Rydyn ni'n recriwtio Gweithiwr Cymorth Gofal Plant yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Oriau gwaith: 18.5
Math o gontract: Rhan Amser, Parhaol
Lleoliad: Tŷ Pawb
Tîm: Tîm Cymorth Dwys
Mae'r swydd hon yn cynnig cyfle gwych i ddod yn rhan o'n tîm ni a darparu cymorth ar draws y sefydliad.
Rydyn ni'n talu cyflog deniadol o £14,299 - £15,511 ac yn cynnig mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu. Mae'r Tîm Cymorth Dwys yn gweithio ochr yn ochr â theuluoedd, yn unol â'r hyn sy'n bwysig iddyn nhw, i'w cynorthwyo nhw i gyflawni eu canlyniadau dymunol a sicrhau gofal i blant o fewn eu teuluoedd, os yw hi'n ddiogel gwneud hynny. Rydyn ni'n dîm amlddisgyblaethol sy'n cynnwys Uwch Ymarferwyr, Seicolegydd Plant, Ymwelydd Iechyd a Swyddog Addysg.
Rydyn ni'n awyddus i recriwtio gweithiwr cymorth profiadol i weithio ochr yn ochr â theuluoedd mewn argyfwng, i feithrin gwytnwch i alluogi plant a phobl ifanc i aros a ffynnu o fewn eu teuluoedd, ac atal plant rhag dod yn rhai sy'n derbyn gofal. Byddwch chi'n gweithio'n uniongyrchol gyda phlant, pobl ifanc a'u teuluoedd i adeiladu ar eu cryfderau a'u galluogi nhw i ddod o hyd i atebion i'w problemau er mwyn i deuluoedd aros gyda'i gilydd.
Byddwch chi'n cynorthwyo teuluoedd i ddatblygu strategaethau ymdopi priodol a darparu pecynnau cymorth pwrpasol i alluogi teuluoedd a gofalwyr i gyflawni eu nodau, yn unol ân bwysig iddyn nhw. Rhaid i ymgeiswyr feddu ar brofiad sylweddol o weithio gyda phlant, pobl ifanc a'u teuluoedd. Byddai disgwyl i ymgeiswyr fod yn hyblyg, meddu ar agwedd gadarnhaol a'r gallu i ysgogi pobl i wneud newidiadau cadarnhaol yn eu bywydau.
Ar gyfer y rôl, gofynnwn i chi: - Lefel 2 Gofal neu gymhwyster cyfwerth ar Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru (CQFW).
- Y gallu i weithio mewn partneriaeth ag asiantaethau a theuluoedd wrth asesu/cynllunio ar gyfer plant a phobl ifanc sydd angen gofal a chymorth.
- Profiad o weithio gyda phlant, pobl ifanc a'u teuluoedd.
- Trwydded yrru lawn Categori B (Ceir) y DU a'r defnydd o gerbyd modur wedi'i yswirio at ddibenion busnes i deithio ledled y fwrdeistref i fynychu cyfarfodydd.
Mae gennym ni fuddion rhagorol gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, patrymau gweithio ystwyth a chynlluniau disgownt i staff.
I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, dewiswch yr atodiad perthnasol o’r rhestr atodiadau
Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Karen Singler ar 01495 233261 neu ebost:
singlk@caerphilly.gov.uk.
Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.
Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â webrecruitment@caerphilly.gov.uk am ragor o wybodaeth. r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
YMGEISWYR MEWNOL YN UNIG