Ynglŷn â'r swydd wag   Cyfeirnod y Swydd Wag: 258 
Sefydliad: 
Cyngor Sir Caerfyrddin 
Nifer y swyddi gwag: 
lluosog 
Math o gontract: 
Achlysurol 
Lleoliad: 
Sir Gaerfyrddin 
Gradd: 
Gradd D 
Cyfradd yr awr: 
£13.26 
Oriau Contract: 
Dim Awr 
Dewch i ymuno â'n tîm Cyfle i unigolyn brwdfrydig, a fydd yn ofynnol i gynhyrchu prydau maethlon o safon. Bydd y cyfrifoldebau hefyd yn cynnwys (ond nid yn gyfyngedig i): 
 cynorthwyo a chefnogi'r Cogydd â Gofal i drefnu rotâu gwaith a dyrannu dyletswyddau staff. 
 Cynorthwyo a chefnogi'r Cogydd â Gofal i gynnal systemau gwybodaeth reoli 
 ymgymryd â'r holl ddyletswyddau clerigol gan gynnwys trefn cyflenwadau a rheoli stoc 
 Am sgwrs anffurfiol cysylltwch â: 
Jane Evans ar SJEvans@sirgar.gov.uk 
Disgrifiad Swydd: 
Casual - Cook.pdf - 224KB ~~EFORM_FILE_NEW_WINDOW~~ 
Lefel DBS: 
Bydd gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn ofynnol ar gyfer y swydd hon 
Lefel Sgiliau Cymraeg - Siarad: 
Lefel 2 - Bydd angen ichi fod â lefel sylfaenol o Gymraeg llafar. Gellir darparu cymorth rhesymol ar ôl penodi i gyrraedd y lefel hon. 
Dyddiad Cau: 10/12/2025, 23:55 
Y Buddion Rydym yn cynnig pecyn buddion ardderchog, gan gynnwys: 
- Cyflog cystadleuol 
- Cofrestru'n awtomatig i'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
- Hawl i wyliau blynyddol hael gyda'r opsiwn o brynu gwyliau blynyddol ychwanegol
- Mynediad at gymorth iechyd a llesiant i staff
- Datblygiad personol a dilyniant gyrfa
- Cynlluniau disgownt staff a buddion eraill e.e., cynllun beicio i'r gwaith
- Gweithio hyblyg a pholisïau sy'n ystyriol o deuluoedd 
Gwybodaeth YchwanegolRydym wedi ymrwymo i recriwtio diogel a theg, diogelu ac amddiffyn y rhai yr ydym yn gofalu amdanynt ac yn eu gwasanaethu. Rydym yn sicrhau bod ein holl staff yn cael eu fetio, eu dethol, eu hyfforddi a'u goruchwylio'n deg ac i safon uchel fel y gallant ddarparu gofal diogel, effeithiol a thosturiol. ">
Nodwch fod rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth arall addas os yw eu swyddi mewn perygl; rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cofrestr adleoli. Cymhwysedd:  Gofynnir i chi am eich cenedligrwydd ac a oes gennych hawl gyfreithiol i weithio yn y Deyrnas Unedig. Gwneir hyn er mwyn cael gwybod a ydych yn gymwys i wneud cais am y swydd wag hon. Mae hyn yn ofynnol ar gyfer gweithio yn y Cyngor neu mewn sefydliadau partner: https://www.gov.uk/prove-right-to-work . 
Nodwch: Os nad ydych yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, ni fydd eich cais yn symud ymlaen. Os daw'n amlwg yn ddiweddarach yn y broses nad ydych yn gymwys i wneud cais, efallai y bydd eich cais neu eich cynnig yn cael ei dynnu'n ôl. 
Sut i wneud cais:  Rhaid i bob cais am y swydd wag hon gael ei wneud drwy ein system ymgeisio ar-lein. Os oes gennych nam sy'n eich atal rhag gwneud cais ar-lein, e-bostiwch: swyddi@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01267 234567 a gofynnwch am 'Recriwtio' i drafod trefniadau eraill i'ch helpu yn y broses. 
Gweler y canllawiau 'Sut rydym yn recriwtio' ar y Dudalen Gyrfaoedd i gael rhagor o wybodaeth am y broses recriwtio.