Carfan Plant sy'n Derbyn GofalMae'r holl Weithwyr Cymdeithasol sy'n gweithio yn y carfanau yma'n gymwys i dderbyn £2,250 o atodiad y farchnad. Mae hyn waeth beth fo hyd y profiad ôl-gymhwyso a chaiff ei adolygu ym mis Mai 2027. Bydd y taliad yma'n cael ei dalu ar sail pro rata bob mis. Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn falch o gynnig swydd
Blaen Weithiwr Cymdeithasol a fydd yn gweithio yn rhan o'n Carfanau Plant sy'n Derbyn Gofal
sydd newydd eu hailgyflunio. Ymunwch â ni wrth i ni gychwyn ar gyfnod cyffrous o drawsnewid ein gwasanaeth. Ynglŷn â'r garfan Mae ein
Carfanau Plant sy'n Derbyn Gofal (PDG) yn ymroddedig i weithio ar y cyd i wella’r cyfleoedd a’r canlyniadau ar gyfer plant sydd â phrofiad o ofal; hynny yw eu blaenoriaeth.Mae'n carfanau'n rhoi cymorth o ran newid cadarnhaol ac yn hwyluso hyn, er mwyn galluogi pobl ifanc sy'n derbyn gofal i adael y system ofal yn gynt, a hyn i mewn i amgylcheddau diogel a sefydlog. Gall ailuno â theulu biolegol, gadael gofal preswyl, a chamu i lawr i leoliadau maeth, fod yn rhan o hyn. Rydyn ni am i'n plant sy'n derbyn gofal i brofi perthnasoedd diogel ac iach gyda'r bobl sydd fwyaf pwysig iddyn nhw. Nod ein carfanau yw sicrhau amser teulu mwy pwrpasol, cadarnhaol, heb bethau eraill yn mynd â sylw, fydd yn galluogi plant sy'n derbyn gofal i gynnal cysylltiadau a pherthnasoedd cryf gyda'u teuluoedd genedigol, gan roi ymdeimlad cadarnach o hunaniaeth iddyn nhw trwy gydol eu plentyndod.
A chithau'n
Flaen Weithiwr Cymdeithasol, byddwch chi'n gweithio mewn amgylchedd carfan cefnogol ond heriol. Bydd disgwyl i chi fentora eraill pan fo angen hynny ar ymarferwyr newydd gymhwyso ac ymrwymo i gyflawni datblygiad personol. Yn y rôl yma byddwch chi'n derbyn goruchwyliaeth anffurfiol a ffurfiol yn rheolaidd a bydd disgwyl i chi ddirprwyo ar adegau ar gyfer Rheolwr y Garfan.
Manteision: Wrth weithio i Wasanaethau i Blant Rhondda Cynon Taf, bydd gyda chi fynediad at ystod eang o fuddion staff, yn ogystal ag ystod eang o gyfleoedd i ddysgu a datblygu. Rydyn ni'n blaenoriaethu lles ein hymarferwyr, gan ddarparu cymorth, llwythi gwaith hylaw, ac adnoddau sydd eu hangen arnyn nhw er mwyn ffynnu.
Ar hyn o bryd, rydyn ni'n cyflwyno Model Ymarfer newydd ledled y gwasanaeth, sy'n canolbwyntio ar berthnasoedd, yn gydweithredol ac yn Ystyriol o Drawma. Mae hyn yn golygu y byddwch chi'n cael mynediad at becyn hyfforddi cynhwysfawr sy'n seiliedig ar dystiolaeth, sy'n cynnwys hyfforddiant Cyfathrebu Cydweithredol - gan gefnogi staff i weithio mewn ffordd sy'n canolbwyntio ar ddeilliannau, gan annog sgyrsiau myfyriol a grymusol gyda phobl ifainc a'u teuluoedd. Yn ogystal â rhaglen hyfforddi bwrpasol sy'n ystyriol o drawma.
Mae buddion eraill yn cynnwys:
- Yr hawl i ofyn am weithio hyblyg. Mae gyda ni bolisïau cefnogol ar gyfer rhieni sy'n cynnwys tâl mamolaeth, mabwysiadu a thadolaeth uwch. Rydyn ni hefyd yn gweithio mewn ffordd hyblyg, sy'n eich galluogi chi i weithio gartref neu yn y swyddfa. Ar hyn o bryd, rydyn ni hefyd yn treialu polisi gweithio hyblyg gwell yn y carfanau yma, gan ganiatáu i chi gael hyd at 2 ddiwrnod di-waith y mis!
- Mynediad i’n ‘Mannau myfyriol’ uchel eu parch sy’n cynnwys trafodaethau cydweithredol rhwng y garfan neu unigolion, wedi’u hwyluso gan seicolegydd sy’n cefnogi rhannu meddyliau, teimladau ac ymatebion i brofiadau yn y gwaith.
- Mynediad i’n Huned Iechyd Galwedigaethol a ‘Vivup’, ein Rhaglen Cymorth Cyflogeion Cwbl Gyfrinachol.
- 26 diwrnod o wyliau blynyddol, sy'n cynyddu i 31 diwrnod ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth. Mae cyfle hefyd i brynu gwyliau blynyddol ychwanegol hyd at uchafswm o 10 diwrnod (pro rata) y flwyddyn.
- Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL) hael.
- Mae buddion ychwanegol ledled y Cyngor yn cynnwys ein cynllun Beicio i'r Gwaith, aelodaeth Hamdden am Oes ratach a cherdyn Vectis sy'n rhoi prisiau gostyngol i staff.
Dyma rai o’r buddion sydd gyda ni i’w cynnig. Edrychwch ar ein tudalennau gwe pwrpasol ar gyfer Gwasanaethau i Blant am ragor o wybodaeth ynghylch pam y dylech chi ddewis gyrfa ym maes Gwaith Cymdeithasol yn Rhondda Cynon Taf.
www.rctcbc.gov.uk/swyddigwasanaethauiblantI gael rhagor o wybodaeth am y swydd yma neu i drefnu sgwrs anffurfiol gyda'r Rheolwr, cysylltwch â: Nicola Bowditch, Rheolwr y Gwasanaeth E-bost- Nicola.Bowditch@rctcbc.gov.uk Gwybodaeth Ychwanegol Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.
Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio’n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.
Yn rhan o'i amcanion hirdymor mewn perthynas â'r Gymraeg a Strategaeth Cynllunio'r Gweithlu, mae'r Cyngor wedi ymrwymo i gynllun cyfweliad gwarantedig ar gyfer siaradwyr Cymraeg Lefel 3 ac uwch. Os ydych chi'n bodloni'r meini prawf hanfodol wedi'u nodi yn y fanyleb person ar gyfer y swydd ac yn siaradwr Cymraeg Lefel 3 ac uwch, fe'ch gwahoddir i gyfweliad os byddwch chi'n dewis cymryd rhan yn y cynllun.
Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi’r Lluoedd Arfog, rhaid i’r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr neu filwyr wrth gefn, sy’n cwrdd â’r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.