Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu'n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi fel un o'r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Joan Povey ar 01286 674888
Ffurflenni cais a manylion pellach gan , Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076
E-bost: Swyddi@gwynedd.llyw.cymru
DYDDIAD C AU: 17/07/2025
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy'r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Pecyn Recriwtio Oedolion, Iechyd a Llesiant (6).pdf
Os hoffech gefnogaeth i ymgeisio, mae Gwaith Gwynedd ar gael i roi cymorth i drigolion Gwynedd mynd i waith - am fwy o wybodaeth cliciwch yma .
Manylion Person
NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL
Person gweithgar a thaclus Bod yn berson sensitif, ymroddedig gyda'r gallu i weithredu mewn modd sy'n parchu hawliau'r unigolyn bob amser. Gallu gweithredu fel aelod o dim.
DYMUNOL -
CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL -
DYMUNOL
Tystysgrif Glendid Bwyd Hyfforddiant mewn iechyd a diogelwch e.e. symud a thrin neu cymorth cyntaf
PROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL -
DYMUNOL
Profiad o baratoi bwyd blasus a syml ar gyfer nifer o bobl. Profiad o waith domestig Ymwybyddiaeth am bobl gydag anabledd dysgu
SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOL
Sgiliau coginio da Meddu a'r sgiliau rhyngbersonol da Sgiliau cyfathrebu da Dealltwriaeth am anghenion pobl ag anabledd dysgu
DYMUNOL -
ANGHENION IEITHYDDOL
HANFODOL
Gwrando a Siarad - Lefel Canolradd
Gallu cynnal sgwrs rwydd ar nifer o bynciau amrywiol bob dydd, a thrafod achosion sy'n ymwneud â'r maes gwaith. Gallu dilyn trafodaeth yn y Gymraeg, mewn Cymraeg Clir, ar faterion cyfarwydd yn ymwneud â'r swydd. Gallu cyfrannu at y sgwrs ac ateb cwestiynau.
Darllen a Deall - Lefel Canolradd
Deall gohebiaeth bob dydd ar faterion cyfarwydd yn y gwaith. Deall adroddiadau hirach mewn Cymraeg Clir a medru codi'r prif bwyntiau. ( Mae'n bosib y bydd angen cymorth gyda geirfa.)
Ysgrifennu - Lefel Canolradd
Gallu ysgrifennu llythyrau i bwrpas penodol, negeseuon ebost ac adroddiadau byr drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg gan ddefnyddio geirfa ac ymadroddion syml sy'n gyfarwydd i'r maes gwaith. (Bydd angen eu gwirio cyn eu hanfon allan).
Dylid disgrifio'r nodweddion rheiny a ddisgwylir gan ddeilydd y swydd. Defnyddir rhain fel meini prawf wrth asesu pob ymgeisydd.
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y swydd • Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
• Cynorthwyo gyda threfniadaeth a rheolaeth y gegin a dirprwyo yn lle'r Cogydd (es) pan fo ef/hi'n absennol.
• Bydd y dyletswyddau'n cynnwys paratoi bwyd a diod, coginio prydau yn ôl y bwydlenni, paratoi ac arlwyo'r rhain, golchi llestri a dyletswyddau glanhau cyffredinol.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer • Cyfrifoldeb am staff, cyllid ac offer y gegin yn absenoldeb y cogydd(es). Rhoi gwybod i'r rheolwr, neu'r adain eiddo neu asiantaeth arall am unrhyw ddiffyg yn adeilad y gegin ac unrhyw offer sy'n gysylltiedig â'r gegin.
Prif ddyletswyddau • Sicrhau fod defnyddwyr y gwasanaeth yn cadw eu hurddas, annibyniaeth a'u hawliau ar bob achlysur. Rhan annatod o hyn yw sicrhau fod y defnyddwyr yn cael cyfle i ddewis eu bwyd pob dydd ac yn cael mewnbwn i'r math o fwyd a ddarperir.
• Cefnogi'r gogyddes gyda chynnal cyfarfodydd gyda'r defnyddwyr Gwasanaeth i gael Dysgu ac dod i'w hadnabod.
• I fod ar parodrwydd i ddysgu i baratoi prydau bwyd ar gyfer unigolion ag anghenion cymhleth
• I ymrwymo i gefnogi gyda gweithgareddau coginio gyda'r defnyddwyr Gwasanaeth
• I gyd weithio ar drefnu nosweithiau themâu
• Cynorthwyo'r cogydd(es) ac yn absenoldeb y cogydd(es) sicrhau fod trefniadaeth a gweinyddiaeth y gegin yn effeithiol ac yn effeithlon ac yn cydymffurfio a deddfwriaeth perthnasol Iechyd a Diogelwch a pholisïau a chanllawiau'r Cyngor.
•r cogydd(es) ac yn absenoldeb y cogydd(es) archebu, paratoi, coginio a chyflwyno bwyd maethlon a blasus ar gyfer defnyddwyr y gwasanaeth mewn amgylchedd glan gan gydymffurfio a'r canllawiau perthnasol.
•r cogydd(es) ac yn absenoldeb y cogydd(es) cynllunio a dilyn bwydlen gan ystyried anghenion maethlon
• Rheoli maint y prydau yn unol â'r canllawiau perthnasol a dymuniad defnyddwyr y gwasanaeth.
• Cadw i drefniadau glanhau, gan ddiweddaru'r cynlluniau
• Adrodd ar ddiffygion yn y gegin , gan gynnwys materion eiddo.
•r cogyddes i sicrhau nad yw'r gegin yn mynd dan safon.
• Mynychu a chymerid rhan mewn cyfarfodydd staff
• Mynychu Hyfforddiant perthnasol i'r swydd
• Cydymffurfio gyda'r gofynion perthnasol , 'deddf rheoleiddio ac arolygu Gofal cymdeithasol Cymru 2016'
• Cytuno i unrhyw archwiliad meddygol y bernir ei fod o fudd i'r gweithiwr a/neu'r Gwasanaeth
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â'r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu o fewn polisïau'r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â'r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy'n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
• Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig • I fod yn barod i ymateb i alwad i gefngi Cartref arall yn yr ardal mewn argyfwng
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr