Ynglŷn â'r swydd wag Cyfeirnod y Swydd Wag: 2290
Sefydliad:
Cyngor Sir Caerfyrddin
Nifer y swyddi gwag:
2
Math o gontract:
Parhaol Amser Llawn
Lleoliad:
Sir Gaerfyrddin
Gradd:
Gradd G +8%
Cyflog:
£34,626 - £39,272
Os yw'n rhan-amser a/neu yn ystod y tymor, bydd y cyflog llawn amser a ddyfynnir (yn seiliedig ar 37 awr) ar sail pro rata yn unol â hynny
Cyfradd yr awr:
£17.95 - £20.36
Oriau Contract:
37
Dewch i ymuno â'n tîm Darparu gofal sy'n cefnogi adferiad ac yn gwneud gwahaniaeth parhaol.Ymunwch â'n Tîm
(sydd wedi cael sgôr Rhagorol gan AGC) fel
Cydgysylltydd Gofal CanolraddolYdych chi'n angerddol am gefnogi pobl i adennill annibyniaeth ar ôl salwch, anaf neu gael eu rhyddhau o'r ysbyty? Fel
Cydgysylltydd Gofal Canolraddol, byddwch chi'n chwarae rôl hanfodol wrth gefnogi unigolion, oedolion hŷn yn bennaf, i drosglwyddo'n ddiogel ac yn hyderus yn ôl i fyw'n annibynnol.
Byddwch y Cyswllt sy'n Gwneud GwahaniaethYn y rôl werth chweil hon, byddwch chi'n gweithio'n agos gydag unigolion a thîm amlddisgyblaethol i asesu anghenion, datblygu cynlluniau ailalluogi wedi'u teilwra, a chydgysylltu cymorth amserol, sy'n canolbwyntio ar y person. Bydd eich ymdrechion yn sicrhau bod y cymorth cywir yn cael ei ddarparu ar yr adeg iawn, gan wneud y mwyaf o adferiad ac atal aildderbyn diangen i'r ysbyty neu ofal hirdymor.
Beth ydyn ni'n chwilio amdano:- Sgiliau cryf o ran cyfathrebu a threfnu
- Yn dosturiol, yn canolbwyntio ar atebion ac yn gallu peidio â chynhyrfu dan bwysau
- Y gallu i weithio ar y cyd ar draws lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol
- Profiad mewn cydgysylltu gofal, iechyd neu ofal cymdeithasol (yn ddymunol, ond nid yw'n hanfodol os oes gennych y meddylfryd cywir a'r sgiliau trosglwyddadwy)
Mae'r rôl yn cynnwys:- Gweithio mewn Tîm gofal canolraddol amlddisgyblaethol sydd wedi'i bartneru â Bwrdd Iechyd Hywel Dda
- Brysbennu atgyfeiriadau newydd a helpu i atal derbyniadau diangen i'r ysbyty
- Cefnogi unigolion gyda gosod nodau a chynllunio adsefydlu
- Gweithio'n agos gydag unigolion a gweithwyr proffesiynol i hyrwyddo annibyniaeth ac adferiad
- Cyfrannu at ddull cydweithredol o ofal sy'n canolbwyntio ar y person
Pam Ymuno â Ni?Byddwch chi'n rhan o dîm cefnogol, blaengar sy'n ymrwymedig i wneud gwahaniaeth go iawn, un person ar y tro.
Rydyn ni'n darparu:
- Rhaglen ymsefydlu gynhwysfawr, hyfforddiant a datblygiad proffesiynol parhaus
- Cyfleoedd i dyfu eich gyrfa ym maes iechyd a gofal cymdeithasol
- Rôl lle mae eich llais, eich arbenigedd a'ch tosturi yn bwysig
P'un a ydych chi'n camu i fyny o rôl gymorth neu'n dod â phrofiad cydgysylltu o faes gwahanol, dyma'ch cyfle i helpu i lunio gofal sy'n trawsnewid bywydau.
Gwnewch eich swydd nesaf yn un sy'n wirioneddol bwysig. Ymunwch â ni a helpwch bobl i fyw'n fwy annibynnol, bob dydd.Mae ein graddau cyflog yn hynod gystadleuol gyda swyddi tebyg ar draws y sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Mae'r gyfradd fesul awr ar gyfer oriau cytundebol gwarantedig ymhlith y rhai sy'n talu orau yng Nghymru ac rydym hefyd yn gallu cynnig amrywiaeth o fuddion eraill, megis talu am deithio rhwng galwadau yn ogystal â 45c y filltir am gostau car personol, y defnydd o geir adrannol, mynediad at gynlluniau gwobrwyo, cynllun pensiwn o safon uchel, hawl gwyliau â thâl hael, lwfansau mamolaeth a thadolaeth a llawer mwy.
Darperir dillad gwaith, bagiau, cyfarpar diogelu personol a ffonau symudol i bob aelod o'n tîm gofal cartref i weld eu rotâu a gwybodaeth am yr hyn sy'n digwydd yn y gwasanaeth a'r cyngor sir ehangach, gan gynnwys cynlluniau gostyngiadau i staff.
Os ydych am gael sgwrs anffurfiol am y swydd, cysylltwch â:
- Gail Sinclair: 07368 808289
- Marilyn Maynard/Bethan Davis: 01267 246928 / 07977 312326
Disgrifiad Swydd:
035356.pdf - 260KB ~~EFORM_FILE_NEW_WINDOW~~
Lefel DBS:
Bydd gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd gan Wirio'r Rhestr Wahardd yn ofynnol ar gyfer y swydd hon. Mae'n drosedd gwneud cais am y swydd os yw'r ymgeisydd wedi'i wahardd rhag cymryd rhan mewn gweithgareddau a reoleiddir sy'n berthnasol i blant neu oedolion sydd mewn perygl.
Lefel Sgiliau Cymraeg - Siarad:
Lefel 3 - Bydd angen ichi fod â lefel dda o Gymraeg llafar. Gellir darparu cymorth rhesymol ar ôl penodi i gyrraedd y lefel hon.
Dyddiad Cau: 12/10/2025, 23:55
Y Buddion Rydym yn cynnig pecyn buddion ardderchog, gan gynnwys:
- Cyflog cystadleuol
- Cofrestru'n awtomatig i'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
- Hawl i wyliau blynyddol hael gyda'r opsiwn o brynu gwyliau blynyddol ychwanegol
- Mynediad at gymorth iechyd a llesiant i staff
- Datblygiad personol a dilyniant gyrfa
- Cynlluniau disgownt staff a buddion eraill e.e., cynllun beicio i'r gwaith
- Gweithio hyblyg a pholisïau sy'n ystyriol o deuluoedd
Gwybodaeth Ychwanegol Rydym wedi ymrwymo i recriwtio diogel a theg, diogelu ac amddiffyn y rhai yr ydym yn gofalu amdanynt ac yn eu gwasanaethu. Rydym yn sicrhau bod ein holl staff yn cael eu fetio, eu dethol, eu hyfforddi a'u goruchwylio'n deg ac i safon uchel fel y gallant ddarparu gofal diogel, effeithiol a thosturiol. ">
Nodwch fod rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth arall addas os yw eu swyddi mewn perygl; rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cofrestr adleoli. Cymhwysedd: Gofynnir i chi am eich cenedligrwydd ac a oes gennych hawl gyfreithiol i weithio yn y Deyrnas Unedig. Gwneir hyn er mwyn cael gwybod a ydych yn gymwys i wneud cais am y swydd wag hon. Mae hyn yn ofynnol ar gyfer gweithio yn y Cyngor neu mewn sefydliadau partner: https://www.gov.uk/prove-right-to-work .
Nodwch: Os nad ydych yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, ni fydd eich cais yn symud ymlaen. Os daw'n amlwg yn ddiweddarach yn y broses nad ydych yn gymwys i wneud cais, efallai y bydd eich cais neu eich cynnig yn cael ei dynnu'n ôl.
Sut i wneud cais: Rhaid i bob cais am y swydd wag hon gael ei wneud drwy ein system ymgeisio ar-lein. Os oes gennych nam sy'n eich atal rhag gwneud cais ar-lein, e-bostiwch: swyddi@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01267 234567 a gofynnwch am 'Recriwtio' i drafod trefniadau eraill i'ch helpu yn y broses.
Gweler y canllawiau 'Sut rydym yn recriwtio' ar y Dudalen Gyrfaoedd i gael rhagor o wybodaeth am y broses recriwtio.