Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn falch o gynnig swydd
Blaen Weithiwr Cymdeithasol a fydd yn gweithio yn rhan o'n
Carfan Cefnogi Plant 14 oed a hŷn sydd newydd ei hailgyflunio.
Ymunwch â ni wrth i ni gychwyn ar gyfnod cyffrous o drawsnewid ein gwasanaeth. Am y Swydd Fydd deiliad y swydd yma ddim yn gyfrifol am achosion penodol, ond bydd yn cynnig cymorth ac arweiniad ymarferol ac emosiynol i bobl ifainc, rhieni a chynhalwyr. Bydd hyn yn cynnwys ymyriadau wedi'u cynllunio, ac ymatebion amserol i'r rhai sydd mewn argyfwng. Bydd y blaen weithiwr cymdeithasol sy'n gweithio yn y garfan cymorth i bobl ifainc 14 oed a hŷn yn uniongyrchol gyfrifol i'r gweithiwr cymdeithasol ymgynghorol ac mae disgwyl iddo ymgymryd ag ymyriadau a gaiff eu hystyried yn fwy cymhleth, yn ogystal â rhoi cyngor a goruchwyliaeth i aelodau'r garfan.
Rôl y blaen weithiwr cymdeithasol fydd cefnogi pobl ifainc i barhau i fyw gyda'u teuluoedd, gan ddarparu ymyriadau wedi'u teilwra i helpu i gefnogi newid, a chynnal perthnasoedd iach. Byddan nhw hefyd yn gweithio gyda phobl ifainc sydd â phrofiad o dderbyn gofal a'u cynhalwyr, gan gefnogi lleoliadau sefydlog a cheisio atal lleoliadau rhag methu. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus hefyd yn ymgymryd â rôl fentora lle bo angen gydag ymarferwyr yn y garfan, ac yn barod i ymrwymo i'w datblygiad proffesiynol ei hun.
Mae ein carfanau 14 oed a hŷn yn cynnig cymorth arbenigol i bobl ifainc 14-25 oed sydd â phrofiad o dderbyn gofal, sy’n byw gartref gyda theulu, sy’n profi digartrefedd neu sy’n gadael gofal, gan eu grymuso i ddatblygu sgiliau bywyd cynaliadwy ac annibyniaeth. Rydyn ni hefyd yn gweithio gyda Phlant ar eu Pen eu Hunain sy'n Ceisio Lloches (PPHCLl) i sicrhau eu bod yn cael y cymorth, arweiniad a'r diogelu sy'n diwallu eu hanghenion penodol nhw.
Ein nod yw darparu gwasanaeth sy'n gwella'r cyfleoedd a'r deilliannau i bobl ifainc yn eu harddegau a phobl ifainc sydd â phrofiad o dderbyn gofal fel blaenoriaeth, gan ddarparu profiad mwy sefydlog drwy gydol eu taith tuag at annibyniaeth. Mae cynllunio ar gyfer y cyfnod pontio i fod yn oedolyn yn ganolbwynt allweddol i'n gwaith. Rydyn ni'n gweithio gydag asiantaethau partner i sicrhau bod pobl ifainc yn gadael gofal ar yr amser iawn iddyn nhw, gan sicrhau bod y cymorth a'r llety mwyaf priodol ar gael iddyn nhw.
Manteision: Wrth weithio i Wasanaethau i Blant Rhondda Cynon Taf, bydd gyda chi fynediad at ystod eang o fuddion staff, yn ogystal ag ystod eang o gyfleoedd i ddysgu a datblygu. Rydyn ni'n blaenoriaethu lles ein hymarferwyr, gan ddarparu cymorth, llwythi gwaith hylaw, ac adnoddau sydd eu hangen arnyn nhw er mwyn ffynnu.
Ar hyn o bryd, rydyn ni'n cyflwyno Model Ymarfer newydd ledled y gwasanaeth, sy'n canolbwyntio ar berthnasoedd, yn gydweithredol ac yn Ystyriol o Drawma. Mae hyn yn golygu y byddwch chi'n cael mynediad at becyn hyfforddi cynhwysfawr sy'n seiliedig ar dystiolaeth, sy'n cynnwys hyfforddiant Cyfathrebu Cydweithredol - gan gefnogi staff i weithio mewn ffordd sy'n canolbwyntio ar ddeilliannau, gan annog sgyrsiau myfyriol a grymusol gyda phobl ifainc a'u teuluoedd. Yn ogystal â rhaglen hyfforddi pwrpasol sy'n ystyriol o drawma.
Mae buddion eraill yn cynnwys:
- Yr hawl i ofyn am weithio hyblyg. Mae gyda ni bolisïau cefnogol ar gyfer rhieni sy'n cynnwys tâl mamolaeth, mabwysiadu a thadolaeth uwch. Rydyn ni hefyd yn gweithio mewn ffordd hyblyg, sy'n eich galluogi chi i weithio gartref neu yn y swyddfa. Ar hyn o bryd, rydyn ni hefyd yn treialu polisi gweithio hyblyg gwell yn y carfanau yma, gan ganiatáu i chi gael hyd at 2 ddiwrnod di-waith y mis!
- Mynediad i’n ‘Mannau myfyriol’ uchel eu parch sy’n cynnwys trafodaethau cydweithredol rhwng y garfan neu unigolion, wedi’u hwyluso gan seicolegydd sy’n cefnogi rhannu meddyliau, teimladau ac ymatebion i brofiadau yn y gwaith.
- Mynediad i’n Huned Iechyd Galwedigaethol a ‘Vivup’, ein Rhaglen Cymorth Cyflogeion Cwbl Gyfrinachol.
- 26 diwrnod o wyliau blynyddol, sy'n cynyddu i 31 diwrnod ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth. Mae cyfle hefyd i brynu gwyliau blynyddol ychwanegol hyd at uchafswm o 10 diwrnod (pro rata) y flwyddyn.
- Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL) hael.
- Mae buddion ychwanegol ledled y Cyngor yn cynnwys ein cynllun Beicio i'r Gwaith, aelodaeth Hamdden am Oes ratach a cherdyn Vectis sy'n rhoi prisiau gostyngol i staff.
Dyma rai o’r buddion sydd gyda ni i’w cynnig. Edrychwch ar ein tudalennau gwe pwrpasol ar gyfer Gwasanaethau i Blant am ragor o wybodaeth ynghylch pam y dylech chi ddewis gyrfa ym maes Gwaith Cymdeithasol yn Rhondda Cynon Taf.
www.rctcbc.gov.uk/swyddigwasanaethauiblantI gael rhagor o wybodaeth am y swydd yma neu i drefnu sgwrs anffurfiol gyda'r Rheolwr, cysylltwch â: Nicola Bowditch, Rheolwr y Gwasanaeth E-bost- Nicola.Bowditch@rctcbc.gov.ukGwybodaeth Ychwanegol Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.
Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio’n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.
Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.
Yn rhan o'i amcanion hirdymor mewn perthynas â'r Gymraeg a Strategaeth Cynllunio'r Gweithlu, mae'r Cyngor wedi ymrwymo i gynllun cyfweliad gwarantedig ar gyfer siaradwyr Cymraeg Lefel 3 ac uwch. Os ydych chi'n bodloni'r meini prawf hanfodol sydd wedi'u nodi yn y fanyleb person ar gyfer y swydd ac yn siaradwr Cymraeg Lefel 3 ac uwch, fe'ch gwahoddir i gyfweliad os byddwch chi'n dewis cymryd rhan yn y cynllun.Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi'r Lluoedd Arfog, rhaid i’r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr neu filwyr wrth gefn sy’n cwrdd â'r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.