Y Garfan Cefnogi Unigolion 14+ oed Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn dymuno penodi
Blaen Weithiwr Cymdeithasol medrus a phrofiadol i ymuno â'n Gwasanaeth 14+ newydd ei ddatblygu ar gyfer rôl gyffrous o fewn y
Garfan Cefnogi Unigolion 14+. Fydd yr ymgeisydd yma ddim yn gyfrifol am achosion penodol. Y swydd A chithau'n Flaen Weithiwr Cymdeithasol yn y garfan Cefnogi Unigolion 14+, bydd cyfle gyda chi gwblhau ymyriadau sydd wedi'u teilwra i anghenion unigryw pob teulu heb fod yn gyfrifol am yr achosion arferol. Byddwch chi'n ymdrin ân hachosion mwy cymhleth gan hefyd ddarparu cefnogaeth, cyngor a goruchwyliaeth i'r garfan Cefnogi Unigolion 14+ ehangach. Bydd hyn yn cynnwys gweithio gyda phlant a theuluoedd sydd o dan oruchwyliaeth Cynllun Gofal a Chymorth (CASP), Diogelu Plant neu yng ngofal yr Awdurdod Lleol. Rydyn ni hefyd yn gweithio gyda Phlant ar eu Pen eu Hunain sy'n Ceisio Lloches (UASC) i sicrhau eu bod yn cael y cymorth, arweiniad a'r diogelu sy'n diwallu eu hanghenion penodol nhw
Bydd y swydd yma'n gofyn am weithiwr proffesiynol sy'n angerddol am gyflawni gwaith â ffocws sy'n effeithiol wrth gefnogi'r canlyniadau gorau i blant a theuluoedd mewn ffordd sy'n seiliedig ar gryfderau, yn canolbwyntio ar atebion ac yn ystyriol am drawma; yn unol â Model Ymarfer newydd yr awdurdod. Fel gwasanaeth sydd newydd ei ddatblygu, byddwch hefyd yn cael y cyfle i lunio ein carfan wrth i ni barhau i dyfu ac addasu i anghenion sy'n newid yn barhaus yn ein gwasanaeth.
Mae'r garfan Cefnogi Unigolion 14+ yn darparu cefnogaeth arbenigol i bobl ifainc rhwng 14 a 25 oed sy'n derbyn gofal, yn byw gartref gyda theulu, yn ddigartref neu'n gadael y system gofal, gan eu grymuso i ddatblygu sgiliau bywyd cynaliadwy a meithrin annibyniaeth. Mae'r garfan yn cynnwys 1 Gweithiwr Cymdeithasol Ymgynghorol, 1 Blaen Weithiwr Cymdeithasol, 1 Gweithiwr Cymdeithasol a 2 Weithiwr Ymyrraeth, yn sefyll yn annibynnol ond yn gweithio ochr yn ochr âr Carfanau Unigolion 14+ (Dwyrain a Gorllewin).
Rôl y Garfan Cefnogi Unigolion 14+ yw cynyddu'r posibilrwydd y bydd pobl ifainc yn aros yn eu cartref teuluol, lleihau'r tebygolrwydd y bydd perthnasoedd o fewn y lleoliad yn chwalu, ac annog datblygiad perthnasoedd iach yn y cartref ac yn y gymuned ehangach trwy ymyriadau wedi'u targedu. Byddwch chi'n gweithio ochr yn ochr ag ystod eang o asiantaethau partner i gefnogi'r rôl hanfodol o gynllunio'r cyfnod pontio o ddod yn oedolyn, gan sicrhau bod ein pobl ifainc sydd wedi bod mewn gofal yn gadael y gofal ar yr amser sy'n iawn iddyn nhw, gyda'r gefnogaeth a'r llety mwyaf priodol ar gael iddyn nhw.
Pam gweithio i ni? Wrth weithio i Wasanaethau i Blant Rhondda Cynon Taf, bydd gyda chi fynediad at ystod eang o fuddion staff, yn ogystal ag ystod eang o gyfleoedd i ddysgu a datblygu. Rydyn ni'n blaenoriaethu lles ein hymarferwyr, gan ddarparu cymorth, llwythi gwaith hylaw, ac adnoddau sydd eu hangen arnyn nhw er mwyn ffynnu.
Rydyn ni wrthi’n cyflwyno Model Ymarfer newydd ar draws y gwasanaeth, sy’n canolbwyntio ar berthnasoedd, yn gydweithredol ac yn seiliedig ar drawma. Mae hyn yn golygu y bydd mynediad gyda chi at becyn hyfforddi cynhwysfawr sy'n seiliedig ar dystiolaeth, sy'n cynnwys hyfforddiant Cyfathrebu Cydweithredol - wrth gefnogi staff i weithio mewn ffyrdd sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau, gan annog sgyrsiau myfyriol a grymuso gyda phobl ifanc a'u teuluoedd. Yn ogystal â hynny, byddwch chi hefyd yn derbyn rhaglen hyfforddi ystyriol o drawma mewnol.
Mae manteision eraill yn cynnwys:
- Yr hawl i ofyn am weithio hyblyg. Mae gyda ni bolisïau cefnogol ar gyfer rhieni sy'n cynnwys tâl mamolaeth, mabwysiadu a thadolaeth uwch. Rydyn ni hefyd yn gweithio mewn modd hyblyg, sy'n eich galluogi chi i weithio gartref neu yn y swyddfa.
- Mynediad i'n 'Mannau myfyriol' sy'n cynnwys trafodaethau cydweithredol rhwng carfan o bobl neu unigolion, wedi'u hwyluso gan seicolegydd sy'n cefnogi'r broses o rannu meddyliau, teimladau ac ymatebion i brofiadau yn y gwaith.
- Mynediad i Uned Iechyd Galwedigaethol y Cyngor a 'Vivup', ein Rhaglen Cymorth i Weithwyr sy'n gwbl Gyfrinachol.
- 26 diwrnod o wyliau blynyddol, sy'n cynyddu i 31 diwrnod ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth. Mae cyfle hefyd i brynu gwyliau blynyddol ychwanegol hyd at uchafswm o 10 diwrnod (pro rata) y flwyddyn.
- Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol hael.
- Mae buddion ychwanegol ledled y Cyngor yn cynnwys ein cynllun Beicio i'r Gwaith, aelodaeth Hamdden am Oes am bris gostyngol a cherdyn Vivup sy'n rhoi prisiau gostyngol i staff.
Dyma rai o’r buddion sydd gyda ni i’w cynnig. Edrychwch ar ein tudalennau gwe pwrpasol ar gyfer Gwasanaethau i Blant am ragor o wybodaeth ynghylch pam y dylech chi ddewis gyrfa fel Gweithiwr Cymdeithasol yn Rhondda Cynon Taf.
www.rctcbc.gov.uk/swyddigwasanaethauiblant Cysylltwch âr rheolwr i gael rhagor o wybodaeth am y swydd yma neu i drefnu sgwrs anffurfiol: Nicola Bowditch, Rheolwr y Gwasanaeth E-bost - Nicola.Bowditch@rctcbc.gov.uk Gwybodaeth Ychwanegol Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.
Yn ogystal âr cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.
Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.
Yn rhan o'i amcanion hirdymor mewn perthynas âr Gymraeg a Strategaeth Cynllunio'r Gweithlu, mae'r Cyngor wedi ymrwymo i gynllun cyfweliad gwarantedig ar gyfer siaradwyr Cymraeg Lefel 3 ac uwch. Os ydych chi'n bodloni'r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person ar gyfer y swydd, ac yn siaradwr Cymraeg Lefel 3 neu'n uwch, bydd gwahoddiad i chi gael cyfweliad os ydych chi'n dewis cymryd rhan yn y cynllun.
Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi'r Lluoedd Arfog, rhaid i’r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr neu filwyr wrth gefn sy’n cwrdd âr meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.