Ynglŷn â'r swydd wag Cyfeirnod y Swydd Wag: 977
Sefydliad: Cyngor Sir Caerfyrddin
Adran: Caemaen
Nifer y swyddi gwag: 1
Math o gontract: Parhaol Rhan-amser
Lleoliad: Llanelli
Gradd: Gradd D +8%
Cyflog: £26,773 - £27,631
Os yw'n rhan-amser a/neu yn ystod y tymor, bydd y cyflog llawn amser a ddyfynnir (yn seiliedig ar 37 awr) ar sail pro rata yn unol â hynny
Cyfradd yr awr: £13.88 - £14.32
Oriau Contract: 31
Dewch i ymuno â'n tîm Mae croeso i weithwyr gofal profiadol a'r rheiny sy'n newydd i ofal wneud cais. Bydd yr unigolion yn gweithio fel rhan o dîm i ddarparu gofal a chymorth o ansawdd uchel mewn lleoliad gofal preswyl. Mae bod yn weithiwr Gofal yn rôl werth chweil ac rydym yn chwilio am unigolion sy'n frwdfrydig, yn angerddol, sydd ag agwedd gadarnhaol ac sydd am wneud gwahaniaeth i fywydau'r bobl rydym yn eu cefnogi.
. Bydd y cyfrifoldebau hefyd yn cynnwys (ond nid yn gyfyngedig i):
Dyletswyddau Gofal Personol
- Symud a Thrin, gan ddefnyddio offer lle bo'r angen
- Paratoi Prydau Bwyd ">Cymorth gyda meddyginiaeth (yn unol â Pholisi Meddyginiaeth yr Awdurdod) ">Cymryd cyfarwyddyd gan weithwyr proffesiynol sy'n ymweld (Therapydd Galwedigaethol, Ffisiotherapydd, Meddyg Teulu, Nyrs Ardal ac ati)
Manteision gweithio i Gyngor Sir Caerfyrddin: Gwyliau blynyddol â thâl, Cynllun Pensiwn yr Awdurdod Lleol, Gwasanaeth Iechyd Galwedigaethol, Cynllun Beicio i'r Gwaith, oriau gwarantedig dan gontract, patrwm gwaith rheolaidd, gwisg a chyfarpar diogelu personol (PPE) wedi'u darparu, pecyn sefydlu a hyfforddi llawn â thâl, a llwybr dilyniant gyrfa ardderchog.
Bydd disgwyl i'r holl staff gofal weithio tuag at QCF Lefel 2 at ddibenion cofrestru.
Cysylltwch â JESzubka @carmarthenshire.gov.uk Tel 0 1554 771835
Disgrifiad Swydd: 010009.pdf - 237KB ~~EFORM_FILE_NEW_WINDOW~~
Dyddiad disgwyliedig y cyfweliad: 8 Tachwedd 2024
Lefel DBS: Bydd gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd gan Wirio'r Rhestr Wahardd yn ofynnol ar gyfer y swydd hon. Mae'n drosedd gwneud cais am y swydd os yw'r ymgeisydd wedi'i wahardd rhag cymryd rhan mewn gweithgareddau a reoleiddir sy'n berthnasol i blant neu oedolion sydd mewn perygl.
Lefel Sgiliau Cymraeg - Siarad: Lefel 3 - Bydd angen ichi fod â lefel dda o Gymraeg llafar. Gellir darparu cymorth rhesymol ar ôl penodi i gyrraedd y lefel hon.
Dyddiad Cau: 02/12/2024, 23:55
Y Buddion Rydym yn cynnig pecyn buddion ardderchog, gan gynnwys:
- Cyflog cystadleuol
- Cofrestru'n awtomatig i'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
- Hawl i wyliau blynyddol hael gyda'r opsiwn o brynu gwyliau blynyddol ychwanegol
- Mynediad at gymorth iechyd a llesiant i staff
- Datblygiad personol a dilyniant gyrfa
- Cynlluniau disgownt staff a buddion eraill e.e., cynllun beicio i'r gwaith
- Gweithio hyblyg a pholisïau sy'n ystyriol o deuluoedd
Gwybodaeth Ychwanegol Rydym wedi ymrwymo i recriwtio diogel a theg, diogelu ac amddiffyn y rhai yr ydym yn gofalu amdanynt ac yn eu gwasanaethu. Rydym yn sicrhau bod ein holl staff yn cael eu fetio, eu dethol, eu hyfforddi a'u goruchwylio'n deg ac i safon uchel fel y gallant ddarparu gofal diogel, effeithiol a thosturiol. ">
Nodwch fod rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth arall addas os yw eu swyddi mewn perygl; rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cofrestr adleoli. Cymhwysedd: Gofynnir i chi am eich cenedligrwydd ac a oes gennych hawl gyfreithiol i weithio yn y Deyrnas Unedig. Gwneir hyn er mwyn cael gwybod a ydych yn gymwys i wneud cais am y swydd wag hon. Mae hyn yn ofynnol ar gyfer gweithio yn y Cyngor neu mewn sefydliadau partner: https://www.gov.uk/prove-right-to-work .
Nodwch: Os nad ydych yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, ni fydd eich cais yn symud ymlaen. Os daw'n amlwg yn ddiweddarach yn y broses nad ydych yn gymwys i wneud cais, efallai y bydd eich cais neu eich cynnig yn cael ei dynnu'n ôl.
Sut i wneud cais: Rhaid i bob cais am y swydd wag hon gael ei wneud drwy ein system ymgeisio ar-lein. Os oes gennych nam sy'n eich atal rhag gwneud cais ar-lein, e-bostiwch: swyddi@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01267 234567 a gofynnwch am 'Recriwtio' i drafod trefniadau eraill i'ch helpu yn y broses.
Gweler y canllawiau 'Sut rydym yn recriwtio' ar y Dudalen Gyrfaoedd i gael rhagor o wybodaeth am y broses recriwtio.