Ynglŷn â'r swydd wag Cyfeirnod y Swydd Wag: 1655
Sefydliad:
Cyngor Sir Caerfyrddin
Adran:
Diogelu Oedolion a Threfniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid
Nifer y swyddi gwag:
1
Math o gontract:
Dros Dro/Secondiad - Amser Llawn
Dyddiad gorffen y contract:
31 Mawrth 2026
Lleoliad:
Amrywiol
Gradd:
Gradd I
Cyflog:
£37,938 - £41,511
Os yw'n rhan-amser a/neu yn ystod y tymor, bydd y cyflog llawn amser a ddyfynnir (yn seiliedig ar 37 awr) ar sail pro rata yn unol â hynny
Cyfradd yr awr:
£19.66 - £21.52
Oriau Contract:
37 awr
Dewch i ymuno â'n tîm Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig, trefnus a chymwys i gefnogi'r Ymgynghorydd Rhanbarthol a defnyddio dull effeithiol i gydlynu gweithgareddau dan Gynllun Cyflawni Strategol Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Canolbarth a Gorllewin Cymru (VAWDASV).
Mae hon yn agenda hynod o brysur, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol, lle mae'n hanfodol cydgysylltu a gweithio gyda phartneriaid strategol ar draws Canolbarth a Gorllewin Cymru. Y prif fwriad yw cydlynu a chefnogi ymgysylltu o ran gweithredu'r strategaeth VAWDASV Ranbarthol a gweithgareddau cysylltiedig.
Byddwch yn rhoi cymorth i'r Ymgynghorydd Rhanbarthol ac arweinwyr y ffrwd waith o ran gweinyddu, trefnu a gweithredu gwaith i gyflawni'r amcanion o dan y Strategaeth Ranbarthol a'r Cynllun Cyflawni.
Bydd hyn yn cynnwys ysgrifennu adroddiadau ansoddol a meintiol, monitro drwy brosesau ariannol a chasglu data o amrywiaeth eang o ffynonellau. Mae gwybodaeth a phrofiad ym maes VAWDASV a meysydd tebyg yn hanfodol.
Bydd disgwyl i chi hefyd ddirprwyo ar ran yr Ymgynghorydd Rhanbarthol a'i gynrychioli mewn cyfarfodydd lleol, rhanbarthol a chenedlaethol er mwyn rhoi adborth a'r wybodaeth ddiweddaraf i lywio gwaith o dan y Strategaeth Ranbarthol.
I gael trafodaeth anffurfiol, cysylltwch â Natalie Hancock - Ymgynghorydd Rhanbarthol Canolbarth a Gorllewin Cymru ar
nhancock@sirgar.gov.uk Disgrifiad Swydd:
029958.pdf - 194KB ~~EFORM_FILE_NEW_WINDOW~~
Dyddiad disgwyliedig y cyfweliad:
19 Gorffennaf 2025
Lefel DBS:
Bydd gwiriad safonol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn ofynnol ar gyfer y swydd hon
Lefel Sgiliau Cymraeg - Siarad:
Lefel 3 - Bydd angen ichi fod â lefel dda o Gymraeg llafar. Gellir darparu cymorth rhesymol ar ôl penodi i gyrraedd y lefel hon.
Dyddiad Cau: 23/06/2025, 23:55
Y Buddion Rydym yn cynnig pecyn buddion ardderchog, gan gynnwys:
- Cyflog cystadleuol
- Cofrestru'n awtomatig i'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
- Hawl i wyliau blynyddol hael gyda'r opsiwn o brynu gwyliau blynyddol ychwanegol
- Mynediad at gymorth iechyd a llesiant i staff
- Datblygiad personol a dilyniant gyrfa
- Cynlluniau disgownt staff a buddion eraill e.e., cynllun beicio i'r gwaith
- Gweithio hyblyg a pholisïau sy'n ystyriol o deuluoedd
Gwybodaeth Ychwanegol Rydym wedi ymrwymo i recriwtio diogel a theg, diogelu ac amddiffyn y rhai yr ydym yn gofalu amdanynt ac yn eu gwasanaethu. Rydym yn sicrhau bod ein holl staff yn cael eu fetio, eu dethol, eu hyfforddi a'u goruchwylio'n deg ac i safon uchel fel y gallant ddarparu gofal diogel, effeithiol a thosturiol. ">
Nodwch fod rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth arall addas os yw eu swyddi mewn perygl; rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cofrestr adleoli. Cymhwysedd: Gofynnir i chi am eich cenedligrwydd ac a oes gennych hawl gyfreithiol i weithio yn y Deyrnas Unedig. Gwneir hyn er mwyn cael gwybod a ydych yn gymwys i wneud cais am y swydd wag hon. Mae hyn yn ofynnol ar gyfer gweithio yn y Cyngor neu mewn sefydliadau partner: https://www.gov.uk/prove-right-to-work .
Nodwch: Os nad ydych yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, ni fydd eich cais yn symud ymlaen. Os daw'n amlwg yn ddiweddarach yn y broses nad ydych yn gymwys i wneud cais, efallai y bydd eich cais neu eich cynnig yn cael ei dynnu'n ôl.
Sut i wneud cais: Rhaid i bob cais am y swydd wag hon gael ei wneud drwy ein system ymgeisio ar-lein. Os oes gennych nam sy'n eich atal rhag gwneud cais ar-lein, e-bostiwch: swyddi@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01267 234567 a gofynnwch am 'Recriwtio' i drafod trefniadau eraill i'ch helpu yn y broses.
Gweler y canllawiau 'Sut rydym yn recriwtio' ar y Dudalen Gyrfaoedd i gael rhagor o wybodaeth am y broses recriwtio.