aelodau'r garfan.
- Cael yr wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau ymarfer: Helpu i hyfforddi gweithwyr cymdeithasol israddedig a'r rheiny wedi'u cymhwyso.
Rydyn ni'n cynnig: - Amgylchedd tîm cefnogol a chydweithredol lle mae eich syniadau'n cael eu gwerthfawrogi.
- Cyfleoedd i wneud argraff ystyrlon bob dydd.
- Cyfle i arwain, mentora a thyfu gyda charfan ymroddedig.
Os ydych chi'n weithiwr cymdeithasol brwdfrydig a phrofiadol sydd â brwdfrydedd dros wneud gwahaniaeth, bydden ni wrth ein bodd yn clywed gennych chi!
Am drafodaethau pellach, e-bostiwch Rhiannon Shepherd (
Rhiannon.Shepherd@rctcbc.gov.uk) neu Gemma Higgon-Young (
Gemma.L.Higgon-Young@rctcbc.gov.uk).
Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.
Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio’n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.Yn rhan o amcanion hirdymor y Cyngor mewn perthynas â'r Gymraeg a'i Strategaeth Cynllunio'r Gweithlu, mae wedi ymrwymo i gynllun cyfweliad gwarantedig ar gyfer siaradwyr Cymraeg Lefel 3 ac uwch. Os ydych chi'n bodloni'r meini prawf hanfodol wedi'u nodi ym manyleb y person ar gyfer y swydd ac yn siaradwr Cymraeg Lefel 3 ac uwch, fe'ch gwahoddir i gyfweliad os byddwch chi'n dewis cymryd rhan yn y cynllun.Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os dydych chi ddim wedi clywed wrthon ni cyn pen pedair wythnos o'r dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro hwn. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.
Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi'r Lluoedd Arfog, rhaid i’r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr neu filwyr wrth gefn sy’n cwrdd â'r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.