Wrexham County Borough Council / Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Lleoliad
Wrecsam
Pob ardal
Manylion
Math o gontract
Parhaol
Maes gofal
Gofal cymdeithasol
Gweithle
Cynllunio a chomisiynu gofal cymdeithasol
Rôl
Swyddog cymorth ar gyfer cynllunio a chomisiynu gofal cymdeithasol
Disgrifiad o'r swydd
Disgrifiad
Brocer Gofal (Gofal Cymdeithasol)
1x tymor penodol (dwy flynedd)
37 awr y wythnos
G07 £30,559 - £32,115
Dyma gyfle i ymuno â thîm prysur a chyfeillgar o fewn yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol yn secondiad. Mae'r tîm yn ymdrin ag ystod o wasanaethau cymorth - gofal cartref, gofal preswyl, byw â chymorth, gofal dydd a gwasanaethau eraill gan ddarparwyr trydydd sector. Chi fydd y pwynt cyswllt ar gyfer Darparwyr, timau Gwaith Cymdeithasol a timau Cyllid.
Bydd eich dyletswyddau'n cynnwys prosesu cynllun gofal yn gywir ac yn amserol a chysylltu ag ystod o ddarparwyr a gweithwyr proffesiynol i ddod o hyd i'r gofal sydd ei angen ar bobl Wrecsam. Mae sgiliau cyfathrebu a datrys problemau cryf yn hanfodol gan y byddwch yn deilo ag amrywiaeth o ddarparwyr gofal a thimau gwaith cymdeithasol yn ddyddiol.
Bydd angen i chi allu defnyddio'ch menter i gaslgu gwybodaeth gan ystod o amrywiaeth o ffynonellau gan gynnwys gwefannau rheolyddion ar-elin (AGC, CQC) yn ogystal â chysylltu ag awdurdodau lleol eraill. Bydd y rôl hon yn cynnwys dod o hyd i ofal i oedolion a phlant.
Mae sgiliau rhifedd, Word ac Excel yn hanfodol ar gyfer y swydd hon gan fod y tîm yn defnyddio ystod o daenlenni a chronfeydd data ar-lein.
Mae'm yn defnyddio model gweithio hybrid o ran gweithio yn y swyddfa ( Adeiladau'r Goron) gweithio gartref. Bydd angen i chi fod yn gyfforddus yn defnyddio technoleg i fedru gweithio o unrhyw leoliad a chadw mewn cysylltiad gyda chydweithwyr, a rhaid gallu mynychu'r swyddfa yn wythnosol, o leiaf.
Am ragor o wybodaeth neu os hoffech sgwrs am y swydd, cysylltwch ag Ben Chard, Rheolwr y Tîm (Contractau) ben.chard@wrexham.gov.uk neu ffoniwch 01978 298668 a gofynnwch am Ben Chard.
Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.
Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.