Neidio i'r prif gynnwys
Cyffredinol

18 Tachwedd 2024

Ymgyrch gofal cartref ac ailalluogi

Bill and Holly

Ymgyrch gofal cartref ac ailalluogi

Rhwng 18 Tachwedd - 8 Rhagfyr, mae Gofalwn Cymru yn taflu goleuni ar ofal cartref ac ailalluogi. Byddwn yn rhannu straeon ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol, yn dysgu am yr amrywiaeth o rolau sydd ar gael ac yn edrych ar bwysigrwydd y gwasanaethau hyn.

Mae gwasanaethau gofal cartref yn helpu unigolion i gadw mewn cysylltiad â'u cymunedau, eu teulu a'u ffrindiau. Mae'n ofal personol i'r rhai sy'n gwella o lawdriniaeth, neu sydd ag anableddau. Mae gweithio yn y maes hwn yn eich galluogi i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl drwy eu helpu i aros yn ddiogel ac yn annibynnol gartref.

I gefnogi ein hymgyrch byddwn yn cynnal ein sesiynau Blas ar.

Mae'r gweminarau Blas ar yn awr o hyd, am ddim ac yn addas ar gyfer unrhyw un sy'n byw yng Nghymru sydd eisiau dysgu mwy am ofal cartref neu ailalluogi. Gweler isod am ragor o wybodaeth a sut i archebu eich lle.

Blas ar: Gofal cartref

Gweminar am ddim ar 28 Tachwedd rhwng 1:30pm a 2:30pm i bobl sy'n byw yng Nghymru sydd â diddordeb mewn dysgu mwy am sut i fynd i mewn i waith gofal cartref.
Karima, a home care worker sat in her car smiling

Blas ar: Aillalluogi

Gweminar am ddim ar 5 Rhagfyr rhwng 10:00am a 11:00am i bobl sy'n byw yng Nghymru sydd â diddordeb mewn dysgu mwy am sut i fynd i mewn i ailalluogi.
Bill with Holly his reablement worker smiling

Dyma Karima

Mae Karima yn weithiwr gofal cartref ymroddedig ers dros 15 mlynedd. Yn wreiddiol o Libya gyda gradd mewn Daeareg, daeth o hyd i'r ffit perffaith mewn gwaith gofal fel mam sengl.

"Beth dwi'n ei garu fwyaf? Y defnyddwyr gwasanaeth - maen nhw fel teulu i mi!" Eisiau gwneud gwahaniaeth? Dywed Karima: “Nid oes angen profiad arnoch chi - dim ond tosturi!”

Stori Ailalluogi Bill

Buom yn cydweithio â thîm ailalluogi RhCT i gael blas ar y gwasanaeth ailalluogi yn yr ardal. Cymerwch olwg ar ein fideo newydd sy'n cynnwys Bill, sy'n rhannu ei stori ysbrydoledig am sut y gwnaeth y gwasanaeth ailalluogi ei gefnogi i adennill ei annibyniaeth ar ôl torri asgwrn y forddwyd.

Her 50 diwrnod

Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio her 50 diwrnod gyda’r nod o wella’r broses o ryddhau cleifion o’r ysbyty a gofal cymunedol er mwyn lleddfu pwysau’r gaeaf ar y system iechyd a gofal.

Mae’r fenter hon, sy’n dechrau ar 11 Tachwedd, 2024, yn golygu bod byrddau iechyd ac awdurdodau lleol yn cydweithio i helpu cleifion i ddychwelyd adref yn ddiogel ac yn brydlon.

Nod y cynllun yw:

  • Gwella gweithdrefnau rhyddhau o'r ysbyty a chynllunio ar gyfer rhyddhau o'r pwynt derbyn.
  • Gweithredu gwaith saith diwrnod i alluogi rhyddhau ar benwythnosau.
  • Darparu adsefydlu ac ailalluogi cymunedol i gefnogi adferiad yn y cartref.
  • Sefydlu canolbwyntiau mordwyo integredig i gefnogi rhyddhau o'r ysbyty ac osgoi derbyniadau cymunedol

Mae’r her yn targedu’r rhai sydd wedi profi arhosiadau hir yn yr ysbyty, gyda’r nod o leihau oedi a gwella canlyniadau i gleifion drwy hybu arferion gorau ledled Cymru.

Mae’r ymdrech hon yn rhan o’r cynlluniau gwydnwch gaeaf ehangach, a gefnogir gan gyllid sylweddol i feithrin gallu cymunedol a sicrhau trosglwyddiadau gofal effeithiol.

Darllenwch fwy am yr her 50 diwrnod yma: Her 50 diwrnod i helpu i cleifion i adael yr ysbyty ac i wella gofal cymunedol | LLYW.CYMRU

Peidiwch ag anghofio dilyn ein hymgyrch ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol

Mwy o erthyglau newyddion

Dewch o hyd i swydd mewn gofal plant

Os ydych chi'n ystyried gyrfa mewn gofal, edrychwch ar ein bwrdd swyddi i gael syniad o'r math o rolau sy'n fanteisiol.